| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Merched Gwyllt Cymru Dod a thebyg ac annhebyg at ei gilydd
Adolygiad Lowri Roberts o Merched Gwyllt Cymru / Wild Welsh Women gan
Beryl H. Griffiths. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.
Yn draddodiadol, hyd y gwelaf i, rhywbeth gwrywaidd a macho yw ein gorffennol. Dynion yn cofnodi gorchestion, gwrhydri a dewrder eu cyd-ddynion.
Gerallt Gymro, Sieffre o Fynwy, Aneurin, Taliesin, enwau sydd mor gyfarwydd i ni heddiw 芒'r gw欧r a gafodd eu hanfarwoli ganddynt.
Ond beth am y merched?
Ceisio gwneud iawn am y diffyg hwn y mae'r gyfrol Merched Gwyllt Cymru a braf iawn oedd cael darllen cyfrol sydd wedi ei neilltuo yn llwyr i ferched Cymru.
Ond nid unrhyw ferched mo'r rhain, cofiwch. Fel y tystia Bethan Gwanas yn ei rhagair, merched yw'r rhain "sydd 芒 thipyn o d芒n yn perthyn iddyn nhw".
Sadlau yn dilyn Wrth gyhoeddi cyfrol fel hon mae'n anorfod y bydd yna drafod a dadlau yn dilyn.
Beirniadaeth o du rhai carfannau am beidio 芒 chynnwys ambell i wraig. Ac anghrediniaeth ymysg eraill fod unigolion llai amlwg wedi eu hystyried.
Yn hynny o beth mae Bethan Gwanas yn achub cam yr awdur cyn cychwyn trwy esbonio'r canllawiau ar gyfer dewis.
Rhaid oedd i'r gwragedd fod yn farw. Roedd cysylltiadau cryf 芒 Chymru yn hanfodol. A'r maen prawf olaf oedd eu bod nhw, yn eu ffyrdd dihafal eu hunain, wedi herio trefn cymdeithas ar y pryd. Fyddech chi'n sicr ddim am ddadlau 芒'r criw yma!
Cymraeg a Saesneg Cyfrol ddwyieithog yw hi - y Gymraeg yn dilyn y Saesneg. Yn bersonol byddai argraffu'r hanesion gefn wrth gefn yn hytrach na fesul tudalen wedi hwyluso'r darllen.
Dan y drefn bresennol mae i gymharu'r straeon wrth fynd ymlaen. Ond efallai bod hynny yn fai arnaf i yn hytrach nag ar y diwyg.
Lladron ac emynwyr Ceir yma ystod eang o gymeriadau - yn wrachod a breninesau, beirdd a reslwyr, lladron ac emynwyr!
Rhaid cyfaddef nad oedd enwau pob un o'r merched yn gyfarwydd imi. Mae pawb decini wedi clywed am Blodeuwedd, Siwan ac Ann Griffiths - ond beth am Alabina Wood, Eleanor Butler neu Sarah Ponsonby?
Credwch chi fi, mae yna lawer i'w ddysgu rhwng y cloriau lliwgar yma!
Paris Hilton ei dydd Un o'r enwau anghyfarwydd imi oedd Catrin o Ferain a ddisgrifir gan Beryl Griffiths fel Paris Hilton neu Liz Taylor ei dydd.
Yn ddisgynnydd uniongyrchol Brenin Harri VII roedd meibion prif deuluoedd y gogledd yn ymladd am yr hawl i'w phriodi.
Yn wir, cymaint oedd ei hanlwc fel y bu iddi briodi bedair gwaith i gyd - sy'n esbonio'r gymhariaeth 芒 Liz Taylor.
Mae un hanesyn yn s么n am y modd y bu i Morus Wynn o Wydir ei gofyn i'w briodi wrth iddi ddychwelyd adref o angladd ei g诺r cyntaf - gweithred braidd yn ansensitif ynddo'i hun fel y mae Beryl Griffiths yn cyfaddef.
Ond mae'n debyg iddi hithau ei ateb trwy ddweud ei fod yn rhy hwyr am ei bod wedi cytuno i briodi Richard Clwch ar y ffordd i'r angladd!
Llyfr hanes yw Merched Gwyllt Cymru yn y b么n sydd wedi ei gyflwyno mewn arddull stor茂ol, hawdd iawn ei ddarllen.
Mae'n ffynhonnell addysgol werthfawr i athrawon, rhieni a disgyblion sydd am ddysgu mwy am eu cyn-neiniau! Gweler Gwales
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|