麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Holi awdur:
Dafydd Morgan Lewis


Golygydd
Cerddi Powys

• Enw: :
Dafydd Morgan Lewis

Beth yw eich gwaith?
Swyddog Cyflogedig gyda Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Athro Ysgol. Gweithio i'r Academi Gymreig, Llyfrgell Ceredigion a'r Llyfrgell Genedlaethol.

0 ble'r ydych chi'n dod?
Plwy Garthbeibio yn Sir Drefaldwyn.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Aberystwyth

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Yn achlysurol.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?
Dwedwch ychydig amdano. Cael gwahoddiad gan Rocet ar drothwy Nadolig 2001. Cofiaf iddo holi i mi uwch peint o gwrw yn Aberystwyth pa un yn fy marn oedd y gerdd enwocaf i ddod o Sir Drefaldwyn yn yr ugeinfed ganrif. Atebais mai 'Nant yr Eira' Iorwerth Peate oedd yn dod i'r cof. Mae'n rhaid fod yr atebiad hwnnw wedi plesio achos wedyn fe ofynnodd os oeddwn i awydd golygu'r gyfrol.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Golygais y gyfrol 'Cymru yn fy Mhen' flynyddoedd yn 么l.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? '
Y Ffordd Beryglus', T Llew Jones.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Byddaf.

Pwy yw eich hoff awdur?
Mihangel Morgan,
Angharad Tomos,
William Owen Roberts.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
'Dail Pren.'

Pwy yw eich hoff fardd?
Waldo Williams.

Pa un yw eich hoff gerdd?
'Mewn Dau Gae.'

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Cyfod, cerdd, dawnsia, wele'r bydysawd.'

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: Beautiful Thing
Hoff Raglen Deledu: Porc Peis Bach

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Cas gymeriad/au: Pawb yn 'Stryd y Glep', Kate Roberts
Hoff gymeriad/au Teulu Bach Nantoer

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
I'r pant y rhed y dwr.

Pa un yw eich hoff air?
CYFIAWNDER.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ganu.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
叠濒锚谤
Ofnus
Cymhedrol.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Fy mlerwch.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwynfor Evans am ei gadernid a'i ddyfalbarhad.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Fe hoffwn fod wedi eistedd ar Bont Trefechan yn 1963.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Harri V ar ddechrau'r bymthegfed ganrif er mwyn dweud wrtho am aros yn ei wlad ei hun a gadael llonydd i'r Cymry.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Unrhyw un sy'n mynd drwy Sir Drefaldwyn. Am resymau cwbl sentimental.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Y cinio dydd Sul wythnosol yng Nghloc y Twr, Aberystwyth. Bwyd blasus a chwmniaeth dda.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen a diogi.

Pa un yw eich hoff liw?
Gwyrdd.

Pa liw yw eich byd?
Piws.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Un a fyddai yn gwneud prynu a gwerthu tai yn anghyfreithlon ac yn gorfodi pawb i fyw mewn eiddo wedi ei rentu. Dylai hynny leddfu tipyn ar broblem y mewnlifiad.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae Rocet a minnau wrthi ar hyn o bryd yn golygu cyfrol o erthyglau Angharad Tomos yn yr Herald. Bydd yn dod allan Dolig.

Ewch i ddarllen
am Cerddi Powys.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd






About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy