Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Richard Martin a Dai Gorwel, dau a fu'n gyfrifol am lwyfannu'r opera Opera Dai Gorwel
Tachwedd 2006
Y Gambo sy'n adrodd hanes llwyfannu Opera newydd sbon o waith un o gymeriadau Aberporth.
Llwyfanwyd opera newydd sbon o waith un o gymeriadau Aberporth, Dai Gorwel, yn Theatr Mwldan yn ystod mis Tachwedd - 'Don't Cut the Weaselwort.' Dai fu'n gyfrifol am y stori a'r geiriau a chyfansoddwyd y gerddoriaeth wreiddiol yn bennaf gan John Turner. Roedd y theatr dan ei sang am ddwy noson a'r gynulleidfa wrth eu bodd yn gwylio pobl leol, actorion a chantorion o'r ardal hon, yn perfformio.

Stori gyfoes oedd hi: datblygwyr yn ceisio dwyn rhagor o dir cefn gwlad er mwyn adeiladu archfarchnad arall. Er bod y datblygwyr yn llwyddo i gael gafael ar y tir yn gyfnewid am feic modur Harley Davidson, mae'r tylwyth teg sy'n byw yno yn achub y dydd, gyda chymorth dau hipi.

Oherwydd bod planhigyn prin, sef y 'weaselwort' yn tyfu ar y darn o dir, mae nhw'n llwyddo i atal cynllun y datblygwyr- gyda help Duw ei hun. Roedd y dychan yn ddeifiol wrth i'r cynghorwyr llwgr ddawnsio i ofynion y datblygwyr a'r geiriau'n cyfuno a cherddoriaeth fywiog i wneud noson gofiadwy iawn.

Llongyfarchiadau i'r unawdwyr i gyd, y corws o dylwyth teg bochgoch, y band, Dai, John a phawb a fu ynghlwm â'r opera. Gobeithio y bydd cyfle i weld 'Don't cut the Weaselwort' eto.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý