| ![Llais Llên](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adnabod awdur](/staticarchive/5cb6ceb0d8222482d41fde47a19092bd8b29b879.gif) |
![adnabod awdur](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Harri Parri Ymhlith y gorau o'n sgrifenwyr doniol
Enw? Harri Parri.
• Beth yw eich gwaith? Wedi ymddeol, ar wahân i ysgrifennu.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Gweinidog.
• 0 ble'r ydych chi'n dod? O Lŷn.
• Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Caernarfon, ers deng mlynedd ar hugain, bron.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Yn gyffredinol, do.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Cyfrol o straeon byrion fel y'u hysgrifennwyd ar gyfer cynulleidfa'r Babell Lên yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau 2005 gyda John Ogwen yn eu darllen.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Cyfrolau i blant flynyddoedd yn ôl, dwsin o straeon byrion mewn dwy gyfres, un casgliad unigol o straeon byrion, dwy nofel, pedwar cofiant (un yn waith ymchwil) a dwy neu dair cyfrol ym maes crefydd.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfr Mawr y Plant, cyfrol 1. Mae'n darllen yn dda o hyd.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr? O bell.
• Pwy yw eich hoff awdur? Yn Gymraeg D. Tecwyn Lloyd. Yn Saesneg, P. G. Wodehouse.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Y Beibl Cymraeg.
• Pwy yw eich hoff fardd? R. Williams Parry.
• Pa un yw eich hoff gerdd? Theomemphus.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? 'Y ddeilen hon, neus cynired gwynt, Gwae hi o'i thynged ! Hi hen; eleni ganed': Canu Llywarch Hen, 'Cân yr Henwr'.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Dim ffefryn na ffefrynnau. Yn gyffredinol, rhaglenni dogfen - yn y ddwy iaith.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad: y gwrtharwr bob tro. Fy nghas gymeriad: cymeriad creulon.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? 'Mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn.'
• Pa un yw eich hoff air? 'Heddiw' - nid 'yfory'.
• Pa ddawn hoffech chi ei chael? Un gerddorol.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Byr, Brwd, Beiddgar - ar dro.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Fy rhagfarnau.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Iesu, am ei fod i mi yn ffitio'r ddau gategori.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Y Diwygiad Methodistaidd.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Williams Pantycelyn. O ble cest ti'r ddawn?
• Pa un yw eich hoff daith a pham? Tuag adref. Am mai dyna ble rwyf hapusaf.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Amhosibl. Does gen i'r un.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Chwilota, garddio, cymdeithasu dethol a cherdded llwybrau.
• Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd.
• Pa liw yw eich byd? Cymysgliw.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Yng Nghymru, deddf iaith. Yn fydlydan, deddf cydraddoldeb ar bob lefel.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Nac oes . . . ac oes.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Mae hi eisoes ar glawr. 'Mab llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir Fôn y ganwyd ef.': Daniel Owen.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad o Miss Pringle a'r Tatŵ
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![adolygiadau](/staticarchive/e844e1ec2ac2833b1eff0c12bdedc452469f6bb8.gif) | | ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|