麻豆官网首页入口

Llyfrau Plant - Morgan y Gath Ddall

Morgan y Gath Ddall

30 Hydref 2009

Cath ddall ydi arwr annisgwyl llyfr i blant sydd newydd ei gyhoedd - Morgan y Gath Ddall gan Llinos Griffin.

Pum stori sydd yn y llyfr am y gath sy'n byw yng Nghaerdydd sydd a chryn ddoniau er yn ddall.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ac wrth gael ei holi gan Caryl Parry Jones ar 麻豆官网首页入口 Cymru fore Mercher Hydref 28 2009 datgelodd bod Morgan wedi ei sylfaenu ar gath go iawn - cath neb llai na'r Prifardd Twm Morys a'i wraig Sioned.

"Sioned ddaeth a'r syniad gan fod y gath yn medru gwneud pethau efo synhwyrau eraill - ond yng Nghaerdydd y gosodwyd Morgan gan fod hynny yn rhoi mwy o sg么p iddo fynd ar anturiaethau," meddai Llinos sydd, meddai, wedi bod yn sgrifennu ers gadael coleg yn 2003 ac wedi bod yn addasu DVDs i blant.

Ychwanegodd mai anabledd y gath sbardunodd y straeon yn y lle cyntaf ac mae'r llyfr yn gwneud ymdrech amlwg i ddangos sut mae Morgan yn goresgyn ei anabledd trwy ragori mewn cyfeiriadau eraill.

"Roedd gen i ewythr oedd yn ddall ac mae hynny yn rhywbeth sy'n agos at fy nghalon i ac roedd o yn dweud o hyd, 'Mae gan bawb wendid mae gan bawb anabledd a'r ffordd i ddod drosto yw defnyddio pob dim arall sydd gynno chi'," meddai Llinos.

Dyddgu Morys gyda'r Morgan go iawn!

"A dyna'n union mae Morgan yn ei wneud a dwi'n gobeithio mai dyna ydi'r neges neith o yrru i blant bach hefyd," ychwanegodd..

A'r tebygrwydd yw y cyhoeddir rhagor o straeon Morgan yn y dyfodol gan fod gan Llinos syniadau eraill.

"Dwi jyst wrth fy modd sgwennu i blant. Mae o'n sgwennu mor syml a dwi'n cael rywbeth mawr allan o'r ffaith fod plant yn darllen fy llyfrau i ddysgu darllen hefyd," meddai wrth Caryl.

Gwasg Carreg Gwalch sy'n cyhoeddiMorgan y Gath Ddall gan Llinos Griffin yn seiliedig ar syniad gan Sioned Morys. Lluniau gan Jos茅 Sol铆s. 拢5.50.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆官网首页入口 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.