麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru

Chwaraeon

笔锚濒-诲谤辞别诲
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
笔锚濒-诲谤辞别诲 Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 02 Tachwedd 2007
Davies yn disgwyl noson emosiynol

Dywedodd cyn gapten Cymru, Jonathan Davies, ei fod yn disgwyl noson emosiynol iawn ar Barc y Strade nos Wener wrth i'r Sgarlets wynebu Leeds.

Bydd na funud o dawelwch cyn y g锚m a bydd pob chwaraewr yn gwisgo band du ar ei fraich er mwyn cofio am gyn arwr Llanelli, Ray Gravell.

Ac mae Davies yn credu y bydd Parc y Strade, ail gartref 'Grav', yn lle anodd i'r cefnogwyr a'r chwaraewyr nos Wener.

"Mi fydd e'n le anodd iawn i fynd," meddai Davies.

Gareth Edwards yn cofio Ray Gravell

Clive Rowlands yn talu teyrnged i Grav

"'Dwi'n siwr y bydd yn anodd i gefnogwyr a chwaraewyr Llanelli," ychwanegodd.

"Fe all Llanelli sicrhau perfformiad arbennig er mwyn cofio Gravs, ond mae'n rhaid cofio mai dim ond g锚m yw hi."

Mae'r byd rygbi wedi bod yn cofio cyn arwr Llanelli, Cymru a'r Llewod, Ray Gravell bu farw ddydd Mercher yn 56 mlwydd oed.

Dywedodd cyn fewnwr Cymru a'r Llewod, Gareth Edwards, fod Cymru ar ei cholled wedi marwolaeth Ray Gravell.

"Roedd Ray yn gymeriad anferth," meddai Edwards. "Roedd dyn wastad yn teimlo'n llawer hapusach ar 么l bod yn ei gwmni.

"Roedd o'n gawr mewn sawl maes - ar y byd rygbi ac fel darlledwr."

Bu farw Gravell ddydd Mercher wedi salwch tra ar wyliau teuluol y Sbaen.

Enillodd 23 cap dros Gymru yn ogystal 芒 chwarae ym mhedair g锚m Brawf y Llewod yn Ne Affrica ym 1980.

Roedd cyn fewnwr a hyfforddwr Cymru, Clive Rowlands, yn amlwg o dan deimlad wrth dalu ei deyrnged i Gravell.

"Pan glywes i'r newyddion roedd yn sioc anferth i golli ffrind ... ffrind arbennig," meddai.

"Gallwn i siarad amdano o fore tan n么s a galle ti ddim meddwl am yr un gair gwael i'w ddweud amdano.

"Yn y 70au roedd (t卯m rhyngwladol Cymru) yn aros yng Ngwesty'r Angel dros y ffordd i Barc yr Arfau ac roeddem ni'n cerdded i'r cae.

"Ond roedd Ray Gravell yn hala hanner awr yn hirach na phawb arall i gyrraedd ochr draw'r maes gan fod e'n siarad efo pawb.

"Nage chwarae dros ei hunan oedd Ray Gravell, roedd e'n chwarae dros bawb - ei deulu a Chymru gyfan."

Dywedodd cyn hyfforddwr Cymru, John Dawes, fod Gravell yn 诺r arbennig ac yn glod i'w wlad.

"Roedd ei gariad tuag at ei wlad yn anferth. Roedd o mor falch o'i Gymreictod," meddai Dawes.

"Roedd yn cael ei adnabod fel chwaraewr grymus ond roedd ei allu i drafod p锚l yn llawer gwell na'r canolwr arferol.

"Fe brofodd dro ar 么l tro nad oedd o'n chwaraewr hunanol. Roedd yn bleser cael bod yn ei gwmni.

Dywedodd cyn olwr Cymru a'r Llewod, Gerald Davies, ei fod yn anodd dod o hyd i'r geiriau i fynegi ei dristwch ar 么l clywed am farwolaeth Gravell.

"Roedd Ray yn ddyn ansicr ond roedd 'na hiwmor anferth yn perthyn iddo," meddai Davies.

"Roedd pawb yn ei weld fel dyn grymus a chryf yng nghanol cae ond roedd Ray o hyd yn ansicr o'i allu.

"Ond roedd ganddo ffydd yn ei wlad, ffydd a chariad am ei iaith ac roedd ganddo ffydd yn ei ddiwylliant a'i ffordd o fyw a thros bentref Mynydd-y-garreg.

"'Dwi'n cofio Carwyn James yn dweud nad oedd 'na unrhyw un oedd yn fwy balch o wisgo crys coch Cymru na ray Gravell," ychwanegodd.

Dywedodd capten presennol Cymru, maswr Y Sgarlets, Stephen Jones fod Gravell "yn 诺r arbennig".

"'Doedd gan neb air drwg i'w ddweud am Grav, a 'doedd gan Grav byth air drwg i'w ddweud am unrhyw un arall.

"Roedd o'n berson hyfryd ac yn Sgarlet penigamp."

Ac meddai prif weithredwr Y Sgarlets, Stuart Gallacher: "Roedd (Gravell) yn ffigwr anferth nid yn unig yn Llanelli ond trwy Gymru a lle bynnag roedd rygbi yn cael ei chwarae.

"Roedd yn berson unigryw. Yn dilyn marwolaeth y diweddar Syr Tasker Watkins, mae rygbi Cymru wedi colli Cymro arbennig arall. "Mae ein meddyliau gyda Mari ei wraig a chyda'r plant, Manon a Gwenan, ar yr adeg drist yma. Byddwn yn ei golli ond ni fyddwn byth yn ei anghofio."


chwaraeon



About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy