![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Y wlad yn dod i'r dref
Dydy gweld defaid, hwyaid a moch o flaen Canolfan Mileniwm Cymru ddim yn olygfa gyfarwydd iawn i ddinasyddion Caerdydd. Yn wir, prin bod unrhyw anifeiliad fferm wedi cael eu gweld yn crwydro bae Caerdydd, ond dyna'n union a welwyd yno rhwng Tachwedd 3 a 5.
Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn dathlu eu penblwydd yn 70 oed ac i nodi hynny, trefnwyd gŵyl fawr yn y brifddinas i addysgu pobl trefol am fywyd cefn gwlad Cymru.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
![Dai Jones Llanilar yn agor yr wyl yn swyddogol ar ddydd Gwener, Tachwedd 3](http://www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/safle/caerdydd/images/ffermwyr_ifanc_agoriad_dai4.jpg%20)
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Dai Jones Llanilar yn agor yr wyl yn swyddogol ar ddydd Gwener, Tachwedd 3
|
|
1Ìý
2Ìý
3Ìý
4Ìý
5Ìý
6Ìý
7Ìý
8Ìý
9Ìý
10Ìý
11Ìý
12Ìý
13Ìý
14Ìý
15Ìý
16Ìý
17Ìý
18Ìý
19Ìý
20Ìý
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Dai Jones Llanilar:
"Mae fy nyled i i'r mudiad yma yn mynd i aros gyda fi tra fydda i byw. Dyma'r mudiad pwysica' yn fy marn i. Pan fydd y wlad yn colli eu ffermwyr - dyna ddiwedd y byd.
"Rwy'n dymuno'n dda i chi fel mudiad, ac rwy'n edrych ymlaen at y gala nos Sul. Mae yna dalent aruthrol yma.
"Os nad ydych chi wedi dysgu shwt mae caru ar ol bod gyda'r ffermwyr ifainc, fe garwch chi byth!" |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|