麻豆官网首页入口

Llyfrau plant - stori Dafydd Emyr i'w blant

Un o luniau'r llyfr

30 Hydref 2009

Straeon amser gwely i'w blant oedd man cychwyn llyfr cyntaf yr actor Dafydd Emyr.

Stori am anturiaethau cath o'r enw Jo Bach a'i gyfaill Wil Wiwer ydi Jo Bach a'r Polyn sydd wedi ei ddarlunio'n rhagorol gan Jos茅 Sol铆s.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Bu Dafydd Emyr yn siarad am y llyfr efo Caryul Parry Jones ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru Hydref 28 2009.

Eglurodd mai ei ddwy ferch oedd yr ysbrydoliaeth yn crefu bob nos am ei straeon am gath fach wallgof a'i ffrind o wiwer.

"Yr oeddan nhw wrth eu boddau - yr oedd o'n ddileit a dweud y gwir," meddai Dafydd.

Datgelodd bod yna, "efallai", arlliw ohono ef ei hun yn hogyn bach yn Jo Bach y gath "sy'n lecio cael sialens a her ac yn trio concro a threchu bob amser y gall o".

Dywedodd bod troeon trwstan a thrafferthion - bron fel Dafydd ap Gwilym ond nid yn yr un tir!

Disgrifiodd Wil Wiwer fel tipyn o g锚s yn dweud pethau gwirion a'i ddannedd miniog yn fanteisiol iawn ar adegau..

"Mae dipyn o'r rebal yn y ddau ac efallai dipyn o fi yn Jo Bach," meddai.

A'r newyddion da i'r rhai fydd yn mwynhau'r llyfr cyntaf hwn yw bod gan Dafydd Emyr - sy'n briod 芒'r llenor Gwyneth Glyn - "nifer fawr" o straeon yn weddill.

Ychwanegodd mai ei "ffad" ddiweddaraf yw cynganeddu.

"Yr yda ni fel Cymry yn siarad ar gynghanedd beth bynnag ac mae cael rhyw fath o drefn a gallu dweud pethau yn gryno un ai mewn llinell o gynghanedd neu gynghanedd hirach yn ffantastig. Mae'r s诺n yn gyfareddol," meddai wrth Caryl ar raglen Nia.

Ond dydi pethau ddim yn gweithio bob tro "Mi wnes i sgwennu englyn dridiau'n 么l - yr oedd gen i broblem gyda'r drydedd linell ac mi rois i'n sylw i gyd [i honno] heb sylwi [bod] wyth sill yn y llinell olaf!"

Cyhoeddir Jo Bach a'r Polyn gan Wasg Carreg Gwalch. 拢4.95.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆官网首页入口 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.