Roedd Breeze, enillodd aur yn Melbourne bedair blynedd yn 么l, yn cystadlu am y tro olaf cyn ymddeol yng nghategori 63kg y codi pwysau. Er iddi lewygu, roedd capten t卯m Cymru yn y safle ar gyfer y fedal aur ar un cyfnod ond fe fethodd gyda'i chynnig olaf. Ac fe lwyddodd Obioma Okoli o Nigeria i godi'r pwysau o 115kg i hawlio'r aur ac i chwalu breuddwydion Breeze.![Carys Parry Carys Parry](/staticarchive/9766d5273fd99d980009d31d7e6338716790627a.jpg) "Mae'n ddiwedd cyfnod wedi gyrfa 18 mlynedd. Fe wnes i roi popeth," meddai Breeze. "Fe ddes i yma i ennill yr aur ond 'dwi wrth fy modd gyda'r arian yn enwedig ar 么l dod yn 么l wedi anaf." Hawliodd y cystadleuydd paralympaidd Jenny McLoughlin medal gyntaf Cymru yn yr athletau wrth iddi sicrhau arian yn y 100m T37 i ferched. Sefydlodd McLoughlin record bersonol newydd wrth orffen yn ail mewn amser o 14.68 eiliad gyda Katrina Hart o Loegr yn cipio'r aur a Johanna Benson yn ennill yr efydd. A ni fu'n rhaid aros yn rhy hir am ail fedal Cymru o'r dydd yn Stadiwm Jawaharlal Nehru wrth i Carys Parry ennill efydd yng nghystadleuaeth taflu'r morthwyl. Sicrhaodd y ferch o Bontypridd y fedal arian gyda thafliad o 64.93 metr - ei pherfformiad gorau o'r tymor. Sultana Frizell o Ganada enillodd y fedal aur gyda thafliad o 68.57 metr gan sefydlu record newydd ar gyfer Gemau'r Gymwanwlad. Ac fe sicrhaodd Zoe Derham y fedal efydd i Loegr wedi tafliad o 64.04m.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |