麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Rhaid i Bopeth Newid
Nofel am yn ail 芒 nofel

Adolygiad Gwyn Griffiths o Rhaid i Bopeth Newid gan Grahame Davies. Gomer. 拢7.99.

Fy ymateb cyntaf i Rhaid i Bopeth Newid gan Grahame Davies oedd gofyn; oes rhaid i gymaint o nofelau Cymraeg y dyddiau hyn droi o gwmpas pobl y cyfryngau a / neu gyflwr yr iaith yng nghefn gwlad.

Ond 'doedd dim perygl i hon ychwanegu at y pentwr nofelau ar eu hanner sydd wedi bod yn tyfu yn y t欧 ers y Nadolig ac Eisteddfod Casnewydd.

Pastwn
Ar sail cip sydyn ar "adolygiad" yn y Western Mail gan olygydd Cymraeg Gwasg Gomer - cyhoeddwyr y nofel! - disgwyliwn nofel ddychanol.

Clawr y llyfrNi fuaswn yn disgrifio Grahame Davies yn ddychanwr. Nid dyn y bluen ysgafn neu'r pin celfydd yn y swigen mohono, ond dyn yr ordd a'r pastwn. Nid fod dim o'i le ar hynny.

O fwrw ati i golbio ni all neb esgus camddeall, beth bynnag am anwybyddu'r, neges. Iawn, 'dyw hi ddim yn gelfyddyd fawr ond pan mae yna bethau sydd angen eu dweud, cystal eu dweud nhw'n ddiflewyn ar dafod.

Os nad yw'n awr o brysur bwyso ar yr iaith y mae felly ar y cymunedau traddodiadol Gymraeg ac mae Mr Davies yn cynnig darlun du iawn o'r "sefyllfa".

Ail ran uffernol Wythnos yng Nghymru Fydd - ond ein bod ni yng nghanol hon.

Rhag ofn y bydd rhywrai'n meddwl bod yr awdur yn eithafol yn ei gollfarnu, fe welson ni newyddiadurwyr fel ei gymeriad, John Sayle, yng Nghymru.

Ac os na wn i am rywun sy'n union fel Ms Gloria Milde, AC., rwy'n gwybod am rai tebyg iddi ymysg gweision cyflog y Cynulliad, a gweision cyflog rhai o'n cyrff cenedlaethol eraill.

Gwn fod pobl sy'n gwneud gwaeth defnydd o arian Amcan Un - wel, o arian y loteri, beth bynnag - na'r Bedwyr Clwyd sy'n godro'r fuwch Ewropeaidd i'w bwced ei hun. A thebyg bod ambell sgrifennwr Cymraeg, wedi cychwyn disglaer, yn byw ar arian datblygu.

O gig a gwaed?
A thebyg iawn bod rhywun neu rywrai sy'n cyfateb i Meinwen, arwres y nofel. All neb gyhuddo Grahame Davies o fynd yn rhy bell.

Er hynny, ch锚s i ddim fy narbwyllo bod y cymeriadau hyn o gig a gwaed. Ni allwn gynhesu at yr un ohonyn nhw na chydymdeimlo, er eu gwendidau. 'Dyw hynny ddim yr un fath 芒 chydnabod fy mod yn "adnabod y teip".

Stori am yn ail 芒 stori
Yn wrthbwynt i'r frwydr yng Nghymru mae stori bywyd a brwydrau Simone Weil, arwres Meinwen. Nofel am yn ail 芒 nofel; stori am yn ail 芒 stori.

Cawn ystod cyflawn bywyd Simone Weil er y buaswn i wedi dymuno gweld ymdriniaeth fanylach o rai o'i syniadau mwy perthnasol, efallai, 芒 sefyllfa'r Gymru gyfoes.

Ei syniadau am ranbarthau a hen genhedloedd Ffrainc na chawn ond awgrym ohonyn nhw yng nghyfnod yr Ail Ryfel pan oedd hi'n gweithio ar y tir yn Languedoc - un o'i chyfnodau prin o wir hapusrwydd.

(Gyda llaw, chlywais i erioed o'r blaen am rwymo ysgubau gwair.)

Cymdeithas ddelfrydol
Yn y cyfnod hwn y darganfu ac yr astudiodd Weil hen wareiddiad a chrefydd y Cathars a gafodd lonydd i egino yn Languedoc yn yr Oesoedd Canol.

Cymdeithas ddelfrydol yn ei golwg hi a ddinistriwyd gan groesgadau'r bwystfil Simon de Montfort. I Weil roedd yn gymdeithas o ryddid ysbrydol, eangfrydig, goddefol ac o burdeb moesol, di-ryw. Crefydd a chymdeithas oedd yn ymgnawdoliad o'r purdeb hwnnw roedd hi'n dyheu amdano.

Bu'r astudiaeth yn ddihangfa iddi rhag erchyllterau rhyfel, o fyd aeth yn wallgo drwy obsesiwn 芒 grym.

Ni welaf fod cyfosod y ddwy stori - Cymru Meinwen a bywyd Weil - yn esmwyth bob amser a gallai'r awdur fod wedi myfyrio'n ddyfnach ar hyn o beth.

Mae hefyd yn peri i'r darllenydd gymharu'r cymeriadau Cymreig, prennaidd braidd, gyda'r cymeriadau cig a gwaed sy'n troi o amgylch Simone Weil gan fy atgoffa o eglurhad Elizabeth Longford pam fod yn well ganddi gofiannau na nofelau - bod bywydau pobl oedd wedi byw yn fwy diddorol na rhai allasai fod wedi byw!

Fflach o weledigaeth
Ddiwedd y nofel, tra yng ngharchar, caiff Meinwen y fflach o weledigaeth. A dyna, dybia i, neges y nofel, sef nad drwy fod yn neis-neis y mae achub Cymru, ond trwy frwydro'n fudr wleidyddol.

Neu, yng ngeiriau mwy diplomatig yr adnod; "Bydd gyfrwys fel sarff, ddiniwed fel colomen."

Yn wleidyddol, cawn yr awgrym nad o'r chwith - os derbyniwn fod Llafur, hen neu newydd, yn perthyn i'r chwith - y daw'r iachawdwriaeth. Mae mwy o obaith o du tori Elis Wynaidd y dde.

Bu Gahame Davies yn uchelgeisiol a dewr yn gwau'r ddwy stori'n un nofel- er na allaf ddweud gyda fy llaw ar fy nghalon diddo lwyddo gydol yr amser.

Wedi dweud hynny, credaf i'r awdur dywallt llawer o angerdd - a chynddaredd - a thipyn o ing, i'r nofel hon.

Roedd Simone Weil yn edmygu'r Cathars. O'r un gair y daw catharsis - a charthu - a rwyn amau bod rhywfaint o hynny yma hefyd.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch

Menna. Gogledd Ddwryrain
Cytuno a sylwadau agoriadol G.G. Siom oedd darllen y nofel yma gan G.D. Son am gefn gwlad ac yntau wedi ei fagu mewn ardal ddiwidianol!! Anodd iawn agosau at y cymeriadau. Dwy nofel yn un a teimlaf ei fod wedi trio yn llawer rhy galed i fod yn 'glefar' ond wedi llwyr fethu. Cefais fy synnu ei bod yn un o'r llyfrau yn y rhestr yma yn enwedig ar ol darllen 5 o'r lleill sydd ymhell ar y blaen i nofel GD.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆官网首页入口 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy