麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Trwy'r Darlun
Chwilio am Nain - mewn gwlad ryfeddol
  • Adolygiad Kate Crockett o Trwy'r Darlun gan Manon Steffan Ros. Cyfres yr Onnen. Y Lolfa. 拢5.95.


  • Llyfr i ddarllenwyr da rhwng 9-13 oed yw Trwy'r Darlun, nofel gyntaf Manon Steffan Ros, awdures ifanc sydd eisoes wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel dramodydd, gan ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

    Sut hwyl felly mae hi'n ei gael ar y cyfrwng newydd?

    Clawr y llyfr Plentyn un ar ddeg oed yw Cledwyn, yn cael ei fwlio gan griw o ferched am ei fod yn byw gyda'i nain ac yn hoffi darllen.

    Does dim s么n am ei rieni ond mae ganddo chwaer h欧n, Si芒n, yn gwmni.

    Un noson mae'r ddau yn deffro i ddarganfod bod eu nain ar goll - a dyna ddechrau taith arallfydol sy'n eu tywys i wlad ryfedd Crug.

    Creaduriaid anarferol
    Mae Crug yn gartref i greaduriaid anarferol o bob math - yr Abarimon chwim, peryglus, a'r Marach hudol sy'n ffoli ar harddwch Si芒n.

    Yn y wlad hon daw Cledwyn o hyd i'w gyfaill gorau, creadur bychan, bl锚r o'r enw Gili D诺.

    Mae amlwg i'r awdures fwynhau rhoi rhwydd hynt i'w dychymyg yn y cyfrwng newydd hwn, ac yn ei chreadigaethau gwelwn ddylanwad y Mabinogi, chwedlau Taliesin a Llyn y Fan Fach, a Seireniaid y chwedlau Groegaidd.

    Mae Cledwyn a Si芒n yn cael anhawster deall y byd anghyfarwydd hwn ond mae gan Gili D诺 gyngor iddyn nhw, yn ei ynganiad unigryw ef ei hun:

    "Tydach chi'n coelio mewn dim byd heblaw y petha sy'n gneud synnwyf. Ac mi fydach chi'n chwilio am feswm dfos bob dim; pam bod y gwynt yn chwythu, pam bod 'na lanw a thfai? Y gwif ydi, does 'na ddim ffeswm dfos bob dim, a tydi pob dim ddim yn gwneud synnwyf."

    gwersi pwysig
    Ceisio dod o hyd i Nain yw'r nod, ond mae'r plant yn dysgu nifer o wersi pwysig ar y daith, ac yn dod i ddeall mwy am eu hanes nhw eu hunain fel teulu.

    Cafodd y nofel yma ei hysbrydoli yn rhannol gan awydd Manon Steffan Ros i goff谩u ei mam a fu farw o gancr cyn geni ei h诺yr.

    Mae'r gwaith yn sbarduno trafodaeth ar deuluoedd amgen, boed hynny oherwydd marwolaeth neu resymau eraill, ac yn cyffwrdd yn effeithiol iawn gyda thema colled.

    Gweld tebygrwydd
    Er mai arallfydol yw trigolion Crug, bydd darllenwyr ifanc craff yn gweld tebygrwydd rhwng eu hymddygiad nhw, a'n byd ni.

    Mae'r Marach yn ein hatgoffa o ymddygiad merched yn eu harddegau at ei gilydd, fel yr amlygwyd yn y llyfr (ac yn ddiweddarach, y ffilm), Mean Girls.

    Ac mae cyfnod Cledwyn a Si芒n mewn plasty hud, lle nad oes angen gwneud gwaith t欧 na garddio er mwyn cadw'r lle yn berffaith, yn dangos pa mor syrffedus fyddai bywyd heb fod gennym ddyletswyddau bach diflas o ddydd i ddydd!

    Gellid bod wedi tynhau'r ysgrifennu ar adegau ac mae ambell frawddeg yn y llyfr sy'n darllen yn chwithig, er enghraifft:
    "Roedd meddwl am beth a fyddai ar ben draw'r twnnel yn llenwi meddwl Cledwyn..."

    Dod yn fyw
    Nid dyma'r stori fwyaf gwreiddiol i mi ei darllen erioed ond, a minnau ymhell iawn y tu hwnt i'r oedran darged, gafaelodd ynof yn gryf a daeth creadigaethau Manon Steffan Ros yn fyw iawn wrth ddarllen eu hanes.

    Byddai'r nofel yn gwneud ffilm dda petai yna gyllideb ddigonol ar gyfer yr holl effeithiau arbennig fyddai eu hangen!

    A pha blentyn fyddai heb ei swyno gan wardrob sy'n creu'r dillad o ddim, na chan y Cnorc, creadur gwenwynig llachar sy'n byw mewn potel wydr?

    Y gyntaf
    Dyma'r nofel gyntaf yng Nghyfres yr Onnen, cyfres o wyth nofel wedi'u hanelu at ddarllenwyr da, ifanc.

    Eisoes cawsom nofel wych gan Lleucu Roberts yng Nghyfres y Dderwen ar gyfer darllenwyr da yn eu harddegau.
    Mae'n amlwg bod galw gan ein plant a'n pobl ifanc am nofelau uchelgeisiol yn y Gymraeg ac mae hynny'n galondid mawr.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆官网首页入口 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy