麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Beibl newydd i bawb - fis Mawrth 2004
Bydd Duw yn parhau'n wrywaidd mewn argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg sy'n cael ei gyhoeddi fis Mawrth 2004.


Er y bydd yr hyn a elwir yn "iaith gynhwysol" sydd ddim yn amlwg fenywaidd neu wrywaidd yn un o nodweddion y cyfieithiad newydd dywedodd cyfarwyddwr y panel a fu'n gyfrifol am y gwaith, y Dr Gwilym H. Jones, y bydd Duw yn parhau'n enw gwrywaidd.

Dim tadau
Ond dywedodd y bydd geiriau fel "tadau" a "brodyr" a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn ymddangos fel "hynafiaid" a "perthnasau.

Yn ysgolhaig Beiblaidd yr oedd y Dr Jones yn aelod o'r panel gwreiddiol a fu'n gyfrifol yn 1988 am y cyfieithiad modern cyflawn, cyntaf, o'r Beibl ers un William Morgan ym 1588.

Fel ag yr oedd y cyfieithiad hwnnw yn cyd-daro 芒 phedwar canmlwyddiant cyfieithiad William Morgan bydd argraffiad newydd mis Mawrth yn cyd-daro a dathliadau dau ganmlwyddiant sefydlu Cymdeithas y Beibl yng Nghymru.

Dywedodd y Dr Gwilym H. Jones mai'r nod gyda'r cyfieithiad newydd fydd cyflwyno fersiwn safonol o'r Beibl Cymraeg a fydd yn parhau am genedlaethau i ddod.

"Ac mi wnaethom ni fanteisio ar y cyfle hefyd i gywiro rhai gwallau a lithrodd i argraffiad 1988," meddai.

Cyfaddefodd fod yna "fwy nag a fyddem wedi'i hoffi" o lithriadau, argraffu gan fwyaf, yng nghyfieithiad 1988 gan gynnwys tair 'n' yn "meddiannu" yn un lle!

Manteiswyd ar y cyfle hefyd i sicrhau cysondeb yn y defnydd o dermau technegol.

"Yng nghyfieithiad 1988 mae aberth dros bechod yn ymddangos mewn un lle ond pechod aberth mewn lle arall ac roedd offerynnau hedd a hedd offerynnau hefyd. Bydd hynny yn cael ei gysoni yn yr argraffiad newydd," meddai..

Datblygiad pwysig arall fu cynnal trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr eglwysi efengylaidd na fu'n defnyddio argraffiad 1988 yn bennaf oherwydd anghytundeb ynglŷn 芒 chyfieithiadau o dermau diwinyddol.

"Ond yr ydym wedi trafod efo grwp o'r eglwysi efengylaidd y pethau nad oeddan nhw yn hapus efo nhw ac yr ydym wedi newid rhai pethau ac wedi cyfaddawdu ar bethau eraill - ond wedi gwrthod newid rhai pethau hefyd," meddai.

Un o'r meini tramgwydd i'r efengylwyr oedd y trosiad "Moddion puredigaeth" lle'r ymddangosai "Iawn" yn yr hen gyfieithiad.

Bydd hynny'n newid yn "Aberth cymod" yn y cyfieithiad newydd gyda throednodyn yn tynnu sylw at y ffurfiau Iawn a Moddion Puredigaeth.

Beibl i bawb
Mae'r slogan sydd wedi ei llunio ar gyfer gwerthu'r cyfieithiad newydd - "Beibl i bawb" - yn adlais o arwyddair Cymdeithas y Beibl y dethlir ei dau ganmlwyddiant, "Beibl i bawb o bobol y byd."

Ond pa mor dda bynnag fydd y cyfieithiad newydd fydd o ddim yn plesio pawb fel y clywyd mewn trafodaeth danllyd ar Radio Cymru rai wythnosau'n 么l rhwng y prifardd Twm Morys a'r gweinidog o Aberystwyth, y Parchedig Pryderi Llwyd Jones.

William Morgan - ei gyfeithiad yn rhagori meddai Twm MorysWrth ymosod ar gyfieithiad 1988 dywedodd Twm Morys na fyddai ef yn caniatau i hwnnw a'i iaith sathredig ddod dros riniog ei ddrws.

Cyhuddodd fersiwn 1988 o fod yn "lastwraidd" o'i gymharu 芒'r hyn a alwai ef yn, "Y Beibl iawn" a'r "Beibl cywir" gyda llawer o'i farddoniaeth wedi ei golli a'r "dweud mawr grymus wedi ei dynnu ohono!"

Dadleuodd Pryderi Llwyd Jones, fodd bynnag, fod y cyfieithiad 1988 nid yn unig yn "gymedrol iawn" ond yn gwneud tegwch a chyfoeth Y Gair ac yn haws i'w ddeall.

Beth yw eich barn chwi?

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy