Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Pigo ar fy Ffrind = Pigo Arna i

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Ffrind newydd y merched, Jacqui'n cyfaddef i Lara fod hi'n hoyw.

Yn y parc sgrialu, mae Akira (12) yn cyflwyno Lara (12) a Monica (11) i'w ffrind Jacquie (13). Yn fuan iawn, mae Jacquie yn synnu'r criw gyda'i sgiliau sgrialu rhyfeddol. Wedi'i hysbrydoli gan ei sgiliau hyderus, gofynna Lara i Jacquie ei helpu i ddysgu rhai o'r triciau. Wrth i Lara ddod i adnabod Jacquie yn well, mae ei hedmygedd ohoni'n tyfu. Byddai Lara wrth ei bodd yn gallu sgrialu cystal â Jacquie, ond caiff ei hatgoffa o hyd am ei diffyg talent gan Max (16) sy'n ei phryfocio.
Drannoeth, yn y parc, mae Jacquie yn ymddiried yn Lara ac yn dweud wrthi ei bod yn hoyw. I ddechrau, dydy Lara ddim yn poeni am y peth, ond ar ôl breuddwydio am Jacquie mae hi'n dechrau poeni a ydy'r teimladau o edmygedd a chyfeillgarwch cryf yn golygu rhywbeth mwy.
Mae Akira yn ei sicrhau nad ydy hynny'n golygu ei bod hithau'n hoyw hefyd, er ei fod yn beth perffaith naturiol i fod yn hoyw. Gan bryderu efallai bod Jacquie yn ei 'ffansïo' hi, penderfyna Lara ddweud wrth Jacquie nad ydy hi'n ei hoffi hi yn y ffordd ramantus.
Mae'n rhyddhad i Lara i glywed nad oedd sail i'w phryderon ac mai eisiau bod yn ffrind iddi hi oedd Jacquie a dyna'r cyfan. Mae Lara'n hapus nad ydy hyn wedi effeithio ar eu cyfeillgarwch o gwbl, ac mae'r ddwy'n cynllwynio i roi pin yn swigen Max.
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Cyfeillgarwch, Aeddfedu,Cyfunrywioldeb, Hoyw,Homoffobia

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i gychwyn trafodaethau am berthnasau un-rhyw. Dylai fod yn agored i grŵp mor eang â phosibl. Mae hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer asesu beth yn union mae grŵp cymysg o ferched a bechgyn yn ei wybod am berthnasau un-rhyw. Gellir defnyddio cymeriad Jacquie i archwilio ac astudio stereoteipiau - a ydyn nhw'n gallu bod yn wir? A allwn ni eu credu? A ydyn nhw'n deg? Agwedd arall sy'n werth ei hystyried ydy preifatrwydd. A ydy rhywioldeb yn rhywbeth preifat? Pam mae pobl yn teimlo fel hyn? Hefyd, gallech ddefnyddio'r bennod hon ochr yn ochr â sydd hefyd yn ymdrinâ pherthnasau un-rhyw.
Cynghorir athrawon i ymgynghori â pholisi addysg rhyw eu hysgol wrth benderfynu a ydy'r bennod yn addas.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• gwerthfawrogi amrywiaeth
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro a natur bwlio
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi
• sut i adnabod enghreifftiau o ragfarn a stereoteipio, a'u herio'n effeithiol .

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.

Gweler am ragor o wybodaeth.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú iD

Llywio drwy’r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú © 2014 Nid yw'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.