麻豆官网首页入口

Catherine Aran

Enw?
Catherine Aran

Beth yw eich gwaith?
Dwi'n gweithio fel Dynes Deud Stori neu "Gyfarwydd" i Wasanaethau Llyfrgell Gwynedd ac ar liwt fy hun hefyd.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Mi oeddwn i'n actores am gyfnod, yn gweithio i nifer o wahanol gwmn茂au theatr gan gynnwys Cwmni Theatr Bara Caws am bedair blynedd.

0 ble'r ydych chi'n dod?
O'r unlle a dweud y gwir! Mae nheulu i yn wreiddiol o Rydymain/ Brithdir a Bermo, ond fues i rioed yn byw yno fy hun, oherwydd gwaith fy nhad mi fuon ni'n symud t? yn gyson ar draws Gogledd Cymru.

Lle'r ydych chin byw yn awr?
Ym Methesda, Gwynedd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do, ges i'n nylanwadu gan nifer o athrawon difyr a gwahanol, ond doedd symud o un ysgol ir llall ddim yn hwyl ar y pryd. Mi es i bum ysgol i gyd.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Wedi adrodd nifer o straeon am gewri, a darllen Campau Saith Cawr gan Brenda Wyn Jones , mi wnes i sylweddoli nad oedd chwedl ar gael am Idris, cawr Cader Idris. Roedd 'na ryw fanion ar gael amdano - ei fod yn hoffi edrych ar y s锚r, a'i fod wedi cael carreg yn ei esgid, ond ddim un chwedl gyfan. A chan fod fy rhieni wedi tynnu'n sylw i at ei wyneb ar ben y mynydd sawl gwaith pan yn blentyn, wrth deithio o Frithdir i Bermo, teimlais yn eitha cryf fod raid i'r cawr gael chwedl iddo'i hun, ac felly dyma fi'n ei ysgrifennu!!

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Dyma'r llyfr gyntaf! Ond mae gen i stori o'r enw Joe wedi'i chyhoeddi mewn llyfr o'r enw Dreigiau gan Wasg Gomer.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Roeddwn i'n hoff o ddarllen llyfrau hanesyddol Ladybird, am bobl fel Cleopatra ac Elisabeth y Cyntaf, a llyfrau T.Llew Jones!!

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Y llyfrau Ladybird?
Na fyddaf. Ond dwi dal i fod yn hoff o T.Llew Jones, yn enwedig Lleuad yn Olau

Pwy yw eich hoff awdur?
Roald Dahl.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Linda Goodmans Sun Signs oherwydd mod i'n hoffi astroleg, a Women who run with the Wolves gan ddynes o America sy'n seicolegydd ac yn gyfarwydd.

Pwy yw eich hoff fardd?
Myrddin ap Dafydd.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Dychwelyd gan T.H.Parry-Williams.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Ni wnawn wrth ffoi am byth o'n ffwdan ff么l, ond llithro I'r llonyddwch mawr yn ol..

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ryan's Daughter.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Begw yn Te yn y Grug ac Uriah Heep yn David Copperfield.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Rhaid cerdded milltir yn gwisgo esgidiau dyn cyn ei farnu.

Pa un yw eich hoff air?
Sorted!

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae'r delyn.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Ymlaen, i fyny, ac ar draws.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Methu cadw trefn.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Dim ond un?
Anodd!

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Rhannu'r m么r yn ddau efo Moses.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Y dyn cyntaf erioed - 'Ti'n oer? Ffansi gwneud t芒n?'


Pa un yw eich hoff daith a pham?
Adra, gan mod i'n gweld mynyddoedd Eryri wrth nesau , a tydyn nhw byth yr un fath.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Gwin, pasta a llwyth o ffrindiau.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Mynd am dro drwy'r coed. Treulio amser efo'r teulu Jac (6) , Rhys (2) a Gary (fy mhartner) sy'n ddreifar tryciau ac yn gweithio i ffwrdd yn aml.

Pa un yw eich hoff liw?
Porffor.

Pa liw yw eich byd?
Pob lliw. O liw mwd i liw heulwen.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dim cwffio!

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Chwedl Gelert i blant CA1 i Wasg Gomer, a dwi'n gobeithio y caf i gyfle i sgwennu dilyniant i Idris rywbryd.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Amser maith yn 么l.......Does neb erioed wedi sgwennu un well, - sy'n cynnwys yr un teimlad wrth ei glywed !


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆官网首页入口 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.