Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gweithfeydd Haearn Ynyscedwen Adnabod Ardal - Cwm Tawe
Mae olion yr hen orffennol diwydiannol yn amlwg yng Nghwm Tawe gyda'i bentrefi unffurf sydd wedi eu hadeiladu o gylch yr hen weithfeydd.

Roedd Cwm Tawe yn gwm diwydiannol pwysig ar un adeg. Arferid cloddio glo a chreu haearn, tunplat ac alcam yma ac felly mae i'r cwm hwn le pwysig yn hanes y chwyldro diwydiannol yng Nghymru ac ar raddfa ehangach ym Mhrydain.

Mae dwy ran i'r cwm: y rhan isaf sy'n cynnwys y pentrefi hynny sydd yn agos i Abertawe a'r rhan uchaf sy'n cynnwys pentrefi fel Abercâf ac Ystradgynlais ac yn ymestyn i gyrion parc gwledig Bannau Brycheiniog.

Cynnydd diwydiannol
Dechreuodd y cynnydd diwydiannol yn rhan isaf y cwm pan ddechreuwyd defnyddio glo yn hytrach na golosg i doddi mwynau. Yn 1717 agorwyd gwaith toddi yng Nglandwr ac erbyn 1800 roedd naw arall wedi eu sefydlu yn yr ardal.

Yn 1810 agorwyd gwaith enfawr yr Hafod. Ymhen ychydig roedd mwynau Cernyw yn dechrau darfod a dechreuwyd mewnforio mwynau o wledydd pell fel Ciwba, Chile, De Affrica ac Awstralia.

Penderfynwyd felly ddechrau cynhyrchu mwynau yng Nghwm Tawe ei hun ac yn 1936 dechreuwyd cynhyrchu sinc yma, alcam wedyn yn 1845 a dur yn 1856. Erbyn hyn roedd glannau afon Tawe'n cynnwys llu o ffwrneisiau a thoddfeydd metel.

Canlyniad hyn fu adeiladu pyllau glo i gynnal y diwydiannau hyn. Adeiladwyd pyllau yng Nglandwr, Brynhyfryd, Cwmbwrla, Penfilia, Trewyddfa, Llansamlet, Tre-boeth a Mynydd-bach.

Camlas PontardaweRoedd yn rhaid cael system drafnidiaeth er mwyn trosglwyddo'r deunyddiau o un lle i'r llall ac felly adeiladwyd rhwydwaith o ffyrdd a rheilffyrdd drwy'r cwm. Roedd prysurdeb ar afon Tawe hefyd wrth i longau lwytho a dadlwytho ac roedd trafnidiaeth ar y tramffyrdd a'r gamlas.

Dechreuodd mudwyr symud i'r ardal oherwydd y cyfleon da am waith a chodwyd pentrefi newydd o amgylch gweithfeydd fel Trevivian (Yr Hafod) a Threforys. Yn y 19eg ganrif bu cynnydd mawr ym mhoblogaeth Cwm Tawe.

Treforys a'r pentrefi ar hyd glannau'r afon oedd y canolfannau masnachol. Roedd digon o siopau a chrefftau yn y pentrefi hyn ac roedd pobol yn heidio yma yn ogystal ag i dref Abertawe wrth gwrs.

Ardal wledig ei natur
Ond er bod diwydiant wedi cynyddu'n gyflym yng Nghwm Tawe mae'r modd y datblygodd pentrefi Trevivian a Threforys yn brawf mai ardal wledig ei natur oedd hon. Wrth adeiladu'r pentrefi o gylch eu gweithfeydd sicrhaodd Vivian a Morris, y meistri, bod eu gweithwyr yn cael tir i gadw rhai anifeiliaid. O ganlyniad roedd y newid cymdeithasol yma'n arafach nac yn y cymoedd i'r dwyrain.

Capel AlltwenEr gwaetha'r newidiadau yn sgil y diwydiannau llwydodd y Gymraeg i oroesi yn y pentrefi hyn. Cymdeithas Gymraeg oedd ynddyn nhw'n bennaf gan mai o'r de-orllewin y daeth y mewnfudwyr.

Dyma gymdeithas weithgar ddosbarth gweithiol. Roedd y dynion yn gweithio'n galed drwy'r dydd yn y gweithfeydd ac wedyn yn eu hamser hamdden fe fydden nhw'n mynychu'r capel, y dafarn neu eisteddfodau. Y capeli oedd angor y gymdeithas gan gynnig cysur ynghanol y caledi.

Pentrefi hunangynhaliol
Roedd trefi a phentrefi Cwm Tawe'n ystyried eu hunain yn hunangynhaliol ac am dorri bob cysylltiad ag Abertawe. Doedden nhw ddim am gael eu hystyried fel ymestyniad o'r ddinas honno. Roedd hyn yn arbennig o wir am Dreforys a geisiodd dorri'r cysylltiad fwy nac unwaith.

Ychydig filltiroedd o Dreforys, yn uwch i fyny'r cwm, mae Pontardawe. Pentref ydyw wedi ei leoli ar lan orllewinol yr afon Tawe. Yn ystod y cyfnod diwydiannol datblygodd Pontardawe a phentref glofaol Allt-wen yr ochr arall i'r afon yn ganolfannau haearn a thunplat pwysig.

Mae'r cwm yn culhau yma ac roedd llawer o lo gerllaw'r pentrefi hyn. Gellir gweld olion y cloddio heddiw ar y Tarenni a Mynydd Marchywel ar lan ddwyreiniol afon Tawe, a mynydd Allt-y-grug ar y lan arall.

Yn uwch i fyny'r cwm eto mae pentref Ystalyfera. Mae'r cwm yn culhau eto yma lle mae afon Twrch yn llifo i'r Tawe. Yma mae ysgol uwchradd Gymraeg y cwm heddiw.

Rhyw filltir arall i fyny'r cwm mae Ystradgynlais, pentref gwaith glo a thunplat arall. Yn Ystradgynlais roedd gweithfeydd haearn Ynyscedwyn. Gweithfeydd YnyscedwenGosodwyd y seiliau ar gyfer y gweithfeydd hyn yn nechrau'r 18fed ganrif pan fewnforiwyd golosg er mwyn ei ddefnyddio fel tanwydd i'r ffwrneisiau bychain. Yna ar ddiwedd y ganrif honno fe adeiladwyd camlas Abertawe.

Yn 1837 darganfyddodd dau wr o Ynyscedwyn sut i ddefnyddio glo i doddi haearn. Canlyniad hyn fu dechrau cludo glo o Glydach a datblygodd y diwydiant haearn yn gyflym yn y cwm.

Erbyn 1839 roedd gwaith haearn Ystalyfera wedi ei adeiladu ac yn cynhyrchu. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd 11 o ffwrneisiau yn Ynyscedwyn a 4,000 yn gweithio yno. Roedd gweithfeydd eraill gerllaw hefyd sef Abercrâf a Brynaman.

Mwy am gwm Tawe - ewch i dudalen 2



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý