Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Tafod Elai Parti'r Efail yn ennill eto
Rhagfyr 2005
Am yr ail flwyddyn yn olynol, Parti'r Efail enillodd y wobr gyntaf am gôr neu barti Alaw Werin Agored yr Ŵyl Gerdd Dant yn Abergwaun.

Roedden nhw wedi ennill yr un gystadleuaeth llynedd yn Llandudno a nawr fe fydd rhaid sgriffinio eu henwau unwaith eto ar Gwpan Parti'r Ffynnon i nodi eu buddugoliaeth. Awgrymodd un wag dylid fod wedi aros a chael dau sgriffiniad am bris un!

Yn eu tro, mae'r Parti sy'n dathlu eu deng mlwyddiant eleni, wedi ennill ar gerdd dant yn yr un ŵyl (Yr Wyddgrug) a theirgwaith am gerdd dant yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Llanelli, Meifod a Chasnewydd). Eu harweinydd yw Menna Thomas, Efail Isaf.

Roedd wyth parti yn y gystadleuaeth - y gystadleuaeth fwyaf poblogaidd i bartlon agored yn yr holl ŵyl. Roedd un darn gosod, sef hen garol blygain draddodiadol unsain o'r enw "Gwel yr Adeilad" ac yna hunan ¬ddewisiad mewn pedwar llais. Dewiswyd y gân werin "Gwn Dafydd Ifan" a'i chanu mewn arddull ddireidus a hwyliog sy'n nodweddiadol o ochr ysgafnach cyflwyniadau'r Parti.

Dridiau ar ôl eu buddugoliaeth yn Abergwaun, roedd Parti'r Efail ymhlith yr artistiaid fu'n codi arian at gronfa Kashmir, yng nghapel y Tabernacl, Efail Isaf. Cyn hir fe fyddan nhw'n canu yn Nhonyrefail ac yn ddiweddarach yn Llandeilo, Caerdydd a Threorci.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý