麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dr Menna Morgan Cymry Ohio
Ymweld a'r America
Mae un o swyddogion y Llyfrgell Genedlaethol yn ymweld 芒 threfi a phentrefi yn yr Unol Daleithiau a sefydlwyd gan Gymry.

Dywedodd y Dr Menna Morgan sy'n gofalu am 'Broject Cymru-Ohio' yn y Llyfrgell y bydd yn ymweld 芒 lleoedd fel Shandon - neu Paddy's Run fel y'i gelwid yn wreiddiol - Columbus, Oak Hill - lle mae amgueddfa Gymreig - Canolfan Madog yn Rio Grande, Granville, y "Welsh Hills", Gomer a Venedocia, rhwng 22 Medi a 13 Hydref 2007.

Un o drysorau'r wefan

Yn ystod ei hymweliad bydd yn hyrwyddo gwefan ddwyieithog newydd y Llyfrgell, Project Ohio, sy'n cyflwyno hanes a phrofiadau Cymry a ymfudodd i Ohio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn casglu deunydd ar ei chyfer.

Isod, mae'r Dr Morgan yn s么n am y wefan ac am y Cymry hynny a fentrodd i geisio bywyd gwell ym mherfeddion gogledd America:

"Mae hanes sefydlu un o gymunedau Cymreig mwyaf poblog a mwyaf enwog America yn dechrau ym 1818, pan fentrodd chwe theulu estynedig o ardal Cilcennin ar draws yr Iwerydd i geisio bywyd gwell.

Ymgartrefodd "Cymry 1818" yn ne ddwyrain Ohio ond ychydig iawn a'u dilynodd am flynyddoedd lawer.

Yn raddol, o ganol y Tridegau ymlaen, denwyd mwy a mwy o Gymry i siroedd Jackson a Gallia gan adroddiadau yn y wasg ac addewidion o gyfleoedd newydd.

Rhwng 1835 ac 1850, amcangyfrifir bod tua 2,500 i 3,000 o w欧r, gwragedd a phlant wedi gadael Sir Aberteifi oherwydd tlodi ac ansefydlogrwydd, a sefydlu yn ne ddwyrain Ohio.

Dros gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r cysylltiadau rhwng Cymru a thalaith Ohio yn parhau o hyd.

Derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru nawdd sylweddol gan i sefydlu prosiect arbennig i ddathlu a chryfhau'r cysylltiadau sy'n bodoli rhwng Cymru a thalaith Ohio.

Nod Project Cymru-Ohio yw digido a dehongli deunyddiau o blith casgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol sy'n ymwneud 芒 hanes y Cymry yn nhalaith Ohio a'u cyflwyno ar-lein i gynulleidfaoedd ym mhedwar ban byd.

example

Y Dr Menna Morgan yn dangos y wefan i'r noddwraig, Mrs Elizabeth F Davis, wrth ei hochr. Hefyd yn y llun: Dr R Brinley Jones, Yr Athro Hazel Walford Davies a Gwyn Jenkins

Mae yn arddangos tua 5,000 o ddelweddau o archifau a llawysgrifau, deunydd print, ffotograffau, mapiau a darluniau yn ogystal ag adrannau sy'n cyflwyno hanes a phrofiadau'r Cymry a ymfudodd i'r dalaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bydd Project Cymru-Ohio yn rhedeg tan ddiwedd Mawrth 2009 a'n bwriad yw ehangu a chyfoethogi'r wefan bresennol trwy:

  • ychwanegu adysgrifau a chyfieithiadau o'r deunyddiau a ddigidwyd eisoes
  • datblygu'r adran addysg bresennol
  • digido rhagor o eitemau addas gan gynnwys deunyddiau mewn archifau a chasgliadau preifat yn America."



  • Trefi
    Llyfrau
    Papurau Bro


    About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy