Mae termau fel "seren" neu "athrylith" yn cael eu defnyddio'n aml iawn y dyddiau yma, yn rhy aml os rhywbeth. Ond mae ambell i berfformiwr neu gyfansoddwr yn wir haeddu'r clod. Mae Endaf Emlyn yn un o'r bobl yna, yn ganwr, cyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilmiau.
Wedi'i eni yn un o feibion Pen Ll欧n, bu Endaf yn "canu o'r crud", ond fe ddaeth i olwg y cyhoedd am y tro cynta pan yn fachgen 18 oed yn canu gyda band mewn cystadleuaeth i Glybiau Ieuenctid M么n. I can't help falling in love with you oedd y g芒n, a'r beirniad oedd Mered - Meredydd Evans, pennaeth adran adloniant 麻豆官网首页入口 Cymru ar y pryd.
Pan yn yr ysgol fe fu'n aelod o Gerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru gyda Karl Jenkins a John Cale, ac er iddo hyfforddi i fod yn athro, ar ddiwedd y 60au roedd Endaf yn wyneb adnabyddus yng Nghymru wedi iddo gael swydd fel cyhoeddwr teledu gyda HTV.
Tua'r un adeg ymunodd 芒 M&M, cwmni cyhoeddi Tony Hatch, (a ddaeth yn enwog am gyfansoddi arwyddgan Neighbours). Yno cyfarfu 芒'r cerddor Mike Parker ac mae eu cyfeillgarwch wedi para hyd heddiw.
Ym 1967/8 fe gyhoeddodd ei record gyntaf, Paper Chains ar label Parlophone, yr un label 芒'r Beatles. Fe ddewiswyd y g芒n yn record yr wythnos gan Tony Blackburn ar Radio 1. Ar ail ochr y record sengl yna oedd Madryn a chafodd ei recordio yn stiwdio'r Beatles yn Abbey Road.
Cyhoeddodd Endaf ddwy record sengl arall ar label Parlophone, All My Life a Cherry Hill, a Starshine a Where were You?. Y gr诺p cyntaf iddo fod yn aelod ohonno oedd Yr Eiddoch Yn Gywir, gyda'r diweddar John Boots a Hywel Gwynfryn.
Y record hir gyntaf iddo gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg oedd Hiraeth ym 1973. Roedd yr albwm yn cynnwys wyth o ganeuon wedi eu hysgrifennu gan Endaf a Mike Parker. Roedd un g芒n draddodiadol, Lisa L芒n, wedi ei threfnu gan Endaf, a'r brif g芒n Hiraeth gyda geiriau Endaf a cherddoriaeth Randy Newman.
Blwyddyn yn ddiweddarach ymddangosodd LP Salem, yr albwm gysyniadol gyntaf yn yr iaith Gymraeg, yn seiliedig ar y cymeriadau yn y darlun enwog gan Vosper. Recordiwyd Salem gan Endaf a Mike Parker ar beiriant recordio ym mharlwr Endaf. Gyda chaneuon bythgofiadwy fel Evan Edward Lloyd, Sian Owen T欧'n y Fawnog ac Aderyn Du, fe aeth Salem yn syth i galon y genedl.
Aeth dwy flynedd heibio cyn i'r LP nesaf ddod i'r fei. Roedd Syrffio yn gasgliad o ganeuon dipyn yn wahanol, ac yn cynnwys y bytholwyrdd Macrall wedi Ffrio. Roedd yn albwm llawn o ganeuon s诺n yr haf, a chyhoeddwyd yn ystod haf crasboeth 1976, a set o ganeuon sy'n boblogaidd dros ben hyd heddiw.
Aeth pum mlynedd heibio cyn i Endaf gyhoeddi ei albwm olaf, Dawnsionara ym 1981. Yn y cyfamser fe ysgrifennodd Endaf sioe gerdd gyda Hywel Gwynfryn, Melltith ar y Nyth. Bu'n aelod o'r supergroup Cymraeg Injaroc. Cyhoeddodd y band un albwm ym 1977 oedd yn cynnwys un arall o glasuron Endaf Emlyn, Swllt a Naw.
Yn ystod blynyddoedd olaf y 70au bu Endaf yn gweithio gyda nifer o gerddorion eraill, a chafodd ei gyflwyno i nifer o wahanol fathau o gerddoriaeth. Cynnyrch y cyfnod hwn oedd y band Jip, yn cynnwys Endaf, Myfyr Isaac, John Gwyn ac Arun Ahmun. Dylanwad y cerddorion yma, ac eraill a fu'n weithgar yn y byd roc o gwmpas Caerdydd - pobl fel Richard Dunn, Pino Paladino ac eraill - arweiniodd at yr amrywiaeth diddorol o ganeuon sydd yn y casgliad ar Dawnsionara. Pwy all anghofio Paranoia, Aros am y Dyn, a Saff yn y Fro?
Ond nid diwedd y g芒n oedd Dawnsionara. Yn dilyn perfformiad byw gwefreiddiol yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2008, mae Endaf yn gobeithio cyhoeddi CD o ganeuon newydd rhywbryd yn ystod 2009. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar.
Richard Rees
Newyddion
![](/staticarchive/3711290729eaf41f898b27b4a70f192f372e4f05.jpg)
Sesiwn Fawr Dolgellau 2008
17 Mawrth 2008
Pnawn dydd Sul ar raglen Lisa Gwilym, fe gyhoeddwyd pwy fydd yn chwarae yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni!
Eraill
Jeni Lyn ar C2
Y newyddion cerddorol diweddaraf, gan gynnwys newyddion am raglen Ysgol Roc, albym a thaith Richard James, Gwyl Bae Cemaes a llawer mwy...
麻豆官网首页入口 Wales Music
![Sian Evans](/staticarchive/40d47d278803ba4e94937f3aa8a82fe31e3930dc.jpg)
More Music by Welsh artists
Take at look at our musical profiles of all kinds of artists from across the country.