![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Helynt dwy gadair Dinbych Cadair o Loegr i鈥檙 prifardd er i un gael ei gwneud yn lleol ![]() Mae cadair swyddogol Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2001 yn Swyddfa'r Eisteddfod yn Ninbych. Cafodd ei gwneud gan Chris Hilling o Colchester. Mae cadair Eistedfodd Genedlaethol Dinbych 1939 yn Siambr y Cyngor Tref, gan nad oedd teilyngdod. Ond er bod dwy gadair yn y dre yn barod mae Elis Jones newydd wneud cadair eisteddfodol answyddogol yn ei weithdy - a hynny heb gomisiwn. Mae o鈥檔 hen law ar gynhyrchu pob math o ddodrefn cywrain fel cypyrddau, cadeiriau a dreseli. Dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, mai trwy gamgymeriad y lluniodd Mr Jones gadair Eisteddfod. "Gofynnodd siop yn y dref iddo wneud cadair fechan i鈥檞 rhoi mewn arddangosfa yn y ffenest ond fe wnaeth gadair fawr, er mai model o gadair yr oedden nhw ei eisiau. Does neb wedi cysylltu a swyddfa鈥檙 eisteddfod ynglyn 芒 hyn." Fodd bynnag, gyda鈥檙 gadair swyddogol wedi ei gwneud yn Lloegr y mae nifer yn anhapus mai i rwyun dros y ffin yr aeth y fraint tra bo crefftwr lleol ar gael. Ond eglurodd Mr Edwards: "Pwy bynnag sy鈥檔 rhoi鈥檙 gadair sy鈥檔 penderfynu ar gynllunydd a gwneuthurwr. Cymdeithas y Cymmrodorion sy鈥檔 rhoi鈥檙 gadair eleni gan eu bod nhw鈥檔 dathlu eu 200 mlwyddiant a mab un o鈥檙 aelodau yw Christopher Hilling." Fodd bynnag, pe byddai dau fardd yn gydradd am y Gadair eleni fe fydd yna o leiaf gadair yr un iddyn nhw! Ewch i ddarllen am y cadeirio
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |