![Datblygu](/staticarchive/f39af2e32cb52a98d79cefd8187ccad76c2b9b95.jpg)
Gr诺p mwya'r s卯n amgen yn yr 80au a 90au fu'n gyfrifol am greu cerddoriaeth Gymraeg mwya anghenrheidiol yr ugeinfed ganrif.
Efengyl Roc Cymraeg
Yn 么l Gruff Rhys, cerddoriaeth Datblygu yw'r efenygl roc Cymraeg. Roedd y gr诺p yn diffinio eu hunain fel "non-hick, non conforming non-conformists".
Ers i'r gr诺p chwalu yn 1995, mae academyddion a newyddiadurwyr wedi sgrifennu am bwysigrwydd eu dylanwad ar ddiwylliant Cymru. Ail-ryddhawyd albyms unigryw fel Wyau (1988), Pyst (1990) a Libertino (1993), ac aeth y Super Furry Animals 芒 fersiwn newydd o'r clasur Y Teimlad i'r 20 Uchaf Prydeinig ar y record Mwng yn 2000.
Tro ar 么l tro yn eu gyrfa, llwyddodd Datblygu i greu gwaith efo cymeriad unigryw oedd yn mynnu bod y gwrandawr yn ystyried pa ochr o'r ffens oedden nhw eisiau sefyll.
Ffurfiwyd y gr诺p nol yn 1982 gan David R Edwards a T Wyn Jones, bechgyn ysgol o Aberteifi, efo Pat Morgan yn ymuno yn 1984.
Yn 么l David, "Pan o'n i'n ifancach yn yr wythdegau roedd fy mhen i fel 'pressure cooker', o'n i'n ysgrifennu caneuon trwy'r amser ac yn teimlo fel 'outsider' yn teimlo bod fi ddim yn rhan o gymdeithas'.
John Peel
N么l yn yr 80au roedd y sylw i'r gr诺p oddi fewn i Gymru yn bell o fod yn gefnogol, gydag agwedd herfeiddiol y gr诺p yn llwyddo i elyniaethu elfennau ceidwadol y s卯n. Ar yr un pryd, roedd DJ enwoca'r byd - John Peel - yn datgan mai cerddoriaeth Datblygu oedd yr ysgogiad gore i unrhywun i ddysgu'r iaith Gymraeg.
Roedd gallu Datblygu i fod yn feirniadol o realiti y byd Cymraeg, yn ddi-flewyn ar dafod, law yn llaw efo'r gallu i greu cerddoriaeth gwbl unigryw oedd yn denu clod a chefnogeth o bob cwr, yn un o rinweddau pwysica'r gr诺p.
Etifeddiaeth
Er ei fod wedi teimlo ar wah芒n ar y pryd, erbyn heddiw mae talent cerddorol a barddonol cwbl unigryw David R Edwards a'r gr诺p yn cael ei gydnabod fel etifeddiaeth artistig pwysica'r cyfnod. Yn wir, i'r rhai sy'n dilyn y s卯n roc Gymraeg, David yw Gwir Tywysog Cymru a chynnyrch Datblygu yw cerddoriaeth mwya ysbrydoledig ein diwylliant roc.
Fel 么l-nodyn i hanes y gr诺p, fe ail-ymunodd David a Pat 芒'i gilydd yn 2008 i recordio un c芒n newydd, C芒n y Mynach Modern, i ddathlu rhyddhau CD o sesiynau Radio 1 recordiwyd y gr诺p ar gyfer sioe radio y diweddar John Peel.
Cyhoeddwyd hunangofiant David R Edwards gan Y Lolfa yn 2009. Yn 2012 bu Datblygu'n dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu gydag arddangosfa arbennig yng nghaffi Waffle, Caerdydd a chynlluniau am ffilm ddogfen am hanes y band yn yr Hydref.
Emyr Williams
Aelodau'r Band:
David Edwards: Llais, Gitar, Offerynnau
Pat Morgan: Bas, allweddellau, llais
T Wyn Davies: Synnau, offerynnau
Newyddion
Sesiynau Newydd!
Chwefror 22, 2006
Teyrngedau i John Peel
Hydref 14, 2005
Teyrngedau i John Peel
Hydref 14, 2005
Adolygiadau
![](/staticarchive/995338cdcf819dae55c21d93f44e6b0d82ed43a4.jpg)
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
Gweler Hefyd
Cysylltiadau'r 麻豆官网首页入口
Cysylltiadau Rhyngrwyd
麻豆官网首页入口 Wales Music
![Sian Evans](/staticarchive/40d47d278803ba4e94937f3aa8a82fe31e3930dc.jpg)
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.