![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Barti a Bel yn Crwydro Cymru Mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi, mae cyfle i blant ddod i adnabod lleoedd braf yng Nghymru yng nghwmni ein bardd plant cenedlaethol a dau gymeriad dychmygol, Barti a Bel.
"Wrth droi tudalennau'r llyfr lliwgar, Barti a Bel yn Crwydro Cymru gall plant ifanc ddod ar draws rhai o brif atyniadau Cymru yng nghwmni'r ddau gymeriad difyr Barti a Bel," meddai llefarydd o Wasg Gomer sy'n cyhoeddi'r llyfr. ![Ceri Wyn](/staticarchive/35c3ebef942a946fbe283dcc11ac2f53b44d6350.jpg)
"Bardd Plant Cymru eleni yw'r Prifardd Ceri Wyn, sy'n olygydd yng Ngwasg Gomer, a thrwy odl fe awn i leoedd difyr fel Parc Oakwood, yr Wyddfa, Castell Penrhyn a'r Llyfrgell Genedlaethol," ychwanegodd.
O gronfa Bwrdd Croeso Cymru y cafwyd y rhan fwyaf o'r lluniau yn y gyfrol, yn dangos y wlad yn ei gogoniant.
Nodwedd unigryw y llyfr yw'r dull y mae'r arlunydd, Suzanne Carpenter o Gaerleon, wedi creu cymeriadau a'u gosod ar draws y ffotograffau gan gyfuno realiti a ffantasi mewn ffordd drawiadol.
Y lleoedd yr ymwelir 芒 hwy mae, Castell Biwmares, Pwllheli, Castell Coch, Parc Margam, Bala, Llyn Efyrnwy, Niwgwl, Ceibwr, yr Wyddfa, Parc Oakwood, Moel Famau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Bannau Brycheiniog a Chastell Penrhyn.
Mae yna hefyd fap o Gymru yn dangos lle mae pob un o'r lleoedd hyn.
Cysylltiadau Perthnasol
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|