| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Y Gongol Felys Cyfrinach chwerw Y Gongol Felys
Adolygiad Lowri Rees o Y Gongol Felys gan Meinir Pierce Jones. Gomer. 拢6.99
Mae Y Gongol Felys, nofel gyntaf Meinir Pierce Jones ar gyfer oedolion wedi ei ddisgrifio fel perl o nofel a ysgrifennwyd yn grefftus ac yn bwerus.
Yr union eiriau y byddwn innau yn eu defnyddio i'w disgrifio.
Adroddir y stori yng ngeiriau'r prif gymeriad, Edith Morwenna Williams, ac ac mae wedi ei lleoli ddechrau'r ganrif ddiwethaf, 1914.
Mae'n ymwneud 芒'r hyn a ddigwyddodd Edith a'i theulu ar fferm y Gongol Felys adeg y Pasg ym 1912. Mae dirgelwch mawr yn perthyn i'r teulu.
Cawn ein cyflwyno ym mhenodau cyntaf y nofel i'r teulu ac i'r bywyd digynnwrf y mae Edith, a'i chwaer, a'i brawd a'i modryb yn ei fyw mewn cartref gwledig yng ngogledd Cymru.
Yr ydym yn ymwybodol iawn o'r cychwyn o ysfa Edith i adrodd ei stori yn ei 'chopi bwc' a chawn y teimlad yn syth ei bod yn ysgrifennu er mwyn ysgafnhau baich sy'n bwysau arni.
Ei gobaith yw cael rhyddhad a chysur o wneud hynny.
Mae'n s么n am ddigwyddiad dirdynnol sy'n cael effaith arni hi a'i theulu am byth.
Mae'r nofel yn ffrwd o iaith gyfoethog ardal Ll欧n ac Eifionydd ac yn frith o idiomau a dywediadau yr ardal.
Mae hefyd nifer o ddarluniau cynnil o arferion pob dydd yng nghefn gwlad ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, yn ogystal 芒 chyfeiriadau at fywyd ar y m么r, gan fod tad Edith yn llongwr.
Mae merched y fferm yn gwneud cyflaith, yn coginio pwdin reis cyraints, yn paratoi 't芒n oer'. Mae cyfeiriadau hefyd at arferion amaethyddol y cyfnod.
Dywed yr awdur iddi wneud llawer o waith ymchwil, gan gynnwys holi pobol yr ardal, a chwilota drwy hen luniau fel y gallai greu darlun credadwy o'r cyfnod.
Dirgelwch tywyll Ond dirgelwch tywyll sy'n ganolog i'r nofel. Nid darlun gefn gwlad difrycheulyd sydd yma.
Anodd ymhelaethu gan y byddai datgelu beth yw'r digwyddiad mawr sydd yn effeithio ar y teulu yn difetha'r nofel a rhaid bodloni ar eich cymell i fynd ati i ddarllen stori sydd wedi ei hysgrifennu'n gywrain a chrefftus.
A mwynhau'r darluniau byw o gefn gwlad Cymru y cyfnod: "Trois innau i sb茂o, a gweld fod Hi yn hanner cario hanner llusgo Margaret am y gadair freichiau, a bod golwg ofnadwy iawn ar Margaret ni. Yr oedd ei hwyneb wedi chwyddo yn fawr a hances goch ganddi ar ei cheg a gwaed yn diferyd ohoni. A'i llygaid yn hanner caead ac yn agor a chau bob yn ail.
"'Syrthio wnest ti?' gwaeddais arni. 'Be ddigwyddodd?''Na,' meddai Miss Netta mewn llais braidd yn grynedig. 'Mi fydd hi'n iawn yn y munud. Wedi cael tynnu ei dannedd y mae hi.
'"'Tynnu'i dannedd??' "'Felly y bydd gwraig gydwybodol yn gwneud cyn priodi, i arbed cost a thrafferth i'w g诺r yn nes ymlaen cyn priodi.'"
Mae hon yn gamp o nofel sy'n dychryn ar un llaw ac yn ennyn cydymdeimlad ar y llall.
Mae'n nofel hefyd sy'n gwneud ichi wenu a chwerthin yn uchel a'r adegau.
Mae'n wir werth manteisio ar y cyfle i fynd yn 么l at hen draddodiadau dechrau'r ganrif ddiwethaf ac ymgolli yn stori ddirdynnol merch ifanc o'r cyfnod.Adolygiad ar Gwales
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|