![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Tinboeth - pwyso a mesur Dau lenor yn trafod gyda Gwilym Owen
Bu Bethan Gwanas, golygydd Tinboeth yn s么n am y gyfrol ar Wythnos Gwilym Owen ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, ddydd Llun, 19 Tachwedd, 2007.
Yn dilyn, bu'r ddau lenor, Gwen Pritchard Jones ac Elfyn Pritchard, yn pwyso a mesur y gyfrol wedyn.
Dywedodd Bethan Gwanas i'r syniad am gasgliad o straeon erotig Cymraeg ddod yn sgil poblogrwydd cyfresi fel Sexy Shorts f么r Summer yn Lloegr.
Daeth criw o awduron at ei gilydd yng nghanolfan sgrifennu T欧 Newydd i fwrw'r cynllun ymlaen.
"Ac roeddwn i eisiau pwysleisio mai erotig fuasen nhw ac nid pornograffi," meddai.
"Yn y b么n be ydan ni eisiau ydi llyfr sy'n mynd i werthu'n dda a dyna pam yr aethom ni amdani hi," meddai.
Er i rai o'r awduron gynnwys erotica yn eu gweithiau yn y gorffennol dywedodd bod eraill nad oeddynt erioed wedi sgwennu'n erotig o'r blaen.
"Yr oedd yna rai nad oedden nhw erioed wedi mentro - nac erioed wedi cael y gyts i wneud - falle nad oeddan nhw'n si诺r eu bod nhw'n gallu'i wneud o.
"Felly roedd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw arbrofi ac i weld, yn un peth, os oedden nhw'n lecio sgwennu'r math yma o beth a hefyd os oeddan nhw'n gallu," meddai.
Dywedodd i'r penderfyniad i gyhoeddi'r straeon heb enw gael ei drafod "dipyn go lew" mewn cyfarfodydd.
"O'r cychwyn roeddem wedi meddwl ei gyhoeddi yn ddienw er mwyn rhoi'r rhyddid i bobl sgwennu heb deimlo - wel dyna ichi rywun fel Eigra, enw parchus iawn, tybed a fyddai hynny'n i llyffetheirio hi.
"Fuasa fo ddim iddi hi ac roedd sawl un [ohonom] yn y diwedd yn reit hapus i roi ein henwau wrth ein stori ond bod yna rai eraill oedd yn well ganddyn nhw ein bod ni ddim a dwi'n meddwl fod hynny yn benderfyniad cywir yn y pen draw achos, wel, mae o wedi codi diddordeb yn tydi. . . . ac mae o yn help i werthu'r gyfrol ac mae o yn help i drafod y gyfrol.
"Felly os ydi o yn ysgogi unrhyw fath o drafodaeth ar lyfrau wel mae hynny'n beth da yn tydi."
Er iddi orfod golygu "ambell i air" dywedodd iddi gael ei synnu "fod pawb mor ddiniwed".
"Does yna ddim byd cryfach yn y gyfrol yma na chewch chi mewn ambell i nofel sydd allan Dolig 'ma," meddai gan ychwanegu fod yna "erotica reit ddiddorol" yn nofelau Elin Llwyd Morgan a Gareth F Williams.
Awgrymodd y cyhoeddir ail gasgliad, Tinboethach.
Mewn trafodaeth wedyn dywedodd Gwen Pritchard Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eistedddfod Genedlaethol Eryri 2005, iddi hi fwynhau y stori芒u "bron i gyd".
Ond ychwanegodd:
"Doedd rhai ddim cweit beth fyddech chi'n i alw yn erotig doeddan nhw ddim yn cyrraedd y nod fasw'n i'n meddwl.
"Ond ar y cyfan roeddwn i'n chwerthin gryn dipyn.
"Mae rhywbeth erotig i fod i oglais y synhwyrau yn tydi. I fod i godi rhyw nwyd ynddo chi ond weithiau roeddech chi'n teimlo mai dim ond ail ddisgrifio rhyw rhwng cwpwl mewn gwahanol ffyrdd a dim cweit yr elfen chwareus yna fuasech chi yn ei ddisgwyl mewn rhywbeth erotig."
Ac meddai Efyn Pritchard sydd hefyd yn enillydd cenedlaethol:
"I mi cannwyll yn llosgi'n araf ydi erotica nid tanllwyth yn fflamio yn sydyn- a dyna oedd y prif ai."
Ond ychwanegodd eu bod yn.
straeon "digon difyr i'w darllen" heb ofyn llawer gan y darllenydd.
"Dydi eu menter nhw ddim adlewyrchu nac yn cyfiawnhau heip y marchnata," meddai.
Dywedodd mai dwy stori oedd yn sefyll allan iddo fo:
Prr am ddawnswraig erotig a disgrifiodd Jasmin ac Eiodin fel "perl" am hen wraig yn ail-fyw profiadau ieuenctid wrth i ddyn drin ei thraed. Stori, meddai, a fyddai'n dal ei thir "mewn un rhyw gyfrol o lenyddiaeth".
Dywedodd Gwen Pritchard Jones y byddai hi yn ychwanegu atynt y stori Dwy.
"Roedd honno yn gwneud i mi chwerthin," meddai.
Dywedodd hi hefyd fod naws ddosbarth canol i'r straeon.
Dywedodd y byddai'n barod i ystyried cyfrannu i gyfrol nesaf - a chyhoeddi wrth ei henw hefyd.
Dywedodd Elfyn Pritchard, yntau, "Pe byddwn i'n sgrifennu fel hyn fe fyddwn yn barod i roi fy enw wrtho."
Ond doedd o ddim am i Tinboeth gael ei chynnwys yn rhestr deg llyfr gorau y flwyddyn a chytunodd Gwen Pritchard Jones y byddech yn disgwyl "rhywbeth gwell" ar restr felly.
Adolygiad o Tinboeth
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|