麻豆官网首页入口

Bara Caws; C'mon Mid-laiff

Llun ar boster y sioe

18 Tachwedd 2011

Adolygiad Glyn Evans o C'mon Mid-laiff. Cwmni Theatr Bara Caws. Llangefni, Tachwedd17, 2011.

Trydedd noson taith Cwmni Theatr Bara Caws a chyfle i weld ai dewr ynteu gwirion fu'r cwmni yn mentro i lwyfan gyda dilyniant i gyfres gomedi deledu fwyaf llwyddiannus S4C hyd yn hyn - yn nhyb rhai ohonom.

Bu cychwyn addawol gyda'r adlais o'r enw C'mon Midff卯ld wedi sicrhau neuaddau llawn a pherfformiadau ychwanegol hyd yn oed cyn i'r daith gychwyn.

Dim pwysau felly - dim ond lot o bobol i'w siomi gyda chaff gwag.

Ar radio

Ac yr oedd traddodiad go faith yn y fantol. 麻豆官网首页入口 Radio Cymru yn yr Wythdegau oedd man cychwyn y gyfres, cyn y llwyddiant ysgubol chwe chyfres deledu rhwng 1988 a 1994 mewn maes y mae S4C wedi ei chael hi anoddaf gwneud ei marc arno - comedi sefyllfa.

Saethodd Arthur Picton, Wali, George, Sandra, Tecwyn a gweddill Bryn Coch United i frig uwch-gynghrair adloniant ysgafn Cymraeg a phenmaenmawr, tic-tacs, consyntreiddio, camsefyllian ac yn y blaen yn eiriau oedd i'w clywed mewn sgyrsiau bob dydd.

Dim pwysau felly, ddwedais i?

Erbyn C'mon Mid-laiff mae George (Llion Williams) y streicar stimddrwg a briododd ferch Mr Picton newydd gael ei ben-blwydd yn hanner cant oed ac yn treulio'i ddiwrnodau yn gorweddian yn ei wely tra bo Sandra (Gwenno Elis-Hodgkins) allan yn gweithio.

Yr olygfa gyntaf ar y llwyfan yw Tecwyn / Tecs (Bryn F么n), sy'n dal yn bostman, yn cnocio ar y drws i'w godi o'i wely am unarddeg y bore.

Erbyn i Sandra gyrraedd y llwyfan ymhen hir a hwyr daw yn amlwg nad yw pethau'n dda ar yr aelwyd ac mae s么n am ddif么rs, gwahanu a hyd yn oed ysgariad - dim ond un o'r llu geiriau nad yw George yn eu deall!

A achubir y briodas? Oes modd diwygio George? Dyna'r cwestiwn - a'r unig gwestiynau mewn gwirionedd mewn sioe sy'n un denau iawn o ran stori.

Ton gyson

Ar gadwyn o ddeialogau ac eitemau standyp, i bob pwrpas, y mae'r cynhyrchiad hwn yn dibynnu am ei lwyddiant ac y mae'n rhaid dweud bod ton gyson o chwerthin yn golchi drwy'r gynulleidfa niferus o bob oed yn Llangefni a'r gymeradwyaeth ar y diwedd yn brawf o lwyddiant y noson yn eu golwg hwy.

Adolygydd ff么l iawn fyddai'n dadlau ag ymateb cynulleidfa ac er mod i'n teimlo ar adegau fod y cynhyrchiad braidd yn llac a'r 'cemeg' ddim cweit yn iawn rhwng George a Sandra dydw innau ddim am fynd yn erbyn y llif chwaith.

Bryn F么n oedd awdur y sgript ac y mae i'w ganmol am lif cyson o wanleinars i gadw'n chwarennau goglais i lifo. Mi ddechreuais i gymryd nodiadau - ond allwn i ddim cadw'i fyny 芒'r hyn oedd yn cael ei ddweud ar y llwyfan.

Cyfrwng i George draethu a bytheirio a doethinebu ydi'r cynhyrchiad yn bennaf gan ein goleuo yngl欧n 芒 phethau mor amrywiol 芒 chysylltiad Bin Laden (y'n twyllwyd gan yr Americanwyr i gredu iddo gael ei ladd) 芒 Bethesda; hysbysebion teledu, Kevin Keegan y ci, S4C (sy'n sicrhau trwy gynllwyn mai actorion Sowth W锚ls sy'n cael y rhannau gorau ar Pobol y Cwm), Mi5 (sy'n gwneud dodrefn ciami), canwr o'r enw Tony McAloma (dwedwch o'n araf) a sawl peth arall.

Ond er mor opiyniyngar a chlyfar allai o ddim ateb cwestiwn Tecs "Sut mae'r gwynt yn chwythu?" a'r olwg ar ei wyneb wrth ymaflyd 芒'r broblem yn troi'r don o chwerthin o chwerthin yn swnami bach ymhlith y gynulleidfa.

Arthur a Wali

Un cwestiwn yr oedd rhywun yn ei holi ar y ffordd yno oedd; a fyddai Mr Picton a Wali yn ymddangos? Digon yw dweud yn fama yw eu bod yn bresennol ond mai sioe George, Sandra a Tecs ydi hon ac fe lwyddodd yn llawer iawn gwell nad oeddwn i wedi'i ofni. Nid clasur efallai, ond diddanwch yn sicr ac mi fodlonai'n hapus ar hynny.

Sgoriwyd. Codwyd y pwysau. Ymlaen a'r daith . . .


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 麻豆官网首页入口 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

麻豆官网首页入口 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆官网首页入口

麻豆官网首页入口 漏 2014 Nid yw'r 麻豆官网首页入口 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.