| ![Llais Ll锚n](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/66cdaad7d29f9d30d315220737b34495824b4848.gif) |
![adolygiadau a straeon](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Mentro gyda llyfrau sain Cymraeg Mae'r cryno ddisgiau cyntaf erioed o lyfrau Cymraeg yn awr ar gael.
Cwmni newydd o'r enw Tympan sydd wedi eu cynhyrchu ac un o'r llyfrau yw nofel Angharad Price, O Tyn y Gorchudd, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi, 2002.
Ar CD arall bydd un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru T. Llew Jones yn darllen ei waith ei hun.
Straeon i blant gan Catherin Aran fydd ar y drydedd.
Y tu 么l i'r fenter uchelgeisiol hon o roi llyfrau Cymraeg ar CD am y tro cyntaf mae Eleri Hopcyn a fu, pan yn gynhyrchydd gyda'r 麻豆官网首页入口, yn gyfrifol am nifer o ddarlleniadau o lenyddiaeth Gymraeg.
"Ymgais i ymateb i'r bwlch yn y farchnad Gymraeg yw'r symbyliad tu 么l i fenter Tympan a'r bwriad yw cyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i ystod eang o brynwyr gan gynnwys pobl na fyddant, fel rheol, yn prynu neu fenthyg llyfrau Cymraeg," meddai.
"Mewn byd lle mae llai a llai o amser i oedi a darllen mae llyfr sain yn ffordd hwylus o agor y drws i fyd ll锚n," ychwanegodd.
Os bydd yr arbrawf hwn yn llwyddiannus dywedodd mai bwriad Tympan yw symud ymlaen i gyhoeddi deunydd amrywiol ac eang ei ap锚l yn y dyfodol agos gan gynnwys gweithiau clasurol, llenyddiaeth boblogaidd a llyfrau gosod arholiadau.
Y tri llyfr cyntaf i'w cyhoeddi ar CD ydi: Lleuad yn Olau gyda T. Llew Jones, wedi ei recordio yn ei gartref, yn darllen rhai o'i hoff chwedlau o'r casgliad lliwgar hwn.
"Roedd e mor frwdfrydig ag erioed," meddai Eleri, "a'i lais e fel cloch."
O, Tyn y Gorchudd: yr actores Betsan Llwyd sy'n darllen cyfrol Medal Ryddiaith Angharad Price am Rebecca Jones a theulu Tynybraich o Gwm Maesglasau, yn Sir Feirionnydd.
Mae hwn yn cael ei ystyried yn waith addas iawn ar gyfer y cyfrwng yma gan ei fod yn ymwneud a dallineb.
Storiau Pum Munud: detholiad o straeon gwerin hwyliog i blant yn cael eu darllen gan Catherin Aran, sy'n gyfarwydd neu adroddwraig straeon yng Ngwynedd.
Mae hwn yn faes y mae gwerthu mawr ynddo yn Saesneg a dywedodd Eleri Hopcyn i ddwy filiwn o bobl brynu llyfrau sain ym Mhrydain yn ystod 2002.
"Mae hynny'n fwy nag sy'n mynd i weld opera a bale neu sy'n perthyn i glwb tenis neu glwb hwylio," meddai Eleri sy'n gobeithio y bydd yr yr arfer yn cydio yng Nghymru hefyd.
O! tyn y gorchudd Pecyn CD x 3 Pris yn y siop: 拢16.99 i gynnwys TAW Lleuad yn Olau Pecyn CD x 2 Pris yn y siop: 拢13.99 i gynnwys TAW Stor茂au Pum Munud CD sengl Pris yn y siop: 拢11.99 i gynnwys TAW
Ar gael o siopau llyfrau ledled Cymru ac oddi ar wefan y Cyngor Llyfrau -
Cysylltiadau Perthnasol
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![adnabod awdur](/staticarchive/82a08e191b1cce0d6479770ef13f18465459a19b.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|