Dyma'r ail dro yn olynol i Brekke orffen yn y trydydd safle yn y gystadleuaeth yma yng Ngemau'r Gymanwlad. Dywedodd y ferch o Benybont ei bod yn hapus iawn gyda'r canlyniad yn dilyn y siom o orffen yn bedwerydd diwrnod yng nghynt yng nghystadleuaeth y parau. "Roedd hynny'n siomedig iawn ond roeddwn yn falch fy mod i wedi cystadlu ddoe oherwydd roedd gen i well syniad o beth i ddisgwyl heddiw," meddai. Jen McIntosh o'r Alban enillodd yr aur, gyda Tejaswini Sawant o India yn cipio'r arian.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |