麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
1980 - 1999

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Canrif O Brifwyl
1900 - 1913
1914 - 1937
1938 - 1955
1956 - 1966
1967 - 1979
1980 - 1999
Radio a Teledu
Ble ar y We

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Lleoliad yr Eisteddfod Ceredigion,Aberystwyth

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol

  • Y Tor茂aid, yn annisgwyl, yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.
  • Pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru yn cael eu hethol.
  • Neil Kinnock yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Ladur. John Smith yn ei olynu.
  • Prydain yn dioddef ei sychder gwaethaf ers 1745.
  • Y byd yn dychryn o weld canlyniad y polisi o 'lanhau ethnig' yn Serbia.
  • David Mellor, yr Ysgrifennydd Treftadaeth, yn ymddiswyddo ar 么l cael ei gyhuddo o odinebu gyda'r actores Antonia de Sancha.
  • Miloedd o lowyr yn gorymdeithio i Lundain mewn protest yn erbyn y bwriad i gau 31 o lofeydd a cholli 30,000 o swyddi.
  • Bom IRA yn ffrwydro ger Stryd Downing.
  • Ethol Bill Clinton yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.
  • Castell Windsor yn llosgi a'r Frenhines yn cyhoeddi fod y flwyddyn wedi bod yn 'Annus Horriblis'.
  • Cynnal G^wyl Erddi yng Nglynebwy.
  • Y Bwrdd Croeso yn cael yr hawl i farchnata Cymru dramor.
  • Ysgol Llu Awyr ym Mhenbre a storf芒u arfau yn Nhrec^wn yn cau.
  • Dyrchafu Coleg Polytechnig Trefforest yn Brifysgol Morgannwg.
  • Y Llywodraeth yn cyhoeddi Mesur Iaith a hynny'n arwain at roi i'r iaith gydraddoldeb ar gyrff cyhoeddus, ac at sefydlu'r Bwrdd Iaith yn gorff statudol.
  • Agor gorsaf Radio Ceredigion.
  • Anthony Hopkins yn ennill Oscar am ei berfformiad yn Silence of the Lambs.
  • Menachem Begin, Alexander Dubcek, Willy Brandt, Francis Bacon, William Douglas-Hume, Hal Roach, Monica Dickens, Arglwydd Emund-Davies, Chris Bigga, Emily Davies, Arglwydd Davies o Benrhys, Arthur Davidson, Syr Charles Groves, Syr Geraint Evans, Dic Hughes, Mervyn Johns, Bedwyr Lewis Jones, Hywel D. Lewis, D. Tecwyn Lloyd, William Mathias, Edward Nevin, Dyddgu Owen, Stephen J. Williams, Ffransis Payne, Leslie Snell ac Alun Williams yn marw.

Archdderwydd               Ap Llysor

Y Gadair

Testun. Awdl: 'A Fo Ben ...'
Enillydd: Idris Reynolds
Beirniaid: Myrddin ap Dafydd, T. Llew Jones, Gruffydd Aled Williams
Cerddi eraill: Emyr Lewis oedd yr ail orau.

Blwyddyn

Radio a Teledu

 
 

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Awdl alegor茂ol gelfydd yn y modd y mae hi'n rhoi gwedd gyfoes i chwedl Branwen yn y Mabinogi. Ynddi y mae drudwy'r iaith yn cynrychioli gobaith, a Bendigeidfran yn symbol o'r hen chwedloniaeth sy'n ysbrydoliaeth i ni heddiw yn y blynyddoedd tywyll.

Y Goron

Testun: Casgliad o gerddi: 'Cyfannu'
Enillydd: Cyril Jones
Beirniaid: Marged Haycock, John Roderick Rees, Gwynne Williams
Cerddi eraill: Yr oedd Gwyneth Lewis yn uchel iawn gan Marged Haycock, ond yn isel iawn gan John Roderick Rees a Gwynne Williams. I Norman Closs Parry y dymunai John Roderick Rees roi'r Goron. 'Roedd y Canon Dewi W. Thomas hefyd yn agos am y Goron.

Ymateb a sylwadau Alan Llwyd

Casgliad crefftus a meddylgar a geisiai bontio'r gagendor rhwng dau ddiwylliant, Kenya a Chymru, gan roi mynegiant ar yr un pryd i bryder ynghylch diwylliannau lleiafrifol.

Y Fedal Ryddiaith

Nofel fer neu gasgliad o straeon byrion yn ymwneud 芒'r dyfodol
Enillydd: Robin Llywelyn (Seren Wen ar Gefndir Gwyn)

Tlws y Ddrama

Drama hir
Enillydd: Pam Palmer

 
Tlws y Cerddor

Neb yn deilwng
 
Llyfrau perthnasol

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas. Mis Awst 2000.



About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy