麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Iolo Morganwg a'i ffrindiau
Bu Gwyn Griffiths mewn cynhadledd undydd am Iolo Morganwg a'i Ffrindiau. Dyma ei adroddiad:



Tlawd iawn fuasai hi wedi bod arnon ni Gymry onibai am ein crefftwyr, yn 么l yr Athro Geraint H. Jenkins, yn ei ddarlith ar Iolo Morganwg y saer maen mewn cynhadledd undydd ar Iolo a'i Ffrindiau, yn y Llyfrgell Genedlaethol Gorffennaf 3, 2004.

Disgrifiodd Iolo fel crefftwr aml ei ddoniau: "Medrai saern茂o ffliwt a'i chanu" a rhoddodd gyngor i Thomas Johns, adeiladydd Yr Hafod, meddai.

Yn bwysicach na dim, rhoddodd crefft y saer maen ryddid ac annibyniaeth iddo grwydro ac astudio'r wlad, yr adeiladau ac i weld - a chop茂o - llawysgrifau.

Parch i'w grefft
Ac yr oedd ganddo barch i'w grefft. Wedi'r cwbl, roedd ei dad yn saer maen o'i flaen ac wrth wylio ei dad yn naddu cerrig beddau y dysgodd Iolo'r wyddor. Bu Taliesin, ei fab, yn saer maen hefyd cyn mynd yn athro ysgol.

Cymaint oedd parch Iolo at ei grefft fel, pan welodd ym mynwent Claerwy garreg fedd i ryw John Williams yn dweud iddo farw yn 219 oed, ei bod yn haws ganddo gredu i'r dyn fyw yn hen iawn yn hytrach nag i'r saer maen wneud camgymeriad!

Caethweision
Iolo Morganwg, caethwasiaeth ac etifeddiaeth Jamaica oedd testun y Dr Andrew Davies.

Iolo MorganwgDywedodd i Iolo gondemnio caethwasiaeth yn ffyrnig, gan ddweud y buasai'n well ganddo weld ei blant yn llwgu nac yn derbyn yr un ddimai o'r arian a wnaed gan ei frodyr, Miles, John a Thomas, yn Jamaica.

Ond, yn y diwedd, aeth Iolo i dipyn o drafferth i gael yr arian oedd yn ddyledus iddo ef a'i blant o ewyllysiau'r brodyr. Er bod y tri yn iau na Iolo, fe fuon nhw farw o'i flaen.

Pwnc diddorol, er mai asgwrn y gynnen oedd ychydig bunnau oedd yn weddill wedi gwerthu stadau am ugeiniau o filoedd o bunnau.

Cybolfa ryfedda
Myfyr Morganwg a Gorsedd y Maen Chwŷf ar Gomin Coedpenmaen, Pontypridd, oedd testun Dr Huw Walters.

Roedd y Myfyr yn adnabod Taliesin, mab Iolo, yn dda ac aeth ati, meddai Dr Walters, "i greu cybolfa ryfeddda" o seremoni.

Daeth i fyw ym Mhontypridd yn 1846 lle bu'n gwneud ac yn trwsio clociau. Mae un o'i glociau hardd yn Amgueddfa Pontypridd.

Er ei ddiddordeb mewn derwyddiaeth, yr oedd Myfyr yn aelod yng Nghapel Sardis, Pontypridd, ac yn bregethwr dwys, sych a dadansoddol.

Roedd Pontypridd yn eitha rhanedig y cyfnod hwn gydag Evan James, awdur geiriau Hen Wlad Fy Nhadau, yn fynychwr cyson o gyfarfodydd derwyddol y cylch - a'i wraig yn gapelwraig yr un mor selog!

Mwy o elynion
Iolo Morganwg ac Edward "Celtic" Davies oedd pwnc Dr Moira Dearnley. Hwyrach eu bod yn fwy o elynion nag o gyfeillion. Davies, yr offeiriad ceidwadol o Raeadr, a Iolo, yr Undodwr radicalaidd o Forgannwg.

Buasai'n ddiddorol gweld rhywun yn edrych ar ddylanwad Iolo, drwy Edward Davies, ar lenorion cyfandirol. Bu cyfrolau Edwards Davies, Celtic Researches a Mythology and Rites of the British Druids yn ffynonellau pwysig i gerddi Celtaidd y Ffrancwr Leconte de Lisle, cerddi fel Le Massacre de Mona.

Rwy'n amau bod dylanwad cyfrolau Edward Davies yn drwm ar y penodau derwyddol yn nofel hirfaith Fran莽ois-Ren茅 de Chateaubriand, Les Martyrs, hefyd.

Mae cyfeiriadau at gyfrolau Edward Davies yng ngweithiau amryw byd o lenorion a haneswyr Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn eu hymdriniaeth 芒 phynciau derwyddol a Cheltaidd.

Coelbren y Beirdd
Gan Dr Dearnley ac eraill clywsom gyfeiriadau at Goelbren y Beirdd fel y "wyddor ffug a ddyfeisiwyd gan Iolo".

Buasai'n braf pe byddai rhywun yn mynd i'r afael 芒'r mater hwn. Wedi'r cwbl nid yr wyddor Rufeinig oedd yr unig un a ddefnyddid yn Ewrop - mae amryw fersiynau o'r wyddor Etruscan. A thystiodd Iwl Cesar fod y Derwyddon, er ar y cyfan yn hepgor y gair ysgrifenedig, yn defnyddio'r wyddor Roegaidd.

Dafydd Samwel
Un o uchafbwyntiau'r dydd oedd darlith Dr Martin Fitzpatrick ar Ddafydd Samwel, y bardd, hynafieithydd a'r meddyg oedd yn llygad-dyst i farwolaeth y Capten James Cook yn Hawaii yn 1779.

Dyma osod Samwel yn gadarn yn ei gyfnod, ymysg y Cymry yn Llundain ac ochr yn ochr 芒 Iolo.

Roedd Bryste yn bwysig ym mywyd Iolo Morganwg. Mynegodd ei gasineb at y lle oherwydd cysylltiad y ddinas 芒'r farchnad gaethwasiaeth ond yr oedd hefyd yn ddinas a apeliai ato oherwydd eu hadeiladau - ac yr oedd yn ddinas a roddai waith iddo a lle byddai'n prynu'i nwyddau.

Ffugiwr
Cysgod Thomas Chatterton (y ffugiwr llenyddol o Sais) a chysylltiadau Iolo 芒 llenorion Bryste oedd testun cyfraniad gwerthfawr Dr Mary-Ann Constantine.

Roedd gan feirdd rhamantaidd Lloegr obsesiwn gyda Chatterton a fu farw mewn tlodi yn Llundain. Er ei bod yn bosib y gallai llwybrau'r ddau fod wedi croesi nid oes unrhyw brawf iddynt gyfarfod. Prin yw'r cyfeiriadau at Chatterton yn ngweithiau Iolo, meddai'r Dr Constantine, ond dangosodd graffter arbennig yn awgrymu fod Chatterton yn ffugiwr.

Roedd Dr Constantine yn frwd dros dybio i Iolo gyfarfod Samuel Coleridge ym Mryste, a hwnnw ar ei ffordd i America.

Yn bendant, bu Iolo mewn cysylltiad 芒 Hannah More geidwadol.

Anodd dychmygu'r ddynes geidwadol hon, gyda'i chysylltiadau brenhinol, yn sgwrsio gyda'r Iolo tanbaid a gwyllt, meddai'r Dr Constantine.

Ond efallai bod Iolo'n fwy o wleidydd ac o gadno nag a feddyliodd neb ohonom.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆官网首页入口 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy