Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Un o'r perfformwyr, Heather Jones Cynnal gŵyl gerdd 'Bedroc 2008'
Mehefin 2008
Dros gyfnod o benwythnos bydd rhai o sêr cerddorol Cymru'n cymryd rhan yng ngŵyl 'Bedroc'.

A wyddoch chi fod gŵyl gerddoriaeth Gymraeg fwyaf y cymoedd yn cymryd lle yr haf hwn ar eich stepen ddrws? Wedi ei threfnu gan Gymdeithas Gymraeg Beddllwynog gyda chymorth Menter laith Merthyr Tudful - ymhlith perfformwyr yr ŵyl bydd rhai o sêr mwyaf byd cerddoriaeth Cymru.

Bydd yr ŵyl yn dechrau am 7.00yh, 20fed Mehefin pan fydd Dafydd Iwan, Heather Jones ac Alun Tan Lan yn perfformio yn Neuadd y Gweithwyr Beddllwynog (Bedlinog) Merthyr Tudful.

Fel y byddwch yn ci ddisgwyl, ychydig iawn o'r 160 o docynnau sydd ar ôl. Ar nos Sadwrn 21ain Mehefin bydd cyfle i brofi doniau sîn gerddoriaeth gyfoes Cymru wrth i Frizbee, Mattoidz a'r adnabyddus Hanner Pei berfformio ar lwyfan Neuadd y Gweithwyr am 7.00yh. Tocynnau at gael am £6 yr un!

I'r rhai ohonoch chi na fyddwch am i'r hwyl ddod i ben, beth am ddod â sach gysgu ac aros yn y Ganolfan Adnoddau yn rhad ac am ddim? Bydd brecwast llawn ar gael o Neuadd y Gweithwyr ar y bore Sadwrn a'r bore Sul am £2.50.

Pe na bai hyn yn ddigon, bydd cyfle i brofi perfformiadau diweddaraf y sin gerddoriaeth gyfoes yn ystod gig Cymdeithas yr Iaith ar y dydd Sadwrn o 1.00 tan 6.00yp yn y Clwb Rygbi, yn rhad ac am ddim

Hefyd bydd digwyddiad ar gyfer teuluoedd ar y dydd Sadwrn l0.30 - 1.00yp yn Neuadd y Gweithwyr pan fydd Martyn Geraint yn diddanu'r plant. Bydd perfformiad gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Rhyd-y-Grug a bydd stondinau a mwy, sydd eto yn rhad ac am ddim!

Sesiwn gerddoriaeth werin sydd eto'n rhad ac am ddim - a gynhelir yn Nhafarn y Rheilffordd o 2.00 tan 5.00yp - fydd yn dod ag adloniant y penwythnos i ben ar ddydd Sul 22ain Mehefin. Darperir lluniaeth.

I archebu tocynnau neu am ragor a wybodaeth ffoniwch Menter Merthyr Tudful ar 01685 722176 neu Gymdeithas Gymraeg Beddllwynog ar 01443 710653.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý