Dathlu Gŵyl Dewi Ebrill 2005 Diddanwyd preswylwyr a Staff Cartref Preswyl Llys Newydd, Capel Hendre ar Ddydd Gŵyl Dewi gan Heart and Soul' y duo' poblogaidd Wynford James a Rosalind Moore.
Mae Wynford James yn byw yng Ngharmel a Rosalind Moore â chysylltiad a Chwm Gwendraeth. Roedd ei mam, Dorothy Moore Williams yn rhoi gwersi piano i lu o ddisgyblion yn Nhrimsaran am dros hanner canrif.
Byddai rhai wynebau cyfarwydd yn y gynulleidfa i ddarllenwyr Papur y Cwm mae'n siŵr ac yn eu plith Moc Morris a fu'n rhedeg Swyddfa Bost Pontyberem am nifer o flynyddoedd, Daphne Morgan o Fynyddcerrig ac Oriel Jennson, cyn-athrawes yn Ysgol Cross Hands.