麻豆官网首页入口

Ysgoloriaethau yr Academi 2009

Tony Bianchi yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Yr Wyddgrug 2007

Mae chwech o awduron Cymraeg wedi cael arian gan yr Academi i ganolbwyntio ar ysgrifennu - gydag un ohonyn nhw yn dilyn hynt gwrthrych cofiant ar gefn beic!

Mae awdur Cymraeg arall, Tony Bianchi a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn derbyn arian i ganolbwyntio ar sgrifennu nofel newydd yn y Saesneg y tro hwn.

Y mae o ymhlith 18 o awduron sy'n cael ysgoloriaethau gan yr Academi i'w rhyddhau am gyfnod i ganolbwyntio ar sgrifennu.

Rhyngddynt, bydd y 24 o awduron yn derbyn 拢95,000 gyda'tr symiau unigol yn amrywio rhwng 拢2,000 a 拢5,000.

Mae dau o'r awduron Cymraeg yn awduron newydd sydd heb gyhoeddi o'r blaen.

Mae'r ysgoloriaethau blynyddol yn cael eu rhoi i alluogi awduron "brynu amser o'u dyletswyddau bob dydd".

Yr awduron Cymraeg yw:

  • Y bardd a'r cyfieithydd Elin ap Hywel - 拢4,320 ar gyfer creu casgliad o gerddi newydd.
  • Ysgoloriaeth Awdur Newydd o 拢4,800 i Llion Pryderi Roberts i gymryd amser i ffwrdd o'i swydd darlithio er mwyn cwblhau ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth.
  • Joanna Davies, awdur y nofel am fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Ffreshars - 拢5,000 ar gyfer ysgrifennu ei hail nofel Mr Perffaith.
  • Yr awdur a'r newyddiadurwr Hefin Wyn - 拢5,000 ar gyfer ysgrifennu portread o Waldo Williams gyda'r awdur yn dilyn trywydd un o feirdd mwyaf poblogaidd Cymru ar gefn beic!
  • Bydd Robert Rhys yn derbyn 拢5,000 i ymchwilio i fywyd a gwaith y llenor a'r cenedlaetholwr a oedd yn un o'r tri a garcharwyd am losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth, D J Williams, ar gyfer cofiant.
  • Nod Delyth George, awdur Gwe o Gelwyddau, sy'n derbyn 拢5,000, yw ysgrifennu nofel seicolegol dywyll ar gyfer yr arddegau.

Troi i'r Saesneg

Bydd ysgoloriaeth o 拢5, 000 yn galluogi'r nofelydd Cymraeg Tony Bianchi, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2007, i ganolbwyntio ar ysgrifennu ei nofel Saesneg gyntaf.

Ymhlith yr awduron eraill sy'n derbyn ysgoloriaethau i ysgrifennu'n Saesneg mae Mary-Ann Constantine, Jeb Loy Nichols, David Llewellyn, Jo Mazelis, Imogen Herrad, Kelly Grovier, Meirion Jordan, John Williams a Robert Lewis.

Ymhlith yr awduron newydd Saesneg dyfarnwyd ysgoloriaeth i Euron Griffith, John Fraser Williams, Vanessa Savage a Keri Finlayson.

'Dull effeithiol'

Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi fod yr ysgoloriaethau blynyddol hyn yn parhau i fod y dull mwyaf effeithiol o helpu awduron.

"Maent yn prynu amser a lle mewn byd lle mae'r ddau beth hyn yn fwyfwy prin. Mewn dirwasgiad economaidd mae'r galw ar y celfyddydau bob amser yn cynyddu, gydag ysgrifennu'n amlwg.

"Yn yr Academi rydym yn ymfalch茂o ein bod wedi darganfod rhychwant o ddeiliaid amrywiol sy'n llawn haeddu'r ysgoloriaethau. Hoffem pe gallem estyn mwy o gymorth," meddai.

Rhagweld mwy o alw

Ac meddai Kathryn Gray a gadeiriodd gyfarfod Panel Ysgoloriaethau 2009:

"Tra bod y Panel Ysgoloriaethau 2009 wedi llwyddo, er y cyfyngiadau ariannol, i gadw y ddisgl yn wastad rhwng anghenion awduron newydd ac awduron sefydledig, mae'r pwysau ar y gyllideb yn amlwg: ni chafwyd unrhyw ysgoloriaethau mawr eleni. "

Ychwanegodd ei bod hi'n rhagweld y galw am ysgoloriaethau yn cynyddu wrth i'r wasgfa ariannol ddwysau:

"Mae cryn bryder, fel y mae'r wasgfa economaidd yn dwys谩u, bydd y galw am ysgoloriaethau yn cynyddu, tra bod y gyllideb yn aros yn ei hunfan - a allai effeithio ar effeithlonrwydd Cynllun yr Ysgoloriaethau wrth gefnogi datblygiad gwaith arbennig o Gymru, a rhoi proffil ehangach i awduron newydd yn arbennig."


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆官网首页入口 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.