麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Heather Jones
Heather Jones

Ganwyd: 1949

Magwyd: Caerdydd

Addysg: Ysgolion cynradd Caerdydd ac Ysgol Uwchradd Cathays


Cyn aelod o'r gr诺p Bara Menyn a chantores unigol sy'n dal i berfformio. Derbyniodd wobr Cyfraniad Oes 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

Ganed yng Nghaerdydd yn 1949 ar aelwyd ddi-Gymraeg. Mynychodd ysgol gynradd yng Nghaerdydd ac Ysgol Uwchradd Cathays, lle cyfarfu 芒 Geraint Jarman.

Ymaelododd 芒'r Urdd tra yr oedd yn yr ysgol, a rhoddodd hyn hyder iddi ddechrau canu yn y Gymraeg. Daeth i sylw Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn y 麻豆官网首页入口 ar y pryd, pan enillodd y gystadleuaeth g芒n bop yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin yn 1967.

Cyn bo hir, roedd yn ymddangos ar gyfresi teledu fel Disc a Dawn a Pinaclau, a bu ganddi gyfres deledu ei hun, Heather, yn y 1990au.

Cyfarfu 芒 Meic Stevens (yn 么l y chwedl) mewn siop sglodion yn y Drenewydd, a gydag ef a Geraint Jarman, ffurfiodd y gr诺p Bara Menyn. Bwriad y gr诺p oedd cael hwyl am ben grwpiau nosweithiau llawen ddiwedd y 1960au, ond cyn bo hir roedd y band wedi dod yn boblogaidd ledled Cymru ac roedd galw mawr ar iddynt ymddangos ar lwyfannau nosweithiau llawen! Ar bwy oedd y j么c, tybed?!

Ym 1971, rhyddhwyd yr EP 'Colli Iaith' ar label Sain, ei dehongliad iasol hi o'r g芒n hon a gysylltir 芒 hi fwyaf. Roedd y 1970au yn ddegawd gynhyrchiol iawn, cyhoeddwyd 'Cwm Hiraeth' (1972), y record hir 'Mae'r Olwyn yn Troi' (1974) a 'Jiawl' (1976.)

Fe'i dewiswyd i chwarae rhan Nia yn yr opera roc Nia Ben Aur, ond erbyn canol y 1970au, blinodd ar ei delwedd fel cantores werin a gyfeiliai i'w hun ar git芒r acwstig.

Symudodd yn fwy at gerddoriaeth roc trwm yn arddull Janis Joplin, ac mae caneuon fel 'Jiawl', 'C芒n Janis' a 'Bachgen' yn adlewyrchu'r newid delwedd hwnnw. Serch hynny, nid oedd yn gwbwl gyffyrddus efo'r ddelwedd.

Ar 么l i'w phriodas gyda Geraint Jarman ddod i ben, bu'n canu yn Saesneg mewn clybiau yng Nghymru, ond nid oedd ei chalon yn y gwaith, ac roedd yn well ganddi ganu'n Gymraeg (er iddi recordio rhywfaint o ddeunydd Saesneg i label Decca ddiwedd y 1960au).

Ym 1980 sefydlodd gr诺p o'r enw Hin Deg gyda Mike Lease (o'r gr诺p Hwntws) a Jane Ridout yn canu caneuon traddodiadol gan berfformio yn yr Unol Daleithau, Ffrainc a Sbaen. Rhyddhawyd CD gan Hin Deg o'r enw 'Lisa L芒n' sy'n parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw.

Ym 1990 rhyddhaodd Heather Jones y caset 'Petalau yn y Gwynt' gan barhau i berfformio yng Nghymru a thu hwnt, ar y llwyfan ac ar y teledu yn ystod y ddegawd hon. Erbyn diwedd y 1990au hefyd dechreuodd berfformio gyda'i merch Lisa Jarman a Sioned Mair yn y gr诺p Magi.

Rhyddhaodd y gryno ddisg 'Hwyrnos' yn 2000 a chasgliad o'i goreuon yn 2004, a bellach mae ei phwysigrwydd fel arloeswr yn y byd roc Cymraeg yn ddiogel.

Gyda'i llais cyn gliried 芒 chloch ag erioed, mae Heather yn parhau i fyw yng Nghaerdydd a pherfformio ledled Cymru.

Ym mis Tachwedd 2006, rhyddhawyd cryno ddisg newydd gan Heather Jones o'r enw 'Enaid'.

Cafodd ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn Awst 2008.

Cydnabod Cyfraniad Oes Heather Jones

Byth ers iddi brofi'r wefr o berfformio mewn band gyda chriw o ffrindiau ysgol n么l ym 1964, fe wyddai Heather Jones ei bod am ddilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth. Dros y ddeugain mlynedd ddiwethaf mae'r gantores 芒'r llais hudolus wedi gwneud cyfraniad aruthrol i fyd canu gwerin, pop, glam-roc a chabaret hyd yn oed yng Nghymru a thu hwnt. A'r wythnos hon fe gafodd ei gwaith caled ei gydnabod a'i anrhydeddu wrth iddi dderbyn gwobr Cyfraniad Oes 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

"Mae e'n lyfli cael y wobr yma a gwbod fod pobl yn gwerthfawrogi'r gwaith dwi 'di 'neud," dywed y gantores o Gaerdydd.

"Dwi ddim yn credu mod i wedi ennill dim byd o'r blaen - heblaw am gystadleuaeth y g芒n bop yn Steddfod yr Urdd Caerfyrddin ym 1967!"

Ac yn y gystadleuaeth yma y daeth Heather i sylw Meredydd Evans, Pennaeth adloniant 麻豆官网首页入口 Cymru ar y pryd. Cyn hir roedd yn ymddangos ar Disc a Dawn ac fe gafodd ei chyfres ei hun gyda'r 麻豆官网首页入口, Gwrando ar fy Ngh芒n. Ym 1971 rhyddhawyd yr EP Colli Iaith ac er yr holl ganeuon a'r arddulliau gwahanol mae Heather wedi eu perfformio ar hyd y blynyddoedd, dyma'r g芒n y mae pobl yn gofyn iddi ganu hyd heddiw.

A hithau bellach ar drothwy ei phen-blwydd yn drigain oed, mae'n barod iawn i bwysleisio nad yw hyn yn golygu ei bod wedi cyrraedd diwedd ei gyrfa.

"Mae wedi bod yn yrfa ffantastig hyd yma a dyw e ddim ar ben to," esbonia gyda brwdfrydedd.

"Dwi wedi perfformio o leia' unwaith y mis ers y gig cynta' n么l ym 1964. Dim ond un swydd arall dwi di gael erioed a hynna'n gweithio mewn siop - dim ond tair awr wnes i bara."

"Tra mod i'n iach a'r llais yn para fe fydda i'n parhau i berfformio."

Bydd cyfle i glywed sesiwn arbennig gyda Heather Jones yn ystod rhaglen Gwobrau RAP, Nos Wener, Ebrill 3, 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, 8pm

  • Adolygiad o hunangofiant Heather Jones Gwrando ar fy Ngh芒n gan Heather Jones (gyda Caron Wyn Edwards) a ryddhawyd yn Rhagfyr 2007

  • Cyfrannwch

    Nia a Jenny Sir Fon
    Cytuno yn llwyr efo Megan. Tyrd i weld ni yn Sir Fon yn fuan!

    Dave a Kitty o Caergybi
    Helo Heather. Diolch yn fawr iawn am eich Can ardderchog yn Llangollen ar dydd gwener. Hwyl Heather,Kitty a Dave.

    Linda Brian o Gaerdydd
    Ti heb ddweud am ail briodas Heather gyda David. Ac wedi cael dau o blant o'r enw Sam a Megan. Dylai Megan fod yn actores! Hwyl, Linda

    Megan Coates o caerdydd
    Mae Heather Jones yn canwr arbennig o dda!! Dylwch chi cael hi am gig. Mae'n ardderchog. Canwr gore yn Cymru yn fy marn i, Hi dyla wedi ennill C芒n i Gymru yn bendant!!


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 麻豆官网首页入口 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    麻豆官网首页入口 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy