麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Elain gan Sonia Edwards
Darllenwch am Elain, nofel fer gan Sonia Edwards. Gwasg Gomer. 拢5.99,


Mae nofel a dderbyniodd ganmoliaeth uchel yng ngystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Meifod 2003 yn awr wedi ei chyhoeddi.

Dyma ddywedodd y beirniaid am Elain gan Sonia Edwards:
Clawr y nofel"Ceir ysgrifennu synhwyrus, barddonol, a delweddu effeithiol. Mae'r deialogau'n grefftus tu hwnt a'r awdur yn hen gyfarwydd 芒 thechneg sgriptio. Mae yma hefyd ddawn arbennig gyda geiriau, a'r gallu i fynd i mewn i deimladau ingol y ddau ryw."

Dychwelyd i'w chynefin
Stori yw hi am gyflwynwraig deledu lwyddiannus o Gaerdydd yn dychwelyd i'w phentre genedigol ym M么n i baratoi stori am gapten bad achub lleol.

Wrth dwrio yn yr hyn a fu, daw mwy i'r wyneb nag a ddisgwyliai

Meddai Bethan Mair, golygydd llyfrau Cymraeg i oedolion Gwasg Gomer:
"Dyma nofel afaelgar, garlamus, sy'n delio 芒 them芒u oesol fel tyndra rhwng rhieni a phlant, rhwng y Cymry a'r Saeson, a rhwng ddoe a heddiw.

"Yn ganolbwynt i'r cyfan mae stori garu rymus, ond carwriaeth sy'n rhwym wrth y gorffennol yw honno hefyd, ac fel pob rhan o daith Elain yn 么l i F么n, mae iddi ei rhwystredigaethau a'i chyfrinachau."

Enillodd Sonia Edwards y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol1999 yn Llanbedrgoch, M么n ac mae'n awdur toreithiog nifer o gyfrolau o ryddiaith a barddoniaeth. Mae hi'n athrawes ac yn byw yn Llangefni, Ynys M么n.

Elin Wyn Meredith fu'n darllen y nofel
ar gyfer Llais Ll锚n. Dyma ei sylwadau:

Nofel fer ydy Elain sy'n gofyn cwestiynau canolog am natur perthyn, hunaniaeth a'r ddadl rhwng natur a magwraeth.

Mae'n debyg fod pob person ifanc gwerth ei halen wedi gofyn y cwestiwn "Pwy ydw i?" ar ryw adeg llawn angst yn eu harddegau ac ychydig o fogail-syllu cyffelyb gan oedolyn a gawn yn Elain.

Mae Elain Llyr yn wraig ifanc, ddeniadol, sydd wedi cyrraedd y brig fel cyflwynydd teledu. Mae hi'n gyfryngi Cymraeg cyfoes o'r iawn ryw sy'n mynd yn 么l i'w chynefin i ffilmio rhaglen deledu. Ond does neb yn ei hadnabod fel Elain Llyr yn ei phentref genedigol. Yn hytrach, Elaine Lousie, y Saesnes fach, ydy hi yno.

Cwrdd 芒'i chariad
Ar 么l gobeithio dod adre a dangos ei bod 'wedi'i gwneud hi', mae'n ailddarganfod ei gorffennol ac yn cwrdd 芒'i chariad cyntaf eto, Wil, sy'n syrthio mewn cariad eilwaith 芒'r ferch a alwai ef yn Nel.

Dechreua'r nofel 芒 dyfyniad gan Shakespeare: 'What's in a name? That which we call a rose by any other name would smell as sweet.'

Ond pwy ydy'r prif gymeriad mewn gwirionedd, ai Elain, Elaine neu Nel? Beth sy'n ein gwneud yn Gymry neu'n Saeson?

Ydy gwaed yn dewach na dwr? Ar yr olwg gynta, 'nac ydy' ydy ateb Sonia Edwards. Er mai Saesnes ydy mam Elaine, perthynas bell ac oeraidd sydd ganddi 芒 hi ac mae'n cael ei magu'n Gymraes loyw l芒n lengar gan ei nain, er gwaethaf eu henw a'i gwreiddiau Seisnig.

. Mae'r thema yma o'r frwydr rhwng dylanwad magwraeth a phwer cyfrin y genynnau yn para drwy'r nofel gan gynnwys ym mherthynas Wil 芒'i fam fabwysiedig a hyd at y diweddglo pan fo Elain ar fin dechrau pennod arall yn ei bywyd.

Yr arddull
Mae arddull ysgrifennu Sonia Edwards yn farddonol iawn ac yn ymddangos cyn bwysiced iddi 芒 sylwedd ei gwaith, os nad efallai'n bwysicach ar brydiau. Mae'n anodd iawn peidio 芒 dotio at ei chymariaethau a'i chyffelybiaethau:
Gorweddai'r gwin yn dyner dros ei synhwyrau fel cynfas sidan.
a
Cyn cyrraedd y Trwyn roedd clustog werdd o dir pori a'r defaid a lynai wrthi'n rhoi'r argraff bod na hen gath fawr biwis wedi bod yno'n trio tynnu'r stwffin ohoni.

Mae ganddi allu digamsyniol i baentio darluniau llawn lliw a dychymyg gyda llond llaw o eiriau cyffredin. Dro arall, mae'r lluniau yn troi'n deimlad neu ddisgrifiad haniaethol:
Neithiwr, a darnau bach o ddoe'n dangos drwyddo fo fel darnau o groen gwyn trwy dwll mewn dilledyn. Neithiwr hefo tyllau yn ei sanau.

Mae hi'n mwynhau rhoi geiriau a brawddegau wrth ei gilydd ac mae amrywio tempo'r llinellau yn gyrru'r darllen ymlaen, bron fel cerdd:
Anadlodd. Heli. Gwymon. Gwylanod. Roedd hi fel petai rhywun wedi cymryd brwsh bras at ei synhwyrau. Gadawodd i'r gwynt chwalu'i gwallt a rhoddodd ei hwyneb iddo.

Portread arwynebol?
Ond er trafod them芒u oesol, mae hi'n taro nodyn chwithig iawn yn ei phortread arwynebol o Saeson, neu hyd yn oed unrhyw un nad yw'n cyrraedd ei safonau iaith aruchel ei hun. Maen nhw i gyd naill ai'n slags bronnog, yn sbrychod diegwyddor, yn oeraidd a dideimlad neu'n ddiddeall ac anniwylliedig.

Ni ellir ond gobeithio mai barn chwerw'r prif gymeriad ydy hyn ac nid yr awdures.

Mae'r Cymry da ar y llaw arall y rhai sy'n gallu dyfynnu Waldo a defnyddio iaith y nefoedd yn idiomatig a chyhyrog - yn gl锚n a chariadus ac yn llawn dyfnder gofalgar.

Ni ddown i adnabod na hoffi Elain a'i hagwedd drahaus a'i 'sglodyn' ar ei hysgwydd mewn gwirionedd ac nid yw'n glir yn y pen draw i ba un o'r carfanau hyn mae hi'n perthyn. Ond efallai mai drwy beidio 芒 dod i gasgliad pendant y mae'r nofel yn ceisio cyfleu ei neges.

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy