麻豆官网首页入口

Neville Southall

Neville Southall

Yn ei ddydd, roedd Neville Southall yn un o g么l-geidwaid gorau'r g锚m ac yn un o hoelion wyth timau Everton a Chymru am dros ddeng mlynedd cyn dod yn rheolwr.

Ganwyd Southall ar 16 Medi 1958 a fe'i magwyd yn Llandudno. Chwaraeodd gyntaf yng nghanol y cae i d卯m yr ysgol ac i'r Llandudno Swifts efo Joey Jones. Cafodd ei addysg yn Ysgol John Bright.

Yn ei arddegau, aeth ar brawf ddwy waith i Crewe Alexander a Bolton, ond bu'n aflwyddiannus y ddau dro, felly aeth i weithio fel adeiladwr a chwarae i dimau Conwy, Dinas Bangor a Winsford cyn cael ei brynu gan Bury am 拢6,000. Ond un diwrnod fe gafodd ei weld yn chwarae gan Howard Kendall, un o reolwyr mwyaf llwyddiannus Everton, ac fe gynigiodd 拢150,000 amdano yn 1981. Dipyn o dro ar fyd i un oedd yn gweithio ar safle adeiladu ychydig ynghynt!

Digon simsan fu ei yrfa i ddechrau ac aeth ar fenthyg i Port Vale am ychydig o fisoedd, cyn hawlio crys rhif un Everton iddo fo'i hun a neb arall. Enillodd y gleision bencampwriaeth y Gynghrair yn 1985 a 1987, Cwpan yr FA yn 1984 a 1995 a chwpan Enillwyr Cwpan Ewrop yn 1985. Yn y flwyddyn honno hefyd, dewiswyd Southall yn chwaraewr y flwyddyn gan y Football Writers Association a chanmolwyd yn arbennig ei allu i symud yn reddfol a'i bresenoldeb eofn yn y g么l.

Pan chwaraeodd ei g锚m olaf i Everton yn Nhachwedd 1997, roedd wedi torri record y clwb drwy chwarae mewn 750 o gemau a record Cymru ar 么l chwarae 93 o weithiau dros ei wlad yn ystod wythdegau a nawdegau'r ganrif diwethaf.

Ers hynny mae Southall wedi chwarae i Southend, Torquay United, Bradford ac Amwythig fel hyfforddwr a g么l-geidwad pan fo angen. Bu Southall yn hyfforddi t卯m dan 19 Cymru am gyfnod.


Llyfrnodi gyda:

Cylchgrawn

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan 麻豆官网首页入口 Cymru.

Hanes y b锚l hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.