| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill gan Daniel Morden Mae chwedlau stor茂wr sydd wedi bod yn adrodd ei straeon ar hyd a lled y byd yn awr ar gael yn y Gymraeg.
Disgrifir "gweithle" y stor茂wr proffesiynol, Daniel Morden, fel "y Caribi, yr Arctig, y byd cyfan a dweud y gwir!" gan gyhoeddwyr Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill, Gwasg Gomer.
"Prin yw'r bobl sy'n medru dweud eu bod yn ennill eu bywoliaeth drwy ddweud stor茂au ond dyna a wna Daniel Morden o'r Fenni," meddai llefarydd ar ran y wasg..
"Ers 1989 mae wedi teithio'r byd yn ymweld 芒 chanolfannau celf, theatrau, amgueddfeydd a gwyliau o bob math."
Fel yr hen gyfarwydd neu stor茂wr traddodiadol mae Daniel yn nyddu ei stori gan ddibynnu ar y gynulleidfa neu'r lleoliad.
gynulleidfa newid ei stori i weddu i'w gynulleidfa a'i leoliad. Ond daw cynulleidfa eang iawn i wybod am ei stor茂au bellach wrth i Wasg Gomer gyhoeddi ei lyfr cyntaf a'i addasu i'r Gymraeg hefyd felY Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill. "Dwi wastad wedi dweud stor茂au. Pan oeddwn i'n ifanc, roedd plant yn gallu cerdded i'r ysgol ar eu pennau eu hunain a bob dydd wrth gerdded fe fyddwn i'n creu stori, un amdana i fy hunan, neu Spiderman neu rhyw gymeriad rhyfedd ro'n i wedi ei greu.
"Pan fyddwn i'n cyrraedd yr ysgol, os nad o'n i wedi gorffen y stori, fe fyddwn i'n cerdded o gwmpas y buarth, yn ei hadrodd hi o dan fy ngwynt ," meddai.
Saith stori yn hud ac arswyd sydd yn y llyfr newydd gyda'r Bwca a'r ffynnon hud yn eu plith.
Mae'r gyfrol yn cynnwys hefyd luniau gan un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Jac Jones o Langefni.
Mae gan Ddaniel Morden ddiolch arbennig i Robin Gwyndaf o Amgueddfa Werin Cymru am ei waith yn casglu llu o straeon gan Lewis T. Evans o Glwyd.
Y Ffyliaid a Phethau Ffiaidd Eraill Daniel Morden addas. Elin Meek 1 84323 293 6 拢4.50 84323 293 6 拢4.50
Cysylltiadau Perthnasol
Holi Elin Meek
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|