Ar ddydd Sadwrn, Mai 10fed, aeth criw o gerddwyr o Gwm Gwendraeth ar Daith Goffa Dilwyn Roberts sydd yn rhan o ŵyl y Gwendraeth. Cyfarfu 31 o bobl yn y safle picnic ar Fynydd Penbre uwchben Trimsaran.
Roedd y daith rhyw saith i wyth milltir ar hyd lonydd a 1lwybrau'r ardal. Gydag ychydig o ddringo yn ystod y bore a'r prynhawn cafodd y cerddwyr fwynhau'r panorama godidog o Gwm Gwendraeth a golygfeydd o Fae Caerfyrddin a Gŵyr.
Roedd pawb wedi mwynhau'r hanes a gawsant ar hyd y daith. Hoffem ddiolch i bawb a fu ar y daith ac i'r trefnwyr.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |