![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Capeli M么n Llewyrch ddoe yn gur pen heddiw
Adolygiad John Stevenson o Capeli M么n gan Geraint I L Jones. Gwasg Carreg Gwalch: 拢7.50 Rhestr gynhwysfawr o gapeli Ynys M么n ac ychydig o'u hanes a manylion cefndirol am eu pensaerniaeth.
"Cwt y Fendith," oedd yr enw cynnes a hudolus ar adeilad a ddaeth yn ei dro yn Gapel Paran y Presbyteriaid ym mhentref Rhosneigr ar Ynys M么n.
Mae fy niolch i'r gyfrol Capeli M么n gan Geraint I.L.Jones am y tamaid blasus yna o wybodaeth.
Dywed Geraint Jones yn ei ragair, nad ei fwriad oedd i'w lyfr fod yn werslyfr ar hanes Anghydffurfiaeth ym M么n. Mae pwyslais y llyfr meddai ar hanes yr adeiladau "heb unrhyw ymdriniaeth o athroniaeth crefydd a'r gwahanol enwadau".
Dyna wendid a hefyd gryfder y gyfrol!
Mae hon felly yn dra gwahanol i gyfrol orchestol y Dr Eryn White, er enghraifft, ar dwf Anghydffurfiaeth yn Ne Ceredigion gyda 'r gyfrol honno, Praidd Bach y Bugail Mawr, yn astudiaeth a dadansoddiad meistrolgar o gychwyn rhywbeth a ddaeth yn ei dro i dra arglwyddiaethau ar hanes a datblygiad crefydd yn y Gymru Gymraeg.
Ar drai Mae deng mlynedd a'r hugain ers cyhoeddi'r gyfrol Braslun o Hanes Methodistiaeth Calfinaidd M么n 1935-1970 a olygwyd gan y diweddar Huw Llywelyn Williams yn gosod braslun byr o gapeli unigol, ym mhob un o Gyrddau Dosbarth yr Ynys.
Tristwch y gyfrol honno oedd bod yr awduron yn croniclo hanes Methodistiaeth ym M么n pan oedd oes aur yr enwad ar drai gyda sylweddoliad yn y llyfr fod y sglein wedi diflannu ond hefyd obaith am ddyddiau gwell yn rhedeg fel llinyn arian drwy'r gyfrol.
Cyhoeddwyd cyfrol Geriant Jones ar adeg pan fo hyd yn oed y mwyaf ffyddlon o'r ffyddloniaid yn sylweddoli fod y gorau drosodd.
Balchder Mae'n hawdd, wrth gwrs, gor-ramantu am yr hyn symbylodd y ffyddloniaid i godi ein capeli anghydffurfiol yn y lle cyntaf a hawdd diystyru yr hunan falchder, os nad yr hunan fodlonrwydd, ymhlith pendefigion yr enwadau anghydffurfiol.
Gwerth cyfrol Geraint Jones ydi dangos i gapeli Anghydffurfiol M么n dyfu fel madarch ar hyd a lled yr Ynys. Yn y pentrefi lleiaf hyd yn oed yr oedd o leiaf un capel Methodist!
A dyna dref Caergybi gyda 26 o gapeli. Caerceiliog: Capel Presbyteraidd a Bedyddwyr; Brynsiencyn: pedwar capel. Llanfachraeth: tri chapel.
Mae'r rhestr o gapeli ar ddiwedd y gyfrol yn tystio i nerth y dystiolaeth anghydffurfiol ar yr Ynys.
Mae'r gyfrol, yn fwriadol neu beidio, yn llwyddo i ddryllio un chwedl.
Yn ei ddydd ac ar ei orau, roedd enwad y Methodistiaid Calfinaidd i'w weld yn tra arglwyddiaethu dros fywyd yr ynys ond mae llyfr Geraint Jones yn ein hatgoffa hefyd o gyfraniad yr enwadau eraill.
Penodau blasus Hefyd, mae penodau blasus am enwau capeli; penseiri a phennod yn ymdrin ag arweinwyr anghydffurfiol M么n.
Siomedig braidd yw pennod yn ymdrin ag arweinwyr crefyddol yr Ynys gan fod cymaint yn cael eu hanwybyddu.
Does dim s么n o gwbl am Huw Jones Parry - g诺r diymhongar, er yn glamp o athrylith na chafodd yn ei ddydd, y gydnabyddiaeth a haeddai.
Yn weinidog Capel T欧 Rhys, Llangoed, yr oedd yn bregethwr cyrddau mawr gyda'r athrylith a'r ysgolheictod i fod wedi tyfu yn un o ysgolheigion Beiblaidd mawr ei gyfnod.
A beth am John Evans Bryndu; Cwyfan Hughes, Amlwch; R E Davies, Llannerchymedd; Dr Lywelyn Jones, Caergybi.
Does dim s么n amdanynt.
Byddai'n fuddiol i unrhyw un sy'n ymddiddori yn y maes i ddarllen cyfrol ddifyr Emlyn Richards, Pregethwrs M么n.
Defnydd gwahanol Ffaith drist arall a ddaw yn amlwg yn y gyfrol yw fod sawl Jerwsalem; Bethesda; Nasareth a Chalfaria yn cael eu defnyddio bellach i bwrpas cwbwl wahanol i'r hyn a fwriadwyd iddynt.
Mae'r capeli a oedd o gymaint bendith i'r cenedlaethau a'u cododd yn gur pen go iawn, heddiw, i'r rhai sy'n gorfod gofalu amdanynt.
Yn ddibris Un o wendidau mawr Anghydffurfiaeth heddiw - ac mae cyfrol Geraint yn adlewyrchu hynny mewn ffordd annisgwyl - yw fod yr enwadau i gyd mor ddibris o'u treftadaeth a'u hanes. Sef o'r hyn roddodd fodolaeth iddyn nhw yn y lle cyntaf.
Yn y crws芒d i ddod o hyd i'r hyn sy'n eu huno fel enwadau - ac i gyfiawnhau cau capeli - mae gwir berygl inni anghofio profiadau a chredoau pobol gyffredin a roddodd fodolaeth i'r clytwaith o Jerwsalems neu Fethesdas yn y lle cyntaf.
Os yw Anghydffurfiaeth i oroesi, mae'n rhaid iddi gydio eto yn ystyr, pwrpas a phrofiad y bobol aeth ati i godi'r "blychau sgw芒r di addurn, llwm" yr holl flynyddoedd yn 么l.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|