Gyda'r Nadolig yn nesáu, mae'r gweisg Cymraeg wedi bod yn brysur yn cyhoeddi cyfrolau newydd i lenwi'r hosan.
Yn eu plith ceir tair cyfrol sy'n adrodd hanes rhai o fawrion byd y campau yma yng Nghymru.
![Llyfr Gareth Edwards](/staticarchive/d20c74a41b55e3a2a2616f67eaf70d7046c3b6d0.jpg)
Y Crwt o'r Waun - Gareth Edwards (Gwasg Gwynedd)
Yn y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri, Y Crwt o'r Waun, ceir hanes un y mae rhai yn honni iddo sgorio y cais gorau erioed yn hanes rygbi.
Mae Gareth Edwards hefyd yn cael ei ystyried y chwaraewr rygbi gorau erioed ac roedd yn aelod allweddol o dîm Cymru gafodd lwyddiant ysgubol yn ystod y Saithdegau.
Dyma lyfr ddylai apelio at y rhai hynny sydd yn byw a bod rygbi yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn gwirioni gymaint ar y gêm.
>
O'i blentyndod hapus yng Ngwauncaegurwen i'w addysg yn Ysgol Fonedd Millfield i'w lwyddiant ar feysydd rygbi'r byd - mae'r hanes rhwng dau glawr wedi ei gywain gan Alun Wyn Bevan.
![Llyfr Ian Gqwyn Hughes](/staticarchive/dac08362f533fbae1b19bcf759c2a259403c24c2.jpg)
Gweld Sêr: Pêl-Droedwyr Gorau Cymru o'r 60au hyd Heddiw - Ian Gwyn Hughes (Gwasg Gomer)
Pwy yw'r pêl-droediwr gorau erioed i gynrychioli Cymru?
Mae'r sylwebydd Ian Gwyn Hughes wedi dewis 13 o chwaraewyr y mae'n eu hystyried yn oreuon ein cenedl ers y Chwedegau gan gychwyn gyda John Charles a gorffen gyda Ryan Giggs.
>
Mae yma bortreadau o'r chwaraewyr drwy lygaid personol prif ohebydd pêl-droed Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru.
Heblaw am Charles, gwelodd Ian bob un o'r chwaraewyr yn chwarae a bu'n cydweithio â rhai yn rhinwedd ei swydd.
![Llyfr Stephen Jones](/staticarchive/d758e662f5d78f3e1980a0a570aec1cac9411241.jpg)
Stephen Jones - O Clermont i Nantes - Stephen Jones, Lynn Davies (Y Lolfa)
Cawn gipolwg ar yr hyn ddigwyddodd yn ystod ymgyrch aflwyddiannus yng Nghwpan Rygbi'r Byd eleni drwy lygaid y capten, Stephen Jones mewn llyfr a sgrifennodd y chwaraewr gyda Lynn Davies.
>
Mae'r gyfrol hefyd yn dilyn cyfnod Stephen gyda thîm Clermont Avergne yn Ffrainc cyn iddo ddychwelyd i'w gartref ysbrydol - Parc y Strade, Llanelli.
Llyfr arall sydd ar gael yw cyfieithiad a diweddariad Saesneg o fywgraffiad Robin McBryde - 'Y Cymro Cryfa' - gyhoeddwyd y llynedd.
Mwynhewch y darllen dros yr ŵyl!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |