麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆官网首页入口 Homepage
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awdur adnabod awdur
Angharad Tomos
Hunllef a gwewyr iselder yn dilyn genedigaeth
Mae nofel ddiweddaraf Angharad Tomos yn canolbwyntio ar brofiad ofnadwy a gafodd yr awdur yn dilyn geni ei baban cyntaf bedair blynedd a hanner yn 么l.

Brwydrodd drwy gyfnod dirdynnol o iselder yn dilyn genedigaeth.

Bu'n s么n am y cyflwr ac am ei bwriadau gyda'i nofel, Wrth Fy Nagrau I, wrth Sian Thomas ar ei rhaglen ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, ddydd Mercher, 21 Tachwedd 2007.

Dywedodd i'w hanawsterau gychwyn gyda thrafferthion i fwydo ei baban a'r diffyg cymorth a chyngor oedd ar gael i ddygymod a'r broblem.

"Dydw i ddim yn cofio bod drwy boen mor ofnadwy a hynna ac o sbio'n 么l os ydych chi mewn poen erchyll am wythnosau lawer mae hynny'n gallu arwain at anawsterau ac roeddwn innau'n benderfynol nad oeddwn i am droi at y botel [i fwydo'r baban] ond efallai, o edrych yn 么l, mi fasa'n well pe byddwn i wedi rhoi'r gorau iddi hi," meddai.

Clawr y llyfr Roedd y boen meddai "yn eithafol" ac i wneud pethau'n waeth doedd dim help ar gael.

"Mi fuasech chi'n meddwl y byddai yna ddigon o help ar gael ond roeddwn i'n ffonio bob man ," meddai gan ddweud mai ar sgwrs y cafodd wybod yn y diwedd am nyrs a allai ei helpu.

Gydag adran famolaeth ei hysbyty na'i meddyg heb ddim i'w gynnig dywedodd; "Yr oeddech chi yn teimlo eich bod chi ar eich pen eich hun ac yn trio'r gwahanol sianelau 'ma ," meddai.

Neb yn deall
Canlyniad darganfod wedyn ei bod yn dioddef o iselder ysbryd oedd "cael eich anfon o un arbenigwr i'r llall" gyda thabledi a chyffuriau yr unig ateb oedd yn cael ei gynnig.

"Ac mae'n anodd torri allan o'r cylch yna wedyn," meddai. A phan nad oedd y rheini yn gweithio "yr oeddech yn cael eich cyfeirio at ysbyty iechyd meddwl ond dwi'n meddwl eu bod nhw yr un fath fan honno [yn] jyst trio pob math o gyffuriau.

"Wedyn roedd yn graddol wawrio arnaf i nad oes yna neb yn deall hyn yn iawn a bod rhai cyffuriau yn gweithio a bod rhai nad ydyn nhw ddim ond roeddech chi'n gorfod mynd trwy rhyw dri bedwar math gwahanol o gyffuriau . . .," meddai.

"Roeddech chi yn chwysu yn ofnadwy efo un - chwysu nes bod cynfasau'r gwely yn hollol wlyb ac efo un arall yr oeddech chi jyst yn cysgu tan hanner dydd ac roedden nhw'n dweud, 'Wel, dydi hwnna ddim yn addas, dr茂a ni rywbeth arall' a gwneud ichi sylweddoli, er ein bod ni yn yr ugeinfed ganrif ar hugain fod hwn yn faes nad oes neb cweit yn ei ddeall," meddai.

Teulu a chyfeillion
Ond pwysleisiodd werth yr holl gefnogaeth a gafodd yn deuluol a chan gyfeillion.

"Pan ydych chi yn y pen draw yn cyrraedd y gwaelod mae'n andros o help ymarferol," meddai.

Ond y mae yn bwnc a alwodd yn "tab诺".

"Dwi'n meddwl y medr cymdeithas erbyn hyn ddygymod efo pob dim ond y ffaith bod mam yn methu wynebu'r gwaith o fagu ei phlentyn - mae o mor groes i natur ac mor groes i gonfensiwn a hwnna ydi'r tab诺 rydych chi'n gorfod brwydro o ddydd i ddydd efo fo."

Nes ei brofi," meddai, "does neb yn deall y cyflwr yn iawn."

Dywedodd bod angen ailddysgu cymdeithas a mamau nad ydi cael plentyn y f锚l i gyd a chael pobl i wybod am y cyflwr a deall y gall ddigwydd.

"Ond mae'n anodd dweud [am y posibiliadau] wrth wraig feichiog [gan ei fod] yn gyfnod sydd mor llawn o ddisgwyliadau . . . [a] dydw i ddim yn meddwl pe byddai rhywun wedi s么n am y pethau hyn wrthyf i dydi o ddim yn eich cyffwrdd chi'n go iawn."

Dim byd yn gwneud synnwyr
Ychwanegodd, "Yn y misoedd yna does yna ddim byd yn gwneud synnwyr i chi a waeth ichi heb na beio'ch hun a meddwl eich bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir; mae o'n gyflwr cemegol."

Eglurodd mai pwrpas y cyffuriau oedd codi lefel cemeg sy'n isel yn y corff.

"A dyna'r cwestiwn oeddwn i'n ofyn fwyaf i bawb oedd, 'Pryd mae o'n dod i ben?' . . . a phobl yn dweud y gallai fod yn flwyddyn y gallai o fod yn ddwy," meddai.

Sgrifennu'r nofel
Bu sgrifennu'r nofel o help ac mae'n gobeithio y bydd ei darllen o help i eraill:

"Wel roeddwn i'n methu'i sgwennu pan oeddwn i'n mynd drwy'r cyfnod ac mi benderfynais i ei fod o'n brofiad gwerth ei drafod a thrio torri drwy'r tab诺.

"Dydw i ddim yn gwybod faint o help [fu hynny] ond dwi'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn ei drafod o a gwneud i bobl deimlo nad ydi o'n beth mor od a hynny - ac yn bendant drafod yr euogrwydd," meddai.

Ychwanegodd i'r sgrifennu wneud iddi edrych yn fwy gwrthrychol ar y profiad ac ystyried beth ellid ei wneud mewn ysbytai iechyd meddwl.

"A dwi di trafod hynny yn y nofel," meddai.

"Fe fyddwn i yn dweud ei bod yn help i drafod yn agored a chael mwy o wybodaeth achos dwi'n meddwl mai beth oedd y teulu a ffrindiau eisiau wybod fwyaf oedd sut ydym ni yn delio a hyn - ond doeddwn i ddim mewn cyflwr i ddweud wrthyn nhw ac er fy mod i wedi mynd drwy y peth fy hun fe fyddwn yn falch o ganllawiau be i ddweud wrth rywun fuaswn i'n adnabod sydd yn y cyflwr yma.

"Dydw i ddim yn meddwl ein bod yn hyddysg iawn sut i drin iselder . Roedd yna gymaint o bobl eisiau helpu ond ddim yn gwybod sut," meddai.

  • Adolygiad John Gruffydd Jones o Wrth fy Nagrau I

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy