Merched yn swyno'r Dwrlyn Hydref 2005 Cyflwynwyd noson gerddorol gan deulu'r Coombes o Bentyrch a'u ffrindiau i gychwyn blwyddyn o weithgarwch Clwb y Dwrlyn.
Mae Faye o Borthcawl yn hyfforddi i fod yn bianydd clasurol.
Mae Linda yn athrawes ym Mhorthcawl ac yn cymryd rhan mewn sioeau cerddorol.
Mae Amy, merch Linda, yn astudio Drama ac Addysg yn UWIC a daw Sioned sy'n astudio yn y Coleg Cerdd a Drama o Gastell Nedd.
Eleni mae Clwb y Dwrlyn, o dan ofal y Cadeirydd, Judith Evans a'i phwyllgor prysur, wedi trefnu llu o weithgareddau amrywiol ac ysgafn.