![]() |
![]() |
|
![]() |
![]() |
![]() |
![]() MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() ![]() |
![]() Wythnos o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn pwyso ar y Cynulliad ac yn ceisio deffro Ni fydd Arolwg Iaith gan y Cynulliad yn effeithiol os na fydd yn ymrwymo hefyd i gael Ddeddf Iaith Newydd a Deddf Eiddo. Dyna fydd dadl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn cyfarfod cyhoeddus ar faes yr Eisteddfod lle bydd Rhodri Glyn Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol yn ateb cwestiynau am arolwg iaith sydd yn cael ei gynnal gan y Cynulliad ar hyn o bryd. Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Branwen Brian Evans wedi datgan "Os yw'r iaith Gymraeg i oroesi fel iaith gymunedol fyw yna mae'n bwysig fod ei statws ddeddfwriaethol yn cael ei gryfhau a bod deddfwriaeth ym maes tai a chynllunio fydd yn ei gwarchod yn ei chadarnleoedd." Y cyfarfod gyda Mr Thomas yw un o ddau brif ddigwyddiad y bydd y Gymdeithas yn canolbwyntio arnyn nhw yn Ninbych eleni. Angen deffro Ddydd Gwener fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali "Amddiffyn Iaith, Amddiffyn Cymuned". Neges y Gymdeithas eleni yw bod angen 'Deffro'. Yn y rali hon fe fyddan nhw'n mynd o amgylch y maes gan geisio deffro gwleidyddion i sylweddoli eu cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg a dyfodol cymunedau Cymru. Ar eu taith fe fyddan nhw'n galw yn unedau Plaid Cymru, y Blaid Lafur, y Ceidwadawyr, a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fe fyddan nhw'n cludo clociau larwm a gwely gyda nhw. Dywed y Gymdeithas fod y rhain yn "Symbolau o'r ffaith fod ein gwleidyddion yn cysgu tra bod yr iaith yn marw." Uchafbwynt y rali fydd pen y daith lle bydd y Gymdeithas yn galw yn uned y Cynulliad Cenedlaethol ar y maes. Gwahoddiad Yma wedyn fe fyddan nhw'n gosod proclemasiwn yn gwahodd pobol i Rali Glyndwr a fydd yn cael ei gynnal ar Fedi 15fed y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Am wythnos cyn y rali honno fe fydd Ffred Ffransis wedi bod yn ymprydio y tu allan i adeilad y Cynulliad dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Yn ogystal 芒'r ddau brif ddigwyddiad bydd gan y Gymdeithas 'Dafodau Dyddiol II' fydd yn crynhoi eu gweithgaredd bob diwrnod. Hefyd fe fydd ganddyn nhw Ddeiseb Dros Ddeddf Iaith Newydd fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad yn y rali ar Fedi 15 fed. Gweler hefyd a
| |
![]() © MMI |
![]()
|
![]() |
About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |