麻豆官网首页入口

Explore the 麻豆官网首页入口
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

麻豆官网首页入口 Homepage
麻豆官网首页入口 Cymru
麻豆官网首页入口 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

麻豆官网首页入口 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Celfyddydau
Dylan Thomas
Dylan Thomas

Ganwyd: 27 Hydref 1914

Magwyd: Uplands, Abertawe

Addysg: Ysgol Ramadeg Abertawe


Bardd Cymreig enwoca'r byd

Wyddech chi? Credir bod Bob Dylan wedi enwi ei hun ar 么l Dylan Thomas - enw genedigol y cerddor ydy Robert Zimmerman.

Dylan Thomas yw un o feirdd enwoca'r byd, mae ei waith, sydd wedi cael ei recordio ar sawl achlysur, wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid, a cherddorion ym mhob cwr o'r byd.

Ganwyd Dylan Thomas yn Abertawe, ac roedd ei dad, David John Thomas yn athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe a'i fam, Florence Hannah Williams yn wniadwraig cyn iddi briodi.

Treuliodd Dylan nifer o hafau ei blentyndod ar fferm ei fodryb yn Sir Gaerfyrddin, amseroedd a brofodd i fod yn ysbrydoliaeth fawr i'w waith yn ddiweddarach yn ei fywyd, dyma a'i ysbridolodd i ysgrifennu 'Fern Hill', er enghraifft.

Dangosodd yr awch i farddoni cyn ei fod yn un ar ddeg mlwydd oed a mynychodd Ysgol Ramadeg Abertawe, o 1925 i 1931.

Roedd yn ohebydd ar y 'South Wales Evening Post' wedi gadael yr ysgol. Wedi blynyddoedd o ysgrifennu ond heb gyhoeddi dim, ym 1933 dechreuwyd cyhoeddi rhai ei gerddi, a darlledwyd un ohonynt ar y 麻豆官网首页入口 hefyd.

Symudodd Dylan Thomas i Lundain ym 1934, a chyhoeddwyd ei gyfrol gynta' o farddoniaeth, sef 'Eighteen Poems'.

Ym 1936 cyfarfu 芒 Caitlin Macnamara a does dim syndod mai mewn tafarn y cyfarfu'r ddau, o'r cychwyn roedd alcohol yn chwarae rhan flaenllaw yn eu perthynas stormus, ac roedd yn broblem barhaol i'r ddau ohonyn nhw.

Priododd Dylan Thomas a Caitlin yn 1937 yn Swyddfa Gofrestru Penzance. Fe gafon nhw dri o blant - Llewelyn, Aeronwy a Colm.

Treuliodd Dylan Thomas ran helaeth o flynyddoedd cyfnod yr Ail Ryfel Byd yn Llundain lle sgrifennodd sgriptiau ffilm a dogfen, ac ym 1940 cyhoeddwyd 'Portrait of The Artist As a Young Dog'. Yn yr un flwyddyn, methodd brawf meddygol y fyddin, yn Llandeilo.

Dechreuodd ei yrfa mewn darlledu radio ym 1943. Tair blynedd wedyn, bu'n llwyddiannus iawn pan gyhoeddwyd ei waith 'Deaths and Entrances'.

Y <i>Boathouse</i>Talacharn
Roedd y cwpwl wedi dotio ar Dalacharn yn Sir Gaerfyrddin erioed, a noddwr i Dylan Thomas a fenthycodd y Boat House iddyn nhw.

Trawsnewidiodd y sied gerllaw'r t欧 yn stiwdio ac yma yr ysgrifennai. Pan nad oedd yn ysgrifennu treuliai'r rhan fwyaf o'i amser yn yfed yn y Brown's Hotel yn y pentref. Mae'r Boat House bellach wedi ei drawsnewid yn amgueddfa am hanes Dylan Thomas.

Gorffennodd ysgrifennu ei ddrama 'Under Milk Wood' yn 1953, yn fuan cyn iddo farw. Mae'r ddrama bellach wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg gan Y Prifardd T James Jones ac fe'i gelwir yn 'Dan y Wenallt.'

Dywedir mai Talacharn oedd yr ysbrydoliaeth i'r ddrama hon, a dywedir bod yr holl ymweliadau 芒'r dafarn wedi cynnig cyfoeth o ddeunydd iddo.

Mae eraill yn credu mai tref glan m么r Cei Newydd yng Ngheredigion yw ysbrydoliaeth y ddrama hon, gan i'r dramodydd dreulio cyfnod yn byw yno hefyd.

Bu farw Dylan Thomas ar daith yn darlithio yn yr Unol Daleithau yn Nhachwedd 1953. Syrthiodd yn y Chelsea Hotel yn Efrog Newydd, ac aed ag ef i Ysbyty St. Vincents lle bu farw yn 39 mlwydd oed.

Roedd llawer o'i weithiau heb eu gorffen pan fu farw, gan gynnwys y nofel 'Adventures in The Skin Trade', a gyhoeddwyd yn ddiweddarach.

Daeth ei weddw 芒 chorff ei g诺r yn 么l i Gymru a chafodd ei gladdu yn Nhalacharn. Bu farw Caitlin yn 81 mlwydd oed, yn 1994. Fe ail briododd hi ar 么l marwolaeth Dylan Thomas, a chafodd blentyn pan oedd yn 49 oed a bu'n byw am flynyddoedd yn yr Eidal. Mae hi wedi ei chladdu wrth ymyl Dylan Thomas yn Nhalacharn.

Mae casgliad o'i gwaith gan gynnwys dyddiadur 43 tudalen sy'n disgrifio perthynas tymhestlog y ddau wedi mynd ar werth yn Llundain.

  • Dyddiadur Caitlin Thomas ar werth

  • Cyfrannwch

    catrin james o abertawe
    dudalen werthfawr o dda ac fe fyth llawer o phlant yn ei ddarllen !!
    Mon Jan 14 19:18:54 2008


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 麻豆官网首页入口 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    麻豆官网首页入口 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy