麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Meilir Jones Tair Gwobr RAP i Meilyr
Llongyfarchiadau mawr i Meilyr Jones o Bow Street. Enillodd ei fand, Radio Luxembourg, dair gwobr Roc a Phop yn seremoni wobrwyo flynyddol rhaglen C2, 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.
Wedi i'r band gael eu henwebu ar gyfer pedair gwobr fe gipion nhw wobrau 'Band a ddaeth fwyaf i amlygrwydd yn 2005', 'Sesiwn C2 gorau' a'r 'EP neu'r Sengl Orau' am eu sengl gyntaf 'Pwer y Fflwer / Lisa Magic a Porva'.

Rhyddhawyd y sengl ar label Ciwdod ym mis Tachwedd 2005 ac fe'i cynhyrchwyd gan un o arwyr Meilyr, Euros Childs o'r band Gorky's Zygotic Mynci. Ers hynny, mae'r sengl wedi mynd mor uchel 芒'r ail safle yn siart C2 ac wedi gwerthu wrth y cannoedd ar hyd a lled Cymru.

Radio LuxembourgYn ogystal, syfrdanodd y band y gynulleidfa ddethol o gerddorion, penaethiaid labeli a newyddiadurwyr gyda set anhygoel o'u caneuon i agor y noson. Yn 么l Meilyr, prif leisydd y gr诺p, "roedd hi'n noson wych. Doeddwn i ddim wedi disgwyl ennill un wobr, dim ond yn gobeithio y byddem ni'n ennill rhywbeth! Mae'n hyfryd ennill y math yma o beth, ond yn y pen draw chwarae'n stwff ni a'r hwyl 'dan ni'n cael gyda'n gilydd sydd wir yn bwysig."

Yn 么l Meilyr bu 2005 yn flwyddyn wych i'r band gyda "llawer iawn o bobl wedi ymateb yn dda i'r gigs a'r sengl. Mae teithio o amgylch Cymru'n gigio yn gallu bod yn waith blinedig ond pan gewch chi ymateb cadarnhaol mae e wastad yn werth yr ymdrech."

Pwysleisiodd hefyd na fydd y band yn gwastraffu gormod o amser yn dathlu ond yn mynd ati'n syth i recordio deunydd newydd a pharhau i gigio.

Mae haf prysur dros ben o flaen Radio Luxembourg gyda pherfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau a nifer o ymddangosiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod gan gynnwys ymddangosiad ym Maes B ar nos Sadwrn ola'r 诺yl.

Da iawn nhw.

Gan: Einion Dafydd

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng 麻豆官网首页入口 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael 拢30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆官网首页入口 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy