麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cyntedd yr eglwys
Eglwys Llangadwaladr

Eglwys hynafol gyda mwy nag un trysor


Ebrill 2003


Nid carreg Cadfan yw'r unig beth sy'n gwneud Eglwys Llangadwaladr yn hynod.

Yr eglwysY mae yn yr eglwys hon, sy'n pontio tair canrif ar ddeg, hefyd un o'r ffenestri lliw sy'n cael ei cyfrif gyda'r hynotaf a'r harddaf yng Nghymru - rhywbeth braidd yn anghyffredin mewn eglwys ddiarffordd ym mherfeddion cefn gwlad Mon

Credir i'r ffenestr gael ei gosod yn ei lle fel arwydd o ddiolch am ddychweliad uchelwr lleol yn ddianaf o frwydr Bosworth yn 1485.

Yn gywrain o ran ei harlunwaith nid oes gan neb amcan, fodd bynnag, pwy oedd yr arlunydd a fu wrthi mor ddiwyd ym mherfeddion y Fam Ynys yr un adeg ag yr oedd da Vinci a Michael Angelo wrth eu gwaith yn yr Eidal.

Wrth gwrs doedd yr eglwys ddim mor ddiarffordd ar un adeg - dim ond ychydig filltiroedd i ffwrdd yr oedd llys brenhinoedd Gwynedd yn Aberffraw a thebyg mai hwy a gododd addoldy yma yn y seithfed ganrif.

Ar werth yn yr eglwys y mae llyfryn dwyieithog yn rhoi ei holl hanes wedi ei sgrifennu gan Morfudd Jones, gweddw y Parch Robert Eifion Jonesa oedd yn rheithor yno rhwng 1964 a 1977.

"Y mae hanes diddorol a thrysorau amhrisiadwy yn perthyn i Eglwys Sant Cadwaladr, yn pontio tair canrif ar ddeg," meddai hi - er na fyddai'r sawl sy'n prysuro yn ei gar drwy'r pentref bychan yn sylweddoli hynnyu.

Mae'r eglwys ger croesffordd lle mae'r B4422 o'r A5 yn ymuno a'r A4080 o Falltraeth i Aberffraw ond hawdd fyddai mynd drwy'r pentref heb sylwi arni a hithau rywfaint o'r golwg mewn coed.

Y maen  bellach wedi ei ymgorffori  yn y mur oddi mewn i'r eglwysDarganfyddwyd carreg Cadfan yn nhir yr eglwys ond y mae bellach wedi ei hymgorffori yn y mur gogleddol oddi mewn i'r adeilad gyda'r ysgrifen yn dal yn ddarllenadwy o graffu arni.

Mae'n ddiddorol nid yn unig oherwydd ei hoed a'r ysgrifen arni ond hefyd am mai hi yw'r garreg gynharaf y gwyddom amdani sy'n dwyn y groes Gristnogol.

Erbyn hyn mae yna gopi o Whispering Reeds ar gael yno ond nid yw hwnnw ar werth nac yn yr eglwys ei hun ond yn y cyntedd ar gael i ymwelwyr edrych arno.

Edrych drwy'r giatiau tuag at yr eglwysMae awyrgylch arbennig i'r lle oddi mewn ac oddi allan lle mae'r fynwent yn gyforiog o friallu a llygaid y dydd yn mwynhau haul y gwanwyn i gyfeiliant brain eithriadol o swnllyd sy'n nythu yn y coed gerllaw.

Hanes Eglwys Sant Cadwaladr, Llangadwaladr gan Morffudd Jones. Ar werth yn yr eglwys am £3.
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauN么l i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd






About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy