Sioe unigryw yr Urdd Dewiswyd oddeutu 100 o ddisgyblion ysgolion Uwchradd o draws Cymru i berfformio mewn sioe gerdd unigryw yn 2005.
Darllenwch Adolygiad o'r sioe
Camodd pobl ifanc o tua ugain ysgol uwchradd ar lwyfan arbennig Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, i berfformio ffefryn o'r West End, Les Miserables. Addaswyd y sioe enwog gan Alain Boublil a Claude-Michel Schonberg, yn arbennig, ac fe'i pherfformiwyd am y tro cyntaf yn y Gymraeg yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd. Ysgrifennwyd y geiriau Cymraeg gan Tudur Dylan Jones; Carys Edwards a Peter Davies oedd y Cyfarwyddwyr a Rhys Evans y Cyfarwyddwr Cerdd.
Roedd yn ofynnol i bob aelod o'r cast gael dau glyweliad cyn cael eu dewis i berfformio yn y sioe, ac isod gwelir luniau o'r cast a'r criw a fu'n ffodus o gael eu dewis, yn ymarfer yn Ysgol Gyfun Rhydfelen ym Mhontypridd cyn y perfformiad.
Sgript Les Miserables. Sioe gerdd gan Alain Boublil a Claude-Michel Schonberg, geiriau Cymraeg gan Tudur Dylan Jones