Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Paentio wynebau yn Parti Ponty 2005 Parti Ponty 06
Mai 2006
Mae Parti Ponty 06 yn dod yn nes ac y mae mwy a mwy o drefniadau yn cael eu cadarnhau.
Bydd y digwyddiadau yn dechrau yn gynnar iawn eleni gyda ffilmio dwy raglen "Noson Lawen" ar nos Fercher a nos Iau 28 a 29 o Fehefin yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen, Rhydyfelin, Pontypridd. Nid ydym yn siŵr pwy yn union fydd yn perfformio eto ond y mae enw Dafydd Iwan wedi'i grybwyll ac rwy'n sicr y byddai hynny'n boblogaidd iawn.

Ar y nos Wener 30 o Fehefin y mae Criw CIC yng Nghlwb Y Bont gyda sawl grŵp yn cynnwys "Anweddus" o Ysgol Gyfun y Cymer, "No Star" sef enillwyr Brwydr y Bandiau 2005 ac enillwyr gwobr arall C2 sef "Frizbee" yn cael eu cyflwyno gan gyflwynwyr Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru ar y noson. Mae Frizbee yn rhif 1 yn siart C2 ar hyn o bryd. Mae tocynnau'r noson hon yn rhatach ymlaen llaw nac y bydden nhw ar y noson felly os ydych chi eisiau noson boeth yng Nghlwb y Bont gwnewch yn siŵr o'ch tocyn ymlaen llaw.

Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 1 bydd gyda ni gydweithrediad S4C wrth fod Triongl ar brif lwyfan Parti Ponty a chymeriadau poblogaidd S4C sef Sam Tân, Sali Mali a Superted i gyd yn ymddangos ym mharc Ynysangharad, Pontypridd. Mae Côr yr Anthem Genedlaethol gyda ni hefyd wrth fod 5 o ysgolion y Sir yn dod at ei gilydd i ddathlu etifeddiaeth ein cân cenedlaethol fel rhan o brosiect Cymunedau Yn Gyntaf. Bydd GTFM yn gwneud Roadshow o'r maes, gyda chyflwynwyr poblogaidd yr orsaf leol yn cael mwy o le nac erioed yn yr ŵyl fwyaf yn eu hardal.

Ydych chi'n gwrando ar sioe Yr Awr Fawr bob dydd Sul? Dyna'ch cyfle chi i gael cyflwyniad i gerddoriaeth Cymraeg. Yr ysgolion yw craidd Parti Ponty wrth gwrs ac y mae disgwyl i ni weld YGG Evan James, Bronllwyn, Bodringallt, Castellau, Pontsionorton, Abercynon, Heol y Celyn, Llynyforwyn a llawer iawn mwy. Mae ysgolion uwchradd Rhydfelen a'r Cymer wedi addo perfformiadau hefyd yn ystod y diwrnod. Braf ydy cael datgelu hefyd bod cryn dipyn o ysgolion Saesneg yn awyddus i gyfrannu - eisoes y mae ysgolion Penygraig Junior, Pare Primary, Tylorstown a Phenrhys wedi cytuno i berfformio - sydd yn dangos yn glir faint o gefnogaeth sydd i'r Gymraeg yn y gymuned.

Mae nos Sadwrn i'w threfnu o hyd gyda sawl syniad ar y gweill ac y mae Clwb y Bont wedi cadarnhau fel lleoliad.. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn arwain gyda threfniadau dydd Sul a disgwylir y bydd Red Dragon Radio unwaith eto yn chwarae rôl flaengar ar y diwrnod. Er bod llai o Gymraeg o'r llwyfan y mae'r diwrnod yma yn ddiwrnod llawn hwyl sy'n caniatâu i ni gwrdd â phobl newydd i'r Gymraeg.

Bydd stondinau Cymraeg gan gynnwys Corlan Goffi Cymunedau'n Gyntaf, Cyfieithwyr, Dysgwyr CYD a'r colegau lleol i gyd ar gael ar y ddau ddiwrnod yn ogystal â wal ddringo a chestyll neidio gan ddibynnu ar y tywydd wrth gwrs. Mae gobaith y bydd Gwasanaeth Tân De Cymru gyda ni hefyd gyda Injan Dan, arddangosfeydd a gemau eraill.

Bydd yr Urdd yn trefnu chwaraeon yn ôl eu harter yn ogystal â rhedeg stondinau gwahanol ar y maes. Bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yno i ddiddanu'r plant bach a chynnig llefydd mewn cylchoedd chwarae a chylchoedd ti a fi. Cewch gyfle hefyd i brynu nwyddau diolch i Siop y Bont.

I gyd at ei gilydd mae Parti Ponty yn edrych yn dda iawn hyd yma!

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý