| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Nabod y Teip Detholiad o grefft y meistr
Adolygiad Gwilym Owen o Nabod y Teip gan Dylan Iorwerth. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50.
Does yna bellach ddim prinder pobl yn y Gymru Gymraeg sy'n barod i honni eu bod yn 'newyddiadurwyr'.
Mae'r teitl yn cael ei ddefnyddio gan bob Tom, Dic a Harri bach - a'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi treulio blynyddoedd yn dilyn cyrsiau ceiniog a dimai yn un o'r tyrau ifori a elwir yn Goleg.
Ond y gwir plaen amdani yw; mae gwir newyddiadurwyr yn dal mor brin ag aur pur Meirionnydd yn yr hen wlad fach yma.
Ond un o'r bobl hynny yn sicr yw Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr y cylchgrawn Golwg, ac mae ei gyfrol newydd, Nabod y Teip yn brawf pendant o hynny.
Casgliad yw o'i golofnau dros yr ugain mlynedd diwethaf i'r Western Mail, y papur bro, Clonc ac Yr Ymofynnydd, papur newydd yr Undodiaid.
Ac mae'n gynhaeaf ardderchog.
Wrth fynd ati i gribinio drwy'r wasg Gymraeg yn wythnosol ers bron i bymtheng mlynedd ar gyfer Radio Cymru mae'n destun syndod parhaus i mi sut y mae Dylan Iorwerth yn llwyddo i daro deuddeg bron bob tro y mae'n rhoi pin ar bapur - neu sut bynnag y mae o'n mynd ati i saern茂o ei golofnau.
Wrth gwrs, mae ganddo fantais fawr ar y mwyafrif ohonom ac yntau wedi ei ddonio 芒 thalentau y llenor a'r bardd yn ogystal 芒 dawn y newyddiadurwr sy'n adnabod stori a sut i'w chyflwyno i'w ddarllenwyr.
Mae darllen y gyfrol hon yn arddangos pob agwedd o'i gyfoeth gan fod yma gymysgedd o'r trist a'r llawen, cefnogaeth a beirniadaeth, sinigiaeth a chydymdeimlad.
Y mae yma dystiolaeth o'i allu i ddadansoddi'n gadarn, annibynnol, ac o ymgolli'n llwyr mewn emosiwn teimladwy.
Dyna sy'n rhoi inni gasgliad o gynnyrch sy'n llwyddo i roi darlun byw o fywyd drwy lygad newyddiadurol dros gyfnod o ddau ddegawd.
Afraid fyddai mynd ati i ddewis a dethol o blith yr holl golofnau hyn ac wrth gwrs mae yna ambell un ble mae hyd yn oed yr arbenigwr hwn yn ei faes wedi methu 芒 tharo deuddeg - ond achlysuron prin iawn yw y rheini.
Mae Nabod y Teip yn gyhoeddiad y byddwn i yn ei gorfodi ar fyfyrwyr pob cwrs newyddiadurol yn yr iaith Gymraeg gan y byddai darllen gwaith y meistr hwn yn agoriad llygad i bob darpar newyddiadurwr ac yn gwneud iddyn nhw ystyried o ddifrif a oes ganddyn nhw y cymwysterau i'w paratoi eu hunain ar gyfer y proffesiwn.
Yn y gyfrol mae Dylan Iorwerth yn gosod y safon uchaf bosibl ac yn profi'n glir nad rhywbeth ffwrdd a hi ydi dawn ysgrifennu yr hac go iawn.
Mae'r awdur yn unigolyn unigryw sydd wedi dewis aredig ei g诺ys ei hun mewn maes dieithr i ddeallusion y Gymru Gymraeg.
Wrth gwrs, mae llawer o'r rheini wedi credu dros y blynyddoedd eu bod nhw 芒'r hawl i'w galw eu hunain yn 'newyddiadurwyr' am eu bod wedi cyfrannu colofnau i'r wasg Gymraeg.
Ond propagandwyr yw y rheini, heb enwi neb.
Mae colofnau newyddiadurol yn bethau cwbl wahanol ac mi fentrwn i awgrymu mai awdur Nabod y Teip ydi'r arweinydd yn y maes. Ewch, prynwch a mwynhewch a mawrygwch y welir rhwng y cloriau.
Gweler Gwales
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|