| ![Llais Llên](/staticarchive/b41c8d5d66e444596d46ec589357f9f674e7d659.gif) |
![adnabod awdur](/staticarchive/5cb6ceb0d8222482d41fde47a19092bd8b29b879.gif) |
![adnabod awdur](/staticarchive/74f3ca617527bf11cc1bfe20276ae36a0e9962fb.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Llion Iwan Holi Llion Iwan awdur Casglwr a Lladdwr
Enw Llion Iwan
• Beth yw eich gwaith?
Darlithydd newyddiaduraeth, Prifysgol Cymru Bangor.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Cyfarwyddo rhaglenni teledu ffeithiol.
O ble'r ydych chi'n dod? Ganwyd yng Nghaerdydd ond fe'm magwyd yn y Waunfawr.
• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr? Ar ôl deng mlynedd yng Nghaerdydd, dwi ôl yn y gogledd, yn y Groeslon, ger Caernarfon.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do, Ysgol Syr Hugh a Prifysgol Cymru, Bangor.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf? Yn lladdwr mae'r prif gymeriad Dafydd, ar gychwyn gyrfa fel gohebydd yn dod ar draws stori sy'n golygu fod yr heddlu yn ei amau o lofruddiaeth a'r gwasanaeth cudd yn ceisio ei ladd.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Casglwr, nofel arall am Dafydd, lle mae'n ceisio dal llofrudd llawer - serial killer.
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Cyfres y Llewod gan Dafydd Parri.
• A fyddwch yn edrych arno'n awr? Mae'r gyfres dal gen i, bob un!
• Pwy yw eich hoff awdur?
Ar y funud, George P Pelecanos yn Saesneg, ac yn y Gymraeg, Owen Martell.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? The Grapes of Wrath, mi wnes ddechrau sgwennu a hel syniadau yn syth wedi ddarllen.
• Pwy yw eich hoff fardd? Dic Jones.
• Pa un yw eich hoff gerdd? "Yn Niwedd y Cynhaeaf.." gan Gerallt Lloyd Owen.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? "Tywodyn o Gwmtydu yn holl y rhwyf ydwyf.
• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm - Heat, a Cyfres Y Sopranos.
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Rhen Sarjant yn Gwaed Gwirion yw fy hoff gymeriad, ac heb ddarllen am gymeriad dwi'n gasáu eto.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Deuparth gwaith yw ei ddechrau - gan mai fi ydi'r gwaethaf am chwilio am esgus i osgoi gwaith!
• Pa un yw eich hoff air? Sbigoglys - mae'n gwneud ifi wenu bob tro dwi'n ei glywed!
• Pa ddawn hoffech chi ei chael? Llyfrau a rhaglenni diddorol.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Cydwybodol, diog.
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Diogi.
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Fy Nain, Doris Thomas.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Gwrthryfel Cuba.
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Che Guevara - Paid gadael Cuba.
• Pa un yw eich hoff daith a pham? Yr un adref, fel arfer unai ar arfordir y gogledd neu trwy fynyddoedd Eryri.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Unrhyw beth dwi ddim yn gorfod ei baratoi.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Beicio mynydd.
• Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd.
• Pa liw yw eich byd? Gwyrdd.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Ysbwriel.
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Mae'r drydedd gyfrol am hanes Dafydd wedi cychwyn. Tydi pethau ddim yn hawdd iddo o bell ffordd!
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Yr un fysa'n bachu pob darllenydd - dwi'n dal i chwilio amdani.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Casglwr
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
Lladdwr
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![adolygiadau](/staticarchive/e844e1ec2ac2833b1eff0c12bdedc452469f6bb8.gif) | | ![llyfrau newydd](/staticarchive/5bba0577704a9dbedcf678c36d1ebc308d9020d5.gif) | | ![gwerthu'n dda](/staticarchive/1c83813ec6e9f5fe942bc15532710e416a5c0bb2.gif) | | ![son amdanynt](/staticarchive/4bef5678b435a262c7dc03f1cff0c5c4c26363fd.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru'r Byd.
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
| ![pwy di pwy?](/staticarchive/68f33ef225a8c1e5f20bd2e136111419e3a29fa1.gif) | | ![dyfyniadau](/staticarchive/3d038b21345e861430bbd3844065eeda6ae844f7.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | ![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|
|