Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Disgyblion Ysgol Llanhari Prosiect amgylcheddol mawr i ysgolion
Medi 2002
Prosiect i gyd-fynd ag Uwch gynhadledd y ddaear ar ddatblygu cynaladwy 2002.

Yr ysgol fuddugol yng Nghymru: Ysgol Gyfun Llanhari.

Yn dilyn misoedd o baratoi, daeth diwrnod y sioe fawr ar ddydd Mawrth 16eg Gorffennaf 2002. Gwelwyd perfformiad yn y bore a'r prynhawn a bu'n agos i 200 yn perfformio ar y llwyfan yn ystod y cynhyrchiad.

Prif nod y prosiect oedd atgyfnerthu rôl a chyfrifoldebau disgyblion fel aelodau cyfrifol a dibynadwy o'r ysgol, y gymuned, Cymru a'r byd. Roedd yr ysgol yn awyddus i ymledu egwyddorion tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder ymhlith disgyblion drwy annog ymwybyddiaeth ac ymroddiad i ddatblygiadau cynaladwy.

Bwriad yr ysgol yw defnyddio'r gystadleuaeth 'Her Ysgolion' fel ffynhonnell i gyfathrebu ag eraill, rhannu profiadau a syniadau a throsglwyddo'i gweledigaeth i bobol ifainc eraill y byd er mwyn ein gwneud ni oll yn well dinasyddion.

Prif ffocws prosiect Ysgol Gyfun Llanhari oedd sioe fawr a gynhaliwyd ar safle'r ysgol ar 16eg Gorffennaf 2002. O dan arweiniad agos yr athrawon, cymrodd y disgyblion ran flaenllaw yn y penderfyniadau ynglyn â siâp, ffurf a chynnwys y cynhyrchiad.

Esblygwyd union natur y sioe yn raddol wrth i drefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth, lledaenu gwybodaeth a chasglu barn disgyblion ac aelodau'r gymuned gael eu gwireddu.

Cyfle i bawb gyfrannu
Darparwyd cyfleoedd i bawb yn yr ysgol gyfrannu, boed yn ddisgyblion, rhieni, athrawon, staff cynorthwyol, llywodraethwyr, partneriaid busnes/diwydiant neu aelodau cyffredin o'r gymuned leol yn Llanhari.

Wrth reswm, roedd sawl ffordd o gyfrannu: perfformio ar y llwyfan, sgriptio, adeiladu'r set, paratoi gwisgoedd, gweini lluniaeth, darparu deunyddiau, rheoli goleuadau, ffilmio, golygu fideo, hysbysebu, hyrwyddo neu hyd yn oed rhannu syniadau.

Cyfrannodd holl boblogaeth yr ysgol tuag at y cynhyrchiad, gyda disgyblion ac athrawon yn gweithio'n ddyfal i wneud y trefniadau angenrheidiol.

Yn ystod y dyddiau cynnar defnyddiwyd amryw o bynciau'r cwricwlwm er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol ynglyn â datblygu cynaladwy ac fe ddefnyddiwyd gwasanaethau boreol er mwyn lledaenu'r neges.

Defnyddiwyd amryw o wersi ABCH ar gyfer ennyn diddordeb y disgyblion mewn datblygu cynaladwy.

Derbyniwyd ymateb gan holl ddisgyblion yr ysgol drwy ffynhonnell arolwg ysgol gyfan ac fe ddefnyddiwyd y wybodaeth er mwyn adnabod wyth o'r deg thema i'w defnyddio yn y sioe/ cynhyrchiad.

Thema 1: Bwlio mewn ysgolion
Thema 2: Sbwriel - Clirio sbwriel o'r ysgol a'r gymuned leol
Thema 3: Sbwriel - Lleihau sbwriel yn yr ysgol a'r gymuned leol
Thema 4: laith
Thema 5: Llygredd - Adnabod ffynonellau llygredd yn yr ysgol a'u lleihau
Thema 6: Arwahanu cymdeithasol yng Nghymru a'r byd ehangach
Thema 7: Llygredd - Adnabod ffynonellau llygredd y tu allan i'r ysgol a'u lleihau
Thema 8: Y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn Iledu

Nid oedd clyweliadau ar gyfer y sioe hon. Gan fod yr ysgol yn awyddus i bob disgybl gael y cyfle i gyfrannu cynhaliwyd cystadleuaeth rhwng dosbarthiadau cofrestru gyda'r buddugol yn ennill y fraint o berfformio yn y sioe.

Cafwyd cymorth gan amryw o gwmnïau ac asiantaethau allanol er mwyn cynorthwyo'r disgyblion i baratoi eu cyflwyniadau.

Dewis themâu
Gyda disgyblion Llanhari yn dewis wyth o'r deg thema i'w defnyddio yn y sioe, gofynnwyd i'r ysgol gynradd leol, sef Ysgol Gynradd Llanhari ddewis y nawfed thema ac i aelodau o gymuned Llanhari benderfynu ar y ddegfed thema i'w defnyddio.

Roedd y grwpiau hyn eisoes wedi eu hymrwymo i'r fenter, gyda'r naill a'r llall yn awyddus i berfformio ar y llwyfan. Bu fframwaith y cynhyrchiad felly, ar ffurf montage, yn seiliedig ar ddeg thema wedi'u hadnabod a'u portreadu gan dimau o berfformwyr, boed yn ddisgyblion neu'n oedolion o'r pentref.

Roedd y cynhyrchiad yn ymdrin ag agweddau o ddatblygu cynaladwy oedd wedi'u hadnabod gan ddisgyblion yr ysgol neu gan aelodau'r gymuned.

Ar gyfer llwyfannu'r sioe, cafodd y set ei ddylunio aI adeiladu i adlewyrchu ein byd' yn y bydysawd. Gwelwyd model o'r byd, y lleuad ac amryw o blanedau a chrwyd awyrgylch cyffrous iawn.

Uwchben y gynulleidfa roedd blanced eang o gymylau, gydag enghreifftiau o lygredd yn arnofio yn eu plith. Yn ogystal, roedd sgrîn fideo enfawr yng nghanol y llwyfan oedd yn eich atgoffa mewn ffordd o seremoni wobrwyo ar y teledu.

Defnyddiwyd cyfres helaeth o ddelweddau pwerus iawn y tu ôl i'r perfformwyr oedd yn darparu cefndir effeithiol iawn i gyfleu neges y perfformiad.

Cefnogaeth nifer o enwogion
Bu'r ysgol yn ffodus iawn i gael cefnogaeth nifer o enwogion a gytunodd ymddangos ar y sgrîn fideo yn ystod y cynhyrchiad, gydag anerchiad agoriadol gan Brif Weinidog Cymru, Mr Rhodri Morgan.

Roedd yr enwogion eraill yn cynnwys: Gareth Wyatt, loan Gruffudd, Howie Watkins - cyflwynydd rhaglenni byd natur a Ortis, Adrian Dixon, Fearne a Becky o CÂ鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú.

Gwahoddwyd yr ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Gyfun Llanhari i gyfrannu'n uniongyrchol at lwyddiant y sioe drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth creu poster.

Arddangoswyd y posteri buddugol ar y sgrîn enfawr yn ystod y cynhyrchiad a derbyniodd pob disgybl buddugol wobr. Cyflwynwyd y gwobrau ar y llwyfan gyda thlws a chrys-T.

Gosodwyd thema wahanol ar gyfer pob ysgol unigol. Dyma fanylion y disgyblion buddugol ynghyd â'r thema a dderbyniodd pob ysgol gynradd:

Thema: Clirio sbwriel o'r ysgol a'r gymuned - Ysgol Gynradd Cwm Garw
Disgybl Buddugol Hannah Kembrey

Thema: Bwlian mewn ysgolion - Ysgol Gynradd y Ferch o'r Sgêr
Disgybl Buddugol : Nia Williams

Thema: Lleihau sbwriel yn yr ysgol a'r gymuned leol - Ysgol Gymraeg Cynwyd Sant
Disgybl Buddugol : Nicole Sierra

Thema: Cadwraeth laith - Ysgol Gymraeg Bro Ogwr
Disgybl Buddugol : Rhys Jones

Thema: Adnabod ffynonellau Ilygredd a'u lleihau - Ysgol Gynradd Dolau .
Disgybl Buddugol : Gavin Sargent

Thema: Arwahanu cymdeithasol yng Nghymru a'r byd - Ysgol Gynradd Llantrisant
Disgybl Buddugol : Leah Jones

Thema: Y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn Iledu - Ysgol Gynradd Tonyrefail
Disgybl Buddugol : Shaun Pope

Thema: Ein Byd - Ysgol Gynradd Llanhari
Disgybl Buddugol : Nicole Syms

Cynhaliwyd perfformiad o'r sioe yn y prynhawn a'r nos ar y dydd. Yn ogystal cynhaliwyd arddangosfa ar safle'r ysgol, gyda stondinau'r arddangoswyr wedi eu lleoli mewn pabell oedd wedi'i llogi'n benodol ar gyfer yr achlysur.

Arddangos gwaith disgyblion
Arddangoswyd gwaith gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Llanhari, yr ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, Ysgol Gynradd Llanhari a chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol o bentref Llanhari.

Braf oedd croesawu amrywiaeth o asiantaethau allanol oedd yn cefnogi'r fenter drwy osod stondinau yn y babell.

Bydd fideo o'r sioe yn cael ei gynhyrchu yn ystod yr haf i'w ddefnyddio ar gyfer trosglwyddo gweledigaeth yr ysgol i'r rheini na lwyddodd i fynychu'r sioe.

Y bwriad hefyd yw trefnu bod grwp o ddisgyblion yn teithio o gwmpas yr ysgolion cynradd yn ystod tymor yr Hydref gan berfformio rhannau dethol o'r sioe. Y gobaith yw y bydd hynny'n ysgogi diddordeb disgyblion mewm amryw o feysydd cynaladwy.


Rhys Davies, Rhys Richardson a Nia-Meleri Ifan
Rhys Davies, Rhys Richardson a Nia-Meleri Ifan
Fel rhan o fuddugoliaeth yr Ysgol yng nghystadleuaeth 'Ein Byd' y WWF, cafodd disgybl Blwyddyn 12 yr ysgol, sef Rhys Davies y cyfle i fynd i Uwch gynhadledd y Ddaear ar Ddatblygu Cynaladwy 2002, a gafodd ei chynnal yn Johannesburg, De Affrica ddiwedd yr haf.

Roedd Rhys yn aelod o ddirprwyaeth ffurfiol llywodraeth Prydain Fawr yn yr Uwch gynhadledd a chafodd y cyfle i fynegi barn ieuenctid Cymru.

Yn ogystal, cafodd gyfle i gyfarfod amryw o'r dirprwyon oedd yn yr Uwch gynhadledd.

Cyn hynny fe ymwelodd â 10 Stryd Downing er mwyn trafod strategaethau posib gyda Mr Tony Blair ac mae wedi cyfarfod Rhodri Morgan ar sawl achlysur.

Fe aeth Mr Alun Evans, Pennaeth Technoleg Ysgol Gyfun Llanhari i'r Uwchgynhadledd yn Ne Affrica gyda Rhys.

Yn dilyn llwyddiant yr ysgol yn y gystadleuaeth 'Ein Byd', mae'r disgyblion wedi bod yn brysur yn cyflawni nifer o weithgareddau a phrosiectau yn ymwneud â chynaladwyedd.

Ymweliad â Johannesburg
O ganlyniad i'r ymroddiad hwnnw, enillodd dau ddisgybl arall o'r ysgol y fraint gael mynd i'r Uwch gynhadledd yn Johannesburg.

Cafodd Nia-Meleri Ifan y cyfle i gynrychioli'r ysgol, ieuenctid Cymru a mudiad yr Urdd fel aelod o grwp o bobol ifainc oedd yn ymweld â Johannesburg dan nawdd UNED-UK.

Yn ystod yr ymweliad cafodd Nia-Meleri y cyfle i baratoi a gweini gwledd o fwyd i amryw o arweinwyr y byd oedd wedi dod i'r Uwch gynhadledd.

Fel un o dri enillydd y gystadleuaeth 'Dyfodol Newydd i Gymru' fe aeth Rhys Richardson hefyd i'r Uwch gynhadledd. Gweithiodd yn agos â swyddogion Canolfan Dechnoleg Amgen Machynlleth a Techniquest wrth baratoi ar gyfer ei ymweliad â De Affrica.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý