麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Mynydd Hwn
Pobl yn dewis eu mynyddoedd
Sylwadau Glyn Evans ar Y Mynydd Hwn. Gwasg Gomer. 拢14.99

Dau beth y mae pobl yn mynnu eu gwneud heb fod raid iddyn nhw ydi heidio i draethau - bydded lannau llynnoedd, afonydd neu foroedd - a dringo i gopa mynyddoedd.

Oherwydd hynny, dylai ap锚l y gyfrol newydd o luniau ac ysgrifau, Y Mynydd Hwn, fod yn eang.

Ar ei chyfer gwahoddodd Bethan Mair o Wasg Gomer ddeg o bobl i ddewis bob o fynydd yng Nghymru ac ysgrifennu amdanyn nhw.

Wedyn, anfonwyd Ray Wood draw i dynnu eu lluniau. Lluniau'r mynyddoedd, hynny yw. Does yna'r un llun o'r un o'r ysgrifwyr.

Lleoliad y mynyddoeddAr ddamwain - neu trwy ragluniaeth os dyna'ch ffansi - mae pedwar o'r mynyddoedd 芒 ddewiswyd mewn llinell perffaith syth yn y gogledd a thri mewn llinell syth arall yn y de - fel y gwelir oddi wrth fap yng nghefn y llyfr!

Dywed Bethan Mair i'r syniad am y llyfr ddod o linellau agoriadol yr emyn a gyfansoddwyd gan Hugh Jones, Maesglasau:
O! tyn
Y gorchudd yn y mynydd hyn;
Delwedd, meddai, a fenthycwyd o Lyfr Eiseia yn yr Hen Destament.

Dyna hefyd, egluro cynnwys Angharad Price, awdur y gyfrol, O! Tyn y Gorchudd yn y llyfr.

Clawr y llyfrMae'r dewis o gyfranwyr yn ddigon amrywiol i sicrhau ymatebion gwahanol er efallai y bydd ambell un yn synnu at gynnwys dau ddyn gyda chysylltiad mor agos 芒'r byd rygbi ymhlith y deg.

Fodd bynnag, mae cyfraniad Alun Wyn Bevan a Ray Gravell mor wahanol i'w gilydd ag i gyfiawnhau hynny.

Bu sawl un o'r cyfranwyr yn eithaf llac eu diffiniad o fynydd. Dewisodd Alun Wyn Bevan Fynydd y Gwrhyd nad yw ar y map hyd yn oed:

"Ychydig iawn o Gymry sy'n gwybod am fodolaeth y lle. Mae hyd yn oed tirfesurwyr yr Ordnance Survey, am ryw reswm, wedi anwybyddu'r darn tir hudolus hwn rhwng Rhyd-y-fro a Chwmllynfell," meddai.

Ond efallai nad drwg i gyd mo hynny ac rwy'n siwr y byddai Alun Wyn Bevan ac eraill yn cytuno y gwnai fyd o les cadw mwy o leoedd oddi ar fapiau!

"Falle nad yw'r enw Gwrhyd wedi'i gynnwys mewn llythrennau bras mewn unrhyw atlas - ond bydde rhai yn ddiolchgar am hynny!" meddai.

Yn ddieithriad bron, lle i encilio iddo am hamdden a thawelwch ydi mynydd ac, yn wir, oherwydd eu natur dydyn nhw ddim yn lleoedd hawdd eu cyrraedd a chwithau, wedyn, yn debyg o gael llonydd yno gan bobl.

Ac y mae i unigedd ei gyfaredd - a'i iasau hefyd.
Dyma Dylan Iorwerth ar ddiwedd ei daith ar hyd Crib Nantlle:
"Does dim llawer o bobl yn cerdded ymhellach na hyn," meddai ar 么l cyrraedd pen ei daith ef.

"Mae yna rywbeth dychrynllyd yn unigedd Craig Cwm Silyn a'r ddau lyn yn ddu yn ei chysgod. Mae yna deimlad o fentro'r tu hwnt . . . tu hwnt i be, pwy a 诺yr? . . .
"Lle i fod eich hun ydi hwn, i deimlo'r unigrwydd ac adnabod eich lle . . ."

Hen hanes
Cyniwair ymdeimlad o fod mewn cysylltiad 芒 hen hanes a wna Mynydd Blorens y mae Lois Arnold yn dewis ei gyfarch:
"Yma yr oeddet pan oedd i芒'n cerfio'r cymoedd cyfagos a chwilfriwio'r creigiau'n llwch o'th gwmpas.
"Ar un adeg roedd bleiddiaid ac eirth yn byw yn dy fforestydd.
"Yn ddiweddarach roedd yr hinsawdd mor fwyn fel bod modd i bobl fyw a thyfu cnydau ar dy gopa.
"Roeddet ti yma pan oedd garsiwn y Rhufeiniaid wedi ymsefydlu ar bwys yr afon islaw ac roeddet yn craffu ar y castell ar y dydd Nadolig hwnnw pan dwyllwyd saith deg o uchelwyr Cymreig di-arf a'u llofruddio gan yr arglwydd Normanaidd.
"Yma hefyd yr oeddet pan ddaeth gwrthryfelwyr Owain Glynd诺r i osod y dref dan warchae.
"Ac yma y byddi di pan fyddwn ni gyd wedi hen ymadael . . ."

Ydynt, mae lleoedd yn fwy na dim ond lle.
Ac y mae hynny yn arbennig o wir am berthynas Ray Gravell a Mynydd y Garreg lle profodd nid yn unig benllanw hapusrwydd eu ieuengrwydd ond hefyd ysgytwad ysol trychineb deuluol.

Mynydd y Garreg"Bydde'r hwyl a'r asbri, fel gwythienne glo y Cwm 'ma, yn gweu'u ffoprdd i bob cwr a chornel o filltir sgw芒r ein pentre ni. Roedd bywyd yn braf iawn, roed dy dyfodol yn bell i ffwrdd, a brawdgarwch a chyfeillgarwch yn rhywbeth i'w drysori a'i werthfawrogi - trysor llawer mwy nag aur ac arian," meddai.

Ond daeth tro ysgytwol ar fyd pan anafwyd ei dad dan daear a Ray ond yn 14 oed:
"Un penwythnos a'th Dad am w芒c ar hyd y Mynydd ac ni ddychwelodd.
"Fe ddes i ar draws ei gordff yn gelain ac yn oer ynghanol y rhedyn ar ben ucha'r mynydd - man cyfarwydd iawn i ni'n dau wrth i ni hela a ffereta am gwningod. Roedd e wedi cyflawni hunanladdiad, yr anaf dan ddaear a'r iselder ysbryd yn ormod iddo," meddai.

Ond ni pharodd hyn i Ray roi ei gas ar y lle ond yn hytrach dynnu o faeth y dyddiau hapus ac mae ef ei hun yn cadw a chodi teulu yno'n awr.

"Mae Mari a finne bellach yn rhieni i ddau o blant: dwy groten, Manon a Gwenan, 'merched y Mynydd', syd nawr yn sicrhau dilyniant a dyfodol yr hyn y maen nhw wedi'i etifeddu," meddai.

Mae'n cael anhawster, fodd bynnag, egluro cyfaredd ei fynydd:
"Pam fod y mynydd hwn yn golygu cymaint i mi? Dw i ddim yn gwbod yn iawn beth yw'r ateb i'r cwestiwn 'na. Ond beth dw i yn wybod yw hyn: fe'm ganwyd yn fab i un o 'Feibion y Mynydd' ac ma' 'na lonyddwch yma hyd yn oed yng nghanol y stormydd mwya tymhestlog. Ma'r Mynydd, er mor agored a charegog, eto i gyd yn gaer sy'n cynnwys lloches a chymorth mewn cyfbode o ofid a pherygl," meddai.

Pob math o fynyddoedd
Tra nad oedd ond un dewis i Ray Gravell byddai rhywun yn tybio y byddai dewis ei mynydd hi wedi bod yn orchwyl anodd iawn i un a deithiodd cymaint 芒 Bethan Gwanas.

Nid felly y bu:
"Dwi wedi gweld y Rockies, yr Andes, yr Alpau, yr Urals, y Cairngorms, y Picos, y Pyreneau a mynyddoedd mawrion eraill na chofiaf eu henwau i gyd, ond mi alla i ddweud 芒'm llaw ar fy nghalon na welais i erioed fynydd oedd chwarter mor arbennig 芒 Chader Idris," meddai.

Gan ychwanegu i hwn fod unwaith yn fynydd uchaf Prydain ar sail camgymeriad - a gywirwyd maes o law - yn fersiwn 1695 o Britannica Camden.

Wrth gwrs nid maint na rhinweddau felly sy'n gwneud i bobl glosio at leoedd.
Meddai Dylan Iorwerth wrth gychwyn ar ei daith ef:
"Dod yn nes atoch eich hunan y byddwch chi wrth gerdded. Mae pob taith yn daith trwy orffennol hefyd, hyd yn oed mewn lle newydd."

Cael rhannu'r rhyfeddod hwnnw sy'n gwneud hon yn gyfrol mor gyfareddol ac atyniadol.

A rhyngddo chi a fi, er rhagored lluniau penigamp Ray Wood, y geiriau wnes i fwynhau fwyaf yn y llyfr hwn.

Hynny, a chael y fraint o gyd-gymuno 芒 bron bob un o'r deg a ddewiswyd gan Bethan Mair.

Edrychaf ymlaen yn awr ar ddeg arall yn dewis eu traethau.

Tipyn o dderynYn y cyfamser hoffwn ddewis y llun a roddodd yr ysgytwad fwyaf i mi wrth agor dalen a'i weld - y llun o'r aderyn bolgoch ger Canolfan yr RSPB yn Llanwddyn fel rhan o ysgrif Iolo Williams am Y Berwyn. Mae'n mynd a'ch gwynt!

Pobl y mynyddoedd:
Mynydd Tynybraich - Angharad Price
Mynydd y Gwrhyd - Alun Wyn Bevan
Cader idris - Bethan Gwanas
Mynydd Blorens - Lois Arnold
Cefn du - llion Iwan
Dinas Br芒n - Elin Llwyd Morgan
Y Berwyn - Iolo Williams
Garn Fawr - MereridHopwood
Mynydd y Garreg - Ray Gravell
Crib Nantlle - Dylan Iorwerth

Am rhyw reswm gyda'i gilydd yng nghefn y gyfrol y rhoddir gwybodaeth am yr holl luniau - anghyfleustra y dylid ei gywiro mewn cyfrolau tebyg yn y dyfodol. Ar yr un ddalen 芒 llun yw'r lle i wybodaeth amdano.

Adolygiad ar Gwales



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆官网首页入口 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy